MR. JOHN FOULKES JONES. SALEM, MINNESOTA.
Dydd Mercher, Ionawr 23ain, 1901, bu farw y brawd gweithgar uchod. Bu yn dyoddef am lawer o flynyddau oddiwrth yr asthma, ond daeth y diwedd yn annysgwyliadwy.Ganwyd ein brawd Mehefin, 1841, yn nhy capel Ysgoldy, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni oeddynt Mr. a Mrs. Michael Jones.
Symudodd ei rieni i'r wlad hon yn 1846, ond arosodd ef yn ei ardal enedigol hyd 1870, gan wneuthur ei gartref gyda'i daid, sef John Foulkes, Maes y Dref.
Ymunodd mewn priodas â Miss Gaenor Grifflths, Cefn y Waen, ger Llandinorwig, yn 1864, a'r hon sydd wedi profi yn ymgeledd gymwys iddo yn mhob ystyr.
Ganwyd iddynt ddau o feibion, sef Robert F. ac Owen M. Jones. Yn 1870 ymfudodd i'r wlad hon, gan ymsefydlu gyntaf yn Sir Faribault yn y Dalaeth hon. Yn 1875 daeth i'r sefydliad hwn, ac yma gwnaeth ef a'i deulu eu cartref hyd adeg ei farwolaeth. Bu yn amaethwr gweithgar a llwyddianus. Safai yn uchel yn syniad pawb gafodd fantais i'w adnabod. Yr oedd iddo air da gan y sefydlwyr, a chredwn gan y gwirionedd ei hun.
Yr oedd yn aelod ffyddlawn o eglwys Salem, a bu yn dechreu canu am lawer o flynyddau. Rhoddodd y gofal i fyny o herwydd ei fod yn cael ei flino gymaint gan yr asthma, a dewiswyd ei fab Robert F. Jones yn ei le. Ond ar symudiad ei fab i gartrefu yn Lake Crystal dewiswyd ef yn ôl i'w swydd ddechreu y flwyddyn hon, a bwriadai yntau wneyd ei oreu.
Oddeutu chwe' blynyedd yn ôl dewiswyd ef yn flaenor gan yr eglwys uchod. Bu ei dad hefyd, y diweddar Michael Jones, yn ddiacon am flynyddau yn eglwys Salem. Bu ein cyfaill John F. Jones yn nodedig am ei ffyddlondeb. Yr oedd llwyddiant yr eglwys yn agos iawn at ei galon. Teimlai ddyddordeb dwfn yn holl symudiadau yr achos crefyddol, ac yn arbenig y Cyfundeb Methodistaidd. Bu yn gefnogydd ffyddlawn i bob symudiad oedd a'i amcan i wneuthur lles.
Cymerodd y claddedigaeth le y prydnawn Sadwrn canlynol, yr hwn oedd yn dra lluosog. Gwasanaethwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn. Wm. M. Jones Wm. E. Evans, Wm. C. Rowlands a D. Edwards. Gosodwyd y gweddillion i orwedd yn mynwent Judson. Boreu Sul, yn Salem, traddodwyd pregeth goffadwriaethol gan weinidog yr eglwys.
Cydymdeimlir yn fawr â Mrs. Jones, y ddau fab, y ddwy chwaer, Mrs. Howell Phillips, Tracy, Mrs. Mary Jones, Judson, a'r brawd Robert M. Jones, Butternut Valley, ac eraill o'r perthynasau yn y brofedigaeth chwerw sydd wedi eu cyfarfod.
Pasiodd eglwys Salem benderfyniad o gydymdeimlad a'r teulu trallodedig.
D. Edwards.