MRS. GAYNOR JONES, BARNEVELD, WISCONSIN.

Hydref 2ail, 1901, ar ol byr gystudd, bu farw y chwaer uchod, sef anwyl briod y diacon ffyddlon William Jones. Brodyr iddo ef oedd y diweddar Barchedigion John Jones, Brynrodyn, Arfon, G. C, a Griffìth Jones, Dodgeville, Wis. Merch ydoedd i William ac Ann Jones, Clynog, Swydd Gaernarfon, G. C. Ganwyd hi Hydref 12, 1826, yr oedd felly bron cyrraedd ei 75 mlwydd oed.

Cafodd ei dwyn i fyny yn eglwys Dduw, a bu yn ffyddlon i'w phroffes ar hyd ei hoes; yr oedd yn hanu o deulu gwir grefyddol. Pan yn 19 oed priododd gyda William Jones, Factory, Clynog, a sefydlasant mewn masnach yn Caergybi, Mon, lle hefyd y dewiswyd Mr. Jones yn flaenor.

Yn 1858, symudasant i'r wlad hon, gan sefydlu ar fferm yn agos i Barneveld, Wisconsin; wedi hyny buont yn cadw store yn Belmont ac Arena, ac yn ffarmio drachefn yn Clyde, gan symud tua phedair blynedd yn ol i Barneveld. Yn ei holl symudiadau yr oedd fel Abraham - y peth cyntaf wnai oedd codi allor i Dduw.

Gofalodd y wraig dda hon am ddwyn ei phlant i fyny yn ofn yr Arglwydd. Ganwyd iddynt luaws o blant, o ba rai y mae saith yn fyw ac yn cyd-alaru a'u tad ar ol priod a mam dyner ac anwyl, sef William H. a H. E. Jones, Arena; J. J. Jones a Mrs. A. E. Nichol, Clyde; E. L. Jones, Taconia; Mrs. J. E. Robinson, Fairmount, Minnesota, a Miss Laura Jones, yr hon fu yn gofalu mor dyner am ei mam, ac sydd eto yn fawr ei gofal am ei thad yn ei benaint a'i unigedd.

Yr oedd ein chwaer yn feddianol ar luaws o ragoriaethau oedd yn ei gwneyd yn deilwng o edmygedd.

Y dydd Sadwrn canlynol claddwyd yr hyn oedd farwol o'r chwaer yn Arena, yn ochr ei hanwyliaid oedd wedi ei rhagflaenu pryd y gweinyddwyd yn y ty gan y Parch. P. Gray Evans a'r ysgrifenydd, a'r Sabboth canlynol pregethodd yr ysgrifenydd bregeth angladdol oddiar Hebreaid 11:13-16, yn addoldy Barneveld. Nawdd ac amddiffyn y nefoedd fyddo dros ei phriod, ei phlant a'i pherthynasau yn eu galar.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad Ebrill 1902.