MR. OWEN M. JONES. SALEM, MINNESOTA.

Y mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi am farwolaeth Owen M. Jones, sef mab ieuengaf i'r brawd John F. Jones. Daeth adref o Colorado i gladdu ei anwyl dad, ac yn fuan cymerwyd ef yn wael gyda'r pneumonia. Bu farw dydd Mercher, Chwefror 13eg, 1901.

Cymerodd y claddedigaeth le y dydd Gwener canlynol, pryd y daeth tyrfa barchus i dalu y gymwynas olaf, ac i ddangos eu cydymdeimlad a'r teulu yn eu mawr drallod.

Gwasanaethwyd gan y Parchn. Wm. M. Jones a D. Edwards. Y Sul canlynol traddodwyd pregeth ar yr achlysur yn Salem gan weinidog yr eglwys.

Ganwyd Owen M. Jones yn Nghymru. Daeth i'r wlad hon pan yn un ar ddeg mlwydd oed. Sefydlodd yma gyda'i rieni hyd o fewn tair blynedd yn ôl, pan yr aeth i Dalaeth Colorado, gan ddysgwyl cael ymwared oddiwrth yr asthma, yr hwn oedd yn ei boeni er's llawer o flynyddoedd.

Profodd y cyfnewdiad yn llesol iddo. Yr oedd Owen yn 30 mlwydd oed, yn ŵr ieuanc siriol a charedig, ac yn neillduol o boblogaidd yn mhlith ei gydnabod.

Cafodd ei fagu yn yr eglwys, a bu yn aelod ffyddlawn hyd derfyn ei oes. Yr oedd yn Gristion cywir, ac nid oes ameuaeth nad oedd marw yn elw iddo. Yr ydoedd hefyd yn aelod o'r K. of P. Lodge, ac anfonodd aelodau y gymdeithas uchod wreaths prydferth ddydd ei angladd, ac hefyd aelodau y Gymdeithas Ymdrechol yr un modd.

Cydymdeimlir yn fawr â Mrs. Jones a'i mab Robert F. Jones a'r teulu oll, yn y brofedigaeth chwerw hon sydd wedi eu cyfarfod mor fuan ar ôl colli priod a thad tyner a gofalus.

Nerth a gaffont yn y dydd blin i lechu yn nghysgod y gŵr sydd yn gwybod beth sydd oreu er ein lles.
D. Edwards.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1901.