MRS. DOROTHY JONES. CAMBRIA , WISCONSIN.
Yn Cambria, Wisconsin, Tachwedd 28ain, 1901, ar ôl maith a phoenus gystudd, bu farw Mrs. Dorothy Jones, anwyl briod William Ap Jones, yn 63 mlwydd oed, gan adael priod ffyddlon, pedwar brawd, a thair chwaer mewn galar ar ei hol.Claddwyd hi yn hynod barchns y dydd Sadwrn canlynol yn mynwent Cambria, y Parchn. John O. Parry, R. H. Evans, John R. Johns, Breese P. a John R. Jones yn gwasanaethu.
Cafodd gladdedigaeth hynod o luosog, y capel yn orlawn o bobl, yr hyn oedd yn dangos ei bod yn sefyll yn uchel yn meddwl ei chydnabod.
Merch ydoedd i'r diweddar Morris Roberts a'i briod, gynt o Nant Uchaf, Llanberis, Gogledd Cymru. Yr oedd yn un o naw o blant, a'r ail o honynt i gael eu cludo i'r fynwent. Cafodd ei geni yn Nghymru, ac ymfudodd gyda'r teulu i'r wlad hon yn y flwyddyn 1846, gan ymsefydlu yn ardal Jerusalem, Welsh Prairie, Wisconsin.
Wedi bod gartref, yn weithgar a defnyddiol i'r teulu am lawer o flynyddoedd, symudodd i ardal Cambria, i gadw tŷ i'w brawd John; ac oddiyno. yn Mehefin 28ain, 1877, priododd gyda Robert Williams, Bontnewydd, gan aros am rai blynyddoedd yn Randolph, ac wedi hyny yn Cambria.
Bu Robert Williams farw Mehefin 2ail, 1892, a Mai 1, 1899, priododd hi drachefn gyda William Ap Jones, yr hwn undeb a fu yn dra dedwydd, ond hynod o fyr.
Yr adeg hon yr oedd ei chwaer, Mrs. Lloyd yn lled wael; a chan ei bod yn awyddus i fyned i Gymru, aeth Mrs. Jones a'i phriod yno gyda hi i edrych ar ei hol a'i hamddiffyn. Ond bu ei chwaer farw yn Lerpwl, a chladdwyd hi yn Nghymru, ond mynodd Mrs. Jones ddyfod a'i gweddillion yn ôl a'i chladdu yn mynwent Cambria, yr hyn oedd yn dangos llawer o ffyddlondeb ynddi i'w hanwyl chwaer.
Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ôl hyn dechreuodd ei hiechyd hithau adfeilio, ac er iddi hi, a phawb o'i hamgylch, wneyd eu goreu er ei hadferiad, bu y cwbl yn fethiant, a gorphenodd hithau ei gyrfa ddaearol yr adeg a nodwyd.
Yr oedd yn un o gymeriad hynod ddysglaer yn mhob ystyr. Cafodd ei dwyn i fyny mewn teulu crefyddol o'i mebyd, a derbyniwyd hithau yn gyflawn aelod o eglwys Jerusalem pan yn lled ieuanc, a byddai ei hymarweddiad bob amser yn deilwng o'i phroffes. Ond yn adeg y diwygiad, yn 1859, yr ymddadblygodd i'w llawn faint mewn ystyr grefyddol; cafodd rhyw ymweliad grymus yr adeg hono a'i gwnaeth yn hynod mewn dawn a brwdfrydedd, a pharhaodd o ran ei ddylanwad arni i raddau ar hyd ei hoes. Bu yn ffyddlon bob amser i ddylyn pob moddion crefyddol, ac yn aelod selog a defnyddiol o'r Ysgol Sabbothol.
Darllenai lawer ar y Beibl, a'i ddarllen i bwrpas, fel yr oedd yn hynod oleu yn ei gynwys. Deallai yn dda brif egwyddorion ei henwad (y M. C.) ac yr oedd yn dwyn mawr sel drostynt. Yr oedd o dymer bwyllog, cymedrol a dyddorol ei hymddyddanion; ac hwyrach na fyddai yn ormod dweyd ei bod yr helaethaf ei dawn o'r teulu, er nad oes neb o honynt yn brin iawn yn hyny. Cafodd gystudd poenus iawn am yn agos i flwyddyn, ac yn neillduol felly y pum' wythnos diweddaf y bu byw, ond dyoddefodd y cyfan yn hollol dawel a dirwgnach; yr oll a ddywedai ydoedd, "O, mi 'rydwyf yn sal."
Dywedai unwaith tua'r diwedd, "O, mi 'rydwyf yn dyoddef, ond beth ydyw y dyoddef hwn i ddyoddef pen Calfaria." Pan y daeth i feddwl nad oedd i gael gwella, aeth yn bryderus am ei chyflwr, ac yr oedd yn lled dywyll arni ar y cyntaf. Dywedai mae peth mawr a phwysig oedd marw; ond yn mhen rhai dyddiau, dywedai ei bod wedi goleuo arni, a bod pobpeth yn iawn; ei bod wedi cael goleu yn yr hen benill hwnw:
"Os daw y gyfraith yn ei grym.
A gofyn am berffeithrwydd im',
'Does gen i ond dangos d'angeu loes,
A'r gwaed yn llifo ar y groes."
Dywedai ei bod yn credu fod gwaed y groes yn ddigon effeithiol i agor y ffordd iddi at yr hwn a'i tywalltodd, ac yr ydym ninau yn credu hyny hefyd, a'i bod hithau yn gwybod hyny trwy brofiad erbyn hyn. Bellach, nid oes genym ond ffarwelio ag un eto o'n cydnabod a'n cyfoedion sydd wedi ein blaenu, a rhodio y llwybr ar hyd yr hwn na ddychwel byth yn ôl.
Chwerw o hyd i'r chwaer hon - ymadael
A'i mud'o drwy loesion
I'r bedd du. ar ol llu llon,
A fudwyd o'n cyfoedion.
Bellach, waeth i'n ymbwyllo - ar eu hol
Bydd rhaid i'n oll deithio;
Ac wedi hyn, cyd-huno
Mewn gweryd yn glyd dan glo.
Cambria, Wisconsin. W. W. Rowlands.