MR. ELIAS H. JONES. EMPORIA, LYON COUNTY, KANSAS.

Dydd Mercher, Mai 1af, bu farw Mr Elias H. Jones, Coal Creek, Emporia, Kansas, yn 55 mlwydd a 4 mis oed.

Genedigol oedd o Talsarn, Gogledd Cymru.

Ei rieni oeddynt John ac Anne H. Jones, Penybont.

Bu yn gweithio yn y chwarel am rai blynyddoedd, pryd y cawn i'w syched am addysg beri iddo ymadael o'r fro am ysgol yn Dublin, Iwerddon.

Yn 1869 gadawodd Dublin am Abergynolwyn, swydd Feirionydd, Gogledd Cymru, lle y bu mewn masnach nes symudodd i'r wlad hon yn Hydref 1881, ac yr ymsefydlodd yn Emporia, lle y bu hyd ei farwolaeth.

Cawn pan yn Abergynolwyn ei briodas a Ellen Lumley, merch i hen deulu parchus a thra chrefyddol Robert a Mary Lumley o'r lle.

Ganwyd iddynt saith o blant, a gwelsant bedwar ohonynyt yn eu blaenu i fyd yr ysbrydoedd, ac mae tri yn aros i gydalaru a'u hanwyl fam, sef John, Robert a Eliza; ynghyd hefyd a g amryw o'i berthynasau ef yn Nghymru - yn eu plith, ei fam oedranus yn ei hen gartref Penybont, a thri brawd a phedair o chwiorydd iddo mewn gwahanol fanau.

Y Goleuad Gorffennaf 3ydd 1901.