RICHARD J. JONES. MONTGOMERY COUNTY, IOWA.
Bu farw y pregethwr Richard J. Jones yn yr 87ain mlwydd o'i oedran, Ebrill 17eg, 1901, yn ei gartref yn Wales, Iowa. O herwydd llosgiad dyddiaduron a phapyrau yn cynwys cofnodion ei yrfa yn Nghymru a'r wlad hon, mae defnyddiau ysgrifenydd ei gofiant yn dra phrin. Rhoddir i lawr y prif symudiadau gyda chymaint o gywirdeb ag a ellir.Ganwyd ein gwrthrych yn agos ì Aberdyfi, Sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1814. Cyn hir symudodd y teulu i le o'r enw Penmaen Ucha, o fewn tua dwy filldir i Dolgellau. Symudasant drachefn i le o'r enw Hafod Dywyll, yn yr un Sir. Tra yn trigianu yn y lle hwn y dechreuodd Mr. Jones bregethu. Oddiyma hefyd yr aeth i Athrofa y Bala am dymor, ac fel Richard Jones, Hafod Dywyll, y cyhoeddid ef i bregethu yn nheithiau Sabbothol Sir Feirionydd. Yn mhen amser wedi ei ddychweliad o'r Bala aeth i Ddinas Mawddwy i gadw ysgol. Tra yma, sef yn 1857, yr ymbriododd a Miss Jane Jones, yr hon a fu yn briod ffyddlon iddo hyd ei marwolaeth tua chwe' blynedd yn ol.
Symudasant o Dinas Mawddwy i le o'r enw Cefncoed, lle y bu Mr. Jones yn llenwi yr alwedigaeth o felinydd hyd ei symudiad i America yn y flwyddyn 1868. Ar eu dyfodiad i'r wlad hon sefydlasant yn gyntaf yn ardal Proscairon, Wisconsin, ond ni buont yno ond am tua blwyddyn, pryd y symudasant i gymydogaeth Williamsburg, Iowa. Wedi bod yma rai blynyddoedd daethant ì Green County, Iowa. Nid oedd yn y lle hwn un fantais grefyddol Gymreig, ac yn fuan, sef yn y flwyddyn 1881, daethant i'r gymydogaeth hon i ymgartrefu bellach hyd y diwedd.
Yr oedd Mr. Jones yn ddyn o alluoedd meddyliol cryfion, ac yn meddu ar wybodaeth gyffredinol helaeth, ond nid ond yn meddu y gallu hwnw i osod y pethau hyn yn y golwg i'r fantais oreu, sydd wedi dwyn cryn enwogrwydd i ddynion llai eu hadnoddau. Er iddo fod yn bregethwr rheolaidd gyda'r Corff am dros haner canrif, ni chafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth.
Cyn ei symudiad i America yr oedd nifer pregethwyr anordeiniedig gyda'r Methodistiaid yn Nghymru yn lled luosog. Sefydlodd yn America yn y Gorllewin pell, lle yr ydoedd yr egìwysi yn ychydig a gwasgaredig, ac yr oedd angenrhaid arno yntau i ymroddi yn lled lwyr gydag amgylchiadau y bywyd hwn fel amaethwr, fel na ddaeth i'w ran yr anrhydedd a deilyngai ei allu a'i gymeriad.
Pregethodd lawer yma a thraw yn egiwysi y Gorllewin a hefyd yn yr eglwys hon, lle y bu yn aelod am ugain mlynedd. Tystiolaeth unfrydol ei wrandawyr yw, fod ei bregethau yn gyfoethog o feddwl, ac yn dangos cydnabyddiaeth lled lwyr ag egwyddorion mawr yr efengyl a bregethai. Bu yn dra ffyddlon fel aelod a swyddog yn ei eglwys tra y bu hyny yn ei allu.
Yn mlynyddoedd olaf ei oes daeth anmhariad ar ei feddwi. Pan welsom ni ef gyntaf nid oedd amgen yr adfeilion yn y golwg, ond tystiolaethai yr adfeilion am gadernid yr adeilad gynt. Er mai blynyddoedd tywyll ar ei feddwl oedd y blynyddoedd olaf, nid oeddynt heb lewyrch. Ei brif gydymaith yn y tymor hwn oedd y llyfr fu yn brif destyn ei efrydiaeth flaenorol, sef y Beibl, ac o'i addewidion ef tynai gysuron oeddynt belydrau i wasgaru tywyllwch y glyn.
Wrth derfynu hyn o sylwadau dywedwn yn ngeiriau yr Iesu wrth Nathanael, "Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd twyll. "Gofalwyd yn dyner am yr hen dad yn mlynyddoedd henaint a llesgedd gan ei fab a'i briod, Mr. a Mrs. William R. Jones. Gydag ef gadawyd i alaru ddau o blant, Mr. J. R. Jones, Wales, a Mrs. Aleenan Wililiams, Randolph, Nebraska.
Claddwyd y gweddillion yn mynwent Wales pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. O. Thomas a H. C. Griffith. Y Sabboth dylynol traddodwyd pregeth goffadwriaethol ar Heb. 13: 7, gan yr ysgrifenydd - H. C. Griffith.