MRS. ANN RICHARDS, EDWARDSDALE, PENNSYLVANIA.

Chwith genym yw ceisio rhoddi byr gofiant o'r chwaer anwyl uchod, yr hon fu farw bore Llun, Rhagfyr 30ain, 1901, ac a gladdwyd y dydd Mercher canlynol yn mynwent Ashley, Pennsylvania.

Merch ydoedd i Robert ac Ellen Williams, Clynog, Arfon, ac wedi hyny o Penybryn, Dyffryn Nantlle. Ganwyd hi yn nghartref ei thaid a'i nain, Gerddi Gleision, Lleyn, yn 1853.

Bu yn briod ddwywaith; y tro cyntaf gyda Thomas Jones, y Crydd, yr hwn fu yn flaenor o radd dda yn Hyfrydle, Talsarn. Byr fu'r briodas hon, a chawn iddi yn fuan briodi eilwaith ag Edward Richards, Dolgellau.

Symudodd i'r wlad hon yn 1886, gan ymsefydlu yn Ashley, Pennsylvania, ac oddiyno i Edwardsdale, lle yr arosodd hyd ei marwolaeth. Y mae dau frawd a thair chwaer iddi yn y wlad hon, sef Ellis R. Williams, Dorranceton, a Robert Williams, Wilkesbarre; Mary Hughes, Wilkesbarre; Jane Morris, Coal Rain, a Sarah Williams, Scranton. Hefyd brawd a chwaer yn Nghymru, sef Thomas, Creigiau Mawr, Talysarn, ac Ellen, yn Cyttir, Brynrefail, Arfon.

Un rhinwedd ynddi oedd ei ffyddlondeb i foddion gras. Pa gwrdd bynag fyddai yn y capel ceid gweled Mrs. Richards yno; 'doedd yr un cyfarfod yn rhy ddisylw ganddi i fod yn bresenol, hyd yn oed cyrddau bach y plant. Ac nid oedd ryfedd iddi ddweyd nos Sul cyn ei marwolaeth, na byddai angen myned a hi i'r capel ddydd ei hangladd, gan ei bod wedì bod yn ffyddlawn iddo ar hyd ei hoes, a hyny trwy lawer o anhawsderau.

Nid oedd ei hiechyd yn gryf, a chafodd ran helaeth o brofedigaethau y byd i guro arni, ac i'r capel yr oedd yn dyfod am oleuni a thawelwch yn nhywyllwch a thwrrf yr ystorm. Ac ni raid petruso dweud ei bod erbyn hyn wedi clywed y geiriau hyny yn cael eu llefaru, "Da was da a ffyddlawn, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Peth arall oedd ei pharodrwydd i wneyd a allai gydag achos Iesu Grist heb ddim trwst o gwbl, fel yr oedd yn rhaid credu am dani ei bod yn gwneyd y cwbl o gariad at Iesu Grist a'i achos, ac nid er mwyn cael ei gweled gan ddynion. Nid oedd yr un gornel yn rhy dywyll, na gwaith rhy ddisylw ganddi ei wneud; ac yr oedd y llu mawr ddaeth i'wr hebrwrng ddydd ei hangladd yn dangos yn amlwg ei bod yn uchel ei pharch gan ei chymydogion a'i chydnabod.

Yr ydym fel eglwys yn teimlo çolled ar ei hol, a sicr yw fod ei phriod a'r plant, sef Tommy, Robert, Lizzie ac Edward, yn gweled ei lle yn wag ac yn hiraethu amdani. Yr Arglwydd a godo gymeriadau tebyg iddi eto yn ein heglwys, ac a roddo nerth i'r teulu i ddal y brofedigaeth.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad Ebrill 1902.