MR. OWEN JONES. BLISSVILLE, VERMONT.

The fiftieth anniversary of married life are so rare that comparatively few attain, and when they occur it is well to note the fact. On Friday evening, September 29th, the immediate relatives of Owen Jones and wife gathered around the family hearth at their home in Blissville, a little hamlet about one mile from Fair Haven to pay their respect to the aged couple.

There were present his sons, Owen O., Robert O., David, Fred and Rueben, and their only daughter, Mrs. A. B. Kidder, and Mr. Kidder of Hydeville. One son John, who lives in Eerie, Pennsylvania, was the only one of the children not present. There were also nine grandchildren present.

Owing to the old mother's feeble health it was deemed best to confine the party to their near relatives only.

Mr. Jones has been a deacon in the Blissville, Welsh C. M. church for thirty years.

They were married in Maine and lived there about two years and moved to the vicinity in which they now live forty eight years ago. The children and grandchildren presented their respected parents with a handsome purse of gold coin. A sumptuous dinner was prepared and served to those who spent the afternoon and evening at the old home.

Poultney Journal ~ October 6th, 1899.


MR. OWEN JONES. BLISSVILLE, VERMONT.

Mab ydoedd yr ymadawedig i John Owens, Rhiwlas, Llanddeiniolen, Gogledd Cymru.

Yr oedd ei dad a'i fam Elizabeth yn enedigol o blwyf Penmynydd, Môn.

Breintiwyd Owen Jones â rhieni crefyddol a gofalus am grefydd deuluaidd. Nid rhyfedd ei fod yn ddyn caredig a siriol ac egwyddorol grefyddol. Yr oedd wedi hanu o deulu felly.

Daeth ef a'i briod o Maine i Vermont yn 1851, ac ymsefydlasant yn Blissville, lle y buont hyd ddiwedd y daith. Dewiswyd ef yn ddiacon yn Blissville, yr hon swydd a lanwodd a'i dyledswyddau priodol. Ac mae John ei frawd yn yr un swydd yn eglwys Poultney, Vermont. Blaenoriaid eglwys fechan Blissville pan y cefais y fraint o fyned yno i'w bugeilio, ydoedd John J. Jones, David Morris, Griffith J. Jones ac Owen Jones. Erbyn hyn y mae yr oll ond y cyntaf wedi myned i'r nefoedd. Ie, yn sicr, i'r nefoedd. Nid oeddynt yn gymwys i'r un lle arall.

Ni welais erioed flaenoriaid mor unol, ac yn meddwl cymaint o'u gilydd. A sylwais pan y dygwyddai yr Anrhydeddus J. J. Jones fod yn absenol o'r seiat o herwydd pellder ffordd, neu ystorm, y byddai y gweddill yn teimlo eu bod wedi colli eu cefn. A rhyw arwyddion boddhad ar eu gwyneb pan welent ef yn dyfod i fewn. Ac nid oedd neb yn fwy felly nag Owen Jones.

Yr oedd yn hawdd gwybod ar wyneb ein cyfaill ei fod yn ddyn duwiol. Ni allai dim ond Crist yn y galon ffurfio y fath sirioldeb gwynebpryd. Mae rhai gwynebau, mae yn wir, yn addaw gormod, ond nid felly y brawd hwn. Yr oedd cynefindra ag ef yn cadarnhau eich cred am dano, mai dyn yn byw llawer yn nghymdeithas ei Dduw ydoedd. Casai ymddangosiad a ffug crefyddol. Nid oedd yn gymodlawn a phrofiadau gwneyd, heb wirionedd yn sail iddynt. Yr oedd yn wastad yn dangos ei hun y peth ydoedd. Yr oedd crefydda yn naturiol iddo. Ac nid oedd yn cael rhyw lawer o drafferth i gael ei hunan i agwedd grefyddol.

Pan y byddai achos yn galw am iddo ddyfod allan yn llym yn erbyn pechod, fe allai ddyfod. Yr oedd hyn yn nodedig yn ei fam. Rhoddai argraff ar feddwl pawb ei fod o ddifrif. Yr oedd yn gwasgu y ceryddedig at ei galon, ac yn bwledu at y pechod. Yr oedd dull Owen Jones o geryddu yn foddion o ras. Ambell un wrth geryddu yn fedrus mewn llwyddo i wneyd ei hun yn lle y pechod yn wrthrych i'w gasau. Gwelsom rai yn troseddu mwy yn eu cerydd, na'r hwn a geryddid ganddynt. Ni ddylai rhai o'r fath gael myned yn swyddogion eglwysig, ac os wedi cael myned, ni ddylent gymeryd rhan yn y fath amgylchiadau.

