MRS. CATHERINE ROBERTS. CALEDONIA, WISCONSIN.

Ganwyd Mrs. Roberts yn Penybryn, Ffestiniog, Gogledd Cymru, Ebrill 19eg, 1811.

Merch ydoedd i Robert a Laura Williams. Yr oedd ei thad yn flaenor o radd dda, yn gyntaf yn Capel Gwyn, yna yn Bethesda, Blaenau Ffestiniog, wedi hyny yn Seion, Welsh Prairie, Wisconsin. Yr oedd y Parchn. Robert Thomas (Ap Vychan), ac Edward Stephens (Tanymarian) yn berthynasau i'r teulu.

Yn 1836 ymbriododd hi a William W. Roberts, Tyndrain, Trawsfynydd, ac yno y buont yn byw hyd 1845, pryd y daethant i'r wlad hon, gan fwrw eu coelbren yn Racine, Wisconsin.

Yn 1849 symudasant i'r sefydliad hwn.

Yn 1888 bu farw ei hanwyl briod, ac o hyny hyd ei marwolaeth hithau, sef Mawrth 3ydd, 1901, bu ei merch Miss Gwen E. Roberts yn cydfyw â hi yn ei hen gartref, gan fod yn ofalus o honi yn ei hen ddyddiau. Yr oedd Mrs. Roberts wedi bod yn wraig a mam ofalus a thyner, yn bryderus am lwyddiant ei phlant yn dymorol ac ysbrydol. Cafodd fyw i fyned o fewn ychydig wythnosau i 90 mlwydd oed, a phan ddaeth y diwedd, fe ddaeth yn hynod o annysgwyliadwy. Cafodd groesi yr afon megys heb yn wybod iddi ei hun.

Mawrth 6ed claddwyd yr hyn oedd farwol yn ymyl ei phriod a rhai o'i phlant oedd wedi ei rhagflaenu, yn mynwent y capel o'r hwn y bu yn hynod o ffyddlon hyd y gallodd. Gweinyddwyd yn y tŷ ac yn y capel gan y Parchn. John R. Jones (Hendref), Edward Roberts (M. C.), Milwaukee, a Hawley Caledonia.

Fel y gwelir, cafodd ein chwaer a'n hen fam yn Israel, ei magu yn yr eglwys, a'i derbyn yn gyflawn aelod pan yn ieuanc, ac ni chafodd yr eglwys erioed friw oddiwrthi. Yr oedd ei bywyd yn holloi unol a'i phroffes. Yr oedd yn arfer darllen llawer ar y Beibl a llyfrau da eraill, a bu yn darllen y "Cyfaill" yn gyson ar hyd ei hoes yn y wlad hon, ond yn ddiweddar yr oedd ei golygon wedi gwaethygu, fel nad oedd yn gallu darllen ond y Beibl mawr bras, ond byddai ei merch yn ofalus i ddarllen iddi.

Yr oedd yn wraig hynod o ddi-absen. Nid wyf yn meddwl y bu gair croes, a theimlad drwg ganddi at neb erioed, ond yr oedd bob amser yn llawen a siriol gyda phawb, yn hen bobl, yn ganol oed, ac yn neillduol gyda'r plant. Wedi iddi fethu dyfod i'r capel byddem yn cael cyfarfodydd gweddio gyda hi, a byddai ei hysbryd mor siriol, fel y byddem yn teimlo ein bod wedi derbyn bendith yn ei chymdeithas, ac yn cael lle cryf i gredu fod yr Arglwydd trwy ei Ysbryd yn y lle.

Dywedai ei merch ei bod wedi dyfod adref o'r capel lawer gwaith a chael ei mam yn cadw cyfarfod gweddi. Adroddai benod o'r Beibl, canai emyn, yna gweddiai am lwyddiant yr achos, yna dros ei hwyrion. Yr oedd ei gofal yn fawr am yr achos hyd y diwedd, ac er iddi gyfarfod a llawer o brofedîgaethau, sef gweled claddu ei rhieni, brodyr a chwiorydd, ei hanwyl briod a'i phlant anwyl, ac yn ddiweddaf ei hanwyl ferch Laura, sef Mrs. Hugh Hughes, Chicago, Illinois; er y cyfan yr oedd yn cael nerth i ddweyd "Dy ewyllys dí a wneler," ac ymdaweìu ac ymorphwys ar yr Hwn yr oedd wedì ymddiried ynddo er yn ieuanc.

Gadawodd i alaru ar ei hol chwech o blant, sef Robert W. Roberts, Barneston, Iowa; Gwen E. Roberts, James W. Roberts, yr hwn sydd yn swyddog yn Hebron, Chicago; Cadwaladr Roberts a Mrs. J. Owens, Chicago; J. W. Roberts, Portage, Wisconsin, yn nghyd ag amryw wyrion ac or-wyrion.

Nid oes genym yn awr ond gadael ein hanwyl chwaer, gan obeithio y bydd i'w hesiampl a'i gweddiau fod yn fendith i'w phlaat a'i hwyríon, ac i'r achos oedd mor agos at ei chalon.
H. R. Williams.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1901.