MRS. ELIZABETH ROBERTS, MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Merch ydoedd i Richard a Jane Jones, Pandy, Penmachno, Gogledd Cymru.Ganwyd hi Chwefror 12fed, 1816.
Yn 1836 ymbriododd â W. E. Roberts, yn ddiweddarach Parch. W. E. Roberts, genedigol o Llanllyfni, G. C, a pherthynas agos i'r Parchn. John Roberts, Llangwm, a Michael Roberts, Pwllheli.
Bu iddynt wyth o blant, tri o ba rai sydd yn fyw; Mrs. Riehard Owen, Cambria, Wisconsin, a Mrs. S. S. Jones a Robert Roberts o'r ddinas hon.
Yn 1847 daeth y teulu i'r wlad hon, ac ymsefydlasanat yn Welsh Prairie, Wisconsin. Yno ymroisasant i amaethyddiaeth, gan fod yn ffyddlon gyda chrefydd yr un pryd, a llwyddodd yr Arglwydd eu llafur. Wedi gwerthu eu fferm symudasant i Randolph, lle y bu farw y Parch. W. E. Roberts Awst 27ain, 1881.
Oddiyno symudodd Mrs. Roberts i Milwaukee; oddiyno symudodd i'r ddinas hon yn 1886, lle y cadwai gartref i'w mab Robert, yr hwn, fel y gweddill o'r plant, fu yn garedig wrthi, ac yn ofalus am dani hyd ei hymadawiad i fyd gwell Chwefror 26ain, 1901, yn 85 mlwydd oed.
Yr oedd Mrs. Roberts yn wraig grefyddol iawn. Anfynych y ceir neb wedi cyraedd gradd mor uchel o dduwioldeb. Ystyrid hi yn fam yn Israel ar y cyfrif hwn, ac edrychid i fyny ati fel un o anwyliaid Sion. Clywais un brawd yn dweyd am dani mai un o'r prawfion goreu y gwyddai ef am dano o ddilysrwydd crefydd Iesu Grist oedd bywyd a phrofiad Mrs. Roberts.
Yr oedd yn byw mor agos i Dduw yn y blynyddoedd diweddaf fel y teimlem mai llen deneu iawn oedd rhyngddi ag ef. Yr oedd yr awyr ysbrydol mor deneu wrth erchwyn ei gwely fel y teimlem ryw hawsder i esgyn at Dduw yn ei gwydd. Pa ryfedd? canys yr oedd fel Enoch yn rhodio gyda Duw! Yr oedd Duw a'i bethau wedi dod yn bobpeth iddi hi - tŷ Dduw oedd ei thŷ, pobl Dduw oedd ei phobl, pethau Duw oedd ei phethau, llyfr Duw oedd ei llyfr, gwasanaeth Duw oedd ei gwasanaeth, ie, a llwybrau Duw oedd ei llwybrau; ac fel un yn ffafr Duw meddai barch gyda dynion hefyd.
Dywedai un a'ì hadwaenai er's dros haner can mlynedd: "Er nad oedd hi, mwy na'r gweddill ohonom, heb ei ffaeleddau, ond nad oedd ef yn gwybod am neb a chan lleied o ffaeleddau â Mrs. Roberts - ei bod yn un o'r rhai hyny oedd wedi llwyddo i fyned trwy y byd heb i neb yn ei glyw ef ddweyd yn ddrwg, ond pawb yn dweyd yn dda am dani; ac y mae bywyd fel hyn pan ei coronir gan dduwiolfrydedd dwfn yn dylanwadu yn dda.
Haera rhai nad yw crefydd yn gofyn am fanylwch gyda hi. Y mae y tir uchel mewn duwioldeb a gyraeddodd ein chwaer yn gwrthdystio yn erbyn y fath haeriad. Trwy fanyldra a dyfalwch y cyraeddodd hi ei choron. Manwl oedd hi gyda chadwraeth y Sabboth, y ddyledswydd deuluaidd, darllen ac efrydu y Beibl. gyda gweddio, dilyn moddion gras, a chyda chyfranu at achos crefydd a phob achos teilwng arall.
Yn y pethau hyn oll rhagorai ei phriod a hithau. Bydd colled fawr i'n heglwys ar ei hol fel cyfranydd at bob achos teilwng. Collodd y "Cyfaill" hefyd ddarllenydd cyson.
Rhyw fyw yn Rhosydd Moab, gyferbyn a'r Iorddonen yr oedd yn ddiweddar, yn hiraethu am ddyfodiad yr Archoffeiriad i agor y ffordd iddi i'w Chanaan nefol. Gan y carai ef mor fawr rhyfeddai ei fod cyhyd heb wneyd ei ymddangosiad, a methai a deall paham yr oedai ei ddyfodiad. Ychydig a feddyliai mor werthfawr oedd ei bywyd a'i gweddiau i ni fel gweinidog ac eglwys.
O'r diwedd fe ddaeth, a chafodd hithau fyned drosodd heb brin wlychu ei thraed.
Dydd Iau, Chwefror 28ain, hebryngwyd ei gweddillion i vault mynwent Layman i aros yr adeg pan ei symudir at ei phriod i fynwent Cambria, Wisconsin.
Cafodd angladd parchus, pryd y gwasanaethwyd gan yr ysgrìfenydd a Dr. Swift.
Sabboth, Mawrth 24ain, pregethwyd pregeth goffadwriaethol iddi gan yr ysgrifenydd oddiar Luc 2: 36-38. Heddwch i'w llwch a nawdd y Nef fo dros ei theulu.
R. E. Williams.