Cefais yn nghwmni John Hughes ac yntau lawer seiat dda ar y ffordd adref o Blissvlle. Yr oedd y ddau yn byw y naill yn ngwyneb y llall, haner y ffordd i Fair Haven. Yr oedd y ddau yn gyfeillion, fel Dafydd a Jonathan, a'u gwragedd fynychaf yn gaethiwus gan afiechyd. Yr oeddynt fel y ddau ddysgybl ar y ffordd tuag Emaus, ac yn aml yn cael cwmni y trydydd. Yr wyf yn cofio i ni lawer gwaith gael dadl mewn teimladau da ar rai materion dwfn a dyrys. Yr ochr geidwadol fyddai fwyaf naturiol i Hughes. Yr oedd raid iddo ef gael seiliau cedyrn fel Thomas dan ei draed, cyn y gallai fentro syniad newydd. Ond yr oedd ein harwr yn fwy anturiaethus. Hughes ddywedai, "Nid oes gan ddyn nac ewyllys na gallu i 'madael a'i bechod, fel yna mae hi Owen Jones." Yntau gan droi ar draws y ffordd, a chyfodi ei fys ddywedai, "Rhaid John Hughes fod rhywbeth mwy na nyna ynddi, wel di, fasa Duw ddim yn rhoi gor- chymyn i ddyn adael ei bechod os nad oes ganddo allu ryw ffordd." Dywedai Hughes, "Mae y rhai sydd i gael eu hachub wedi cael eu hethol Owen Jones." Ac meddai yntau, "Gwir John, ond rhaid iddynt arfer a moddion, neu chan nhw mo'u hachub er eu bod wedi eu hethoL"

Nid yw hyn ond engraifft o ganoedd o ymresymu gafwyd ar y ffordd. Teimlwn weddill y daith wedi eu gadael yn hynod annifyr, dim ond tywyllwch, ac ambell i Wyddel meddw yn dyfod i'm cyfarfod. Teimlaf golled o gwmni y ddau Gristion rhagorol yma. Ni byddai ein cyfaill byth heb rywbeth i'w ddweyd yn y seiadau. Byddai J. J. Jones fynychaf yn agor maes, a byddai yn hawdd siarad ar awgrymiadau Jones. Codai ein harwr ar ei draed yn wylaidd, a siaradai gan gyfeirio ei fys a'i lygaid at y Beibl oedd ar y bwrdd o flaen y pwlpud. Ni welsom yr arferiad yna gan neb ond efe. Yr oedd fel pe bai yn teimlo presenoldeb Duw yn ei air tra yr oedd yn llefaru.

Yn ei barodrwydd bob amser i gymeryd rhan, yr oedd yn wahanol i gymeriad neillduol arall yn mherson William Roberts. Gan fod y brawd hwn rhwng dau a thri chant o bwysau, yr oedd gwaith mawr rai adegau ei gael ar ei draed. Ond wedi ei gael, nid yn fuan yr eisteddai, a'r ffordd i'w gael ar ei draed oedd gofyn cwestiwn o barth person Crist a'r Iawn iddo, a deuai i fyny, a siaradai nes byddai pawb yn cael eu boddhau a'u gwresogi, ac nid oedd neb yn teimlo yn well nag Owen Jones, ac yn mwynhau y dull o'i gael ar ei draed. Bum yn synu at ffyddlondeb y ddau gyfaill Jones a Hughes, wedi gweithio yn y chwarel ddiwrnod ddigon caled, gwaith adref yn eu haros, ac mor ofalus ac ymdrechgar oeddynt i ddyfod i'r capel, ac yn fynych ar nosweithiau eithafol oer.

Nid oedd cynulleidfa, canu na gogoniant allanol yn eu tynu. Rhaid credu mai cariad pur at berson yr Arglwydd Iesu oedd yno. Pwy all wadu gwirionedd Cristionogaeth yn ngoleuni peth fel hyn?

Cyn gadael y cymeriad rhagorol hwn dywedwn air am dano fel tad yn ei deulu. Yr argraff a roes ar feddyliau yr oll ei fod yn Gristion ei hun, ac yn awyddus iddynt hwythau drafaelio y ffordd sydd yn arwain i'r bywyd. Peth mawr i rieni wrth adael y byd yw cael lle i gredu eu bod yn serch eu plant, a'u bod i raddau yn gynllun o efelychiad ganddynt. Y nesaf yn ei dylanwad at esiampl Iesu Grist yw esiampl tad a mam. Gall plant y brawd hwn gyfeirio at sirdoldeb a dwysder eu mam dduwiol a chyngorion ac esiampl tad; gofalus Ac yn ddiameu eu bod yn awr yn teimlo yn dda, yn feibion a merched, iddynt ddangos y fath ofal am eu rhieni oedranus.
D. M. Jones, Horeb, Van Wert.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1901.


OWEN JONES. BLISSVILLE, VERMONT.

Owen Jones, an old resident of Hydeville, died January 1st, after an illness of one week of pneumonia, aged 71 years.

He had lived in the vicinity of Hydeville fifty years and was highly respected by all. The last day of last January his wife died, since that time he has made his home with his only daughter, Mrs. A. B. Kidder and she lies now in a very precarious condition with pneumonia, in fact there is but little hopes of her recovery.

Mr. Jones leaves besides his daughter, six sons, Owen, Robert, David and Fred, who reside in Poultney, John of Erie, Pennsylvania, and Reuben of Fair Haven.

The funeral was held on Friday, January 4th, many from this place and the surrounding towns attended.

Poultney Journal ~ January 11th, 1901.