JANE ROBERTS. BARNEVELD, WISCONSIN.

Gorphenaf 25ain, 1901, bu farw o'r darfodedigaeth y chwaer ffyddlon a hawddgar, anwyl briod Mr. John Roberts.

Merch ydoedd i David a Gwen Williams. Druid, yn agos i Corwen, Gogledd Cymru. Daeth ei rhieni i America pan oedd hi ond 7 mis oed, gan sefydlu yn Brooklyn. Wisconsin. Symudasant oddiyno ar ffarm yn Ridgeway, Swydd Iowa, Wisconsin. Yna priododd a Mr. John Roberts, Barneveld. Ganwyd iddynt 4 o blant. Bu un farw, sef Robert. Y mae y tri eraill yn fyw gartref gyda'u tad yn galaru ar ol mam dyner a gofalus, sef David Hugh, Gwen a Lloyd. Gadawodd hefyd frawd a thair elrwaer, sef David L. Williams, Mrs. J. Malone, Mrs. R. Kendrick, oll o Barneveìd, a Mrs. Frank Powell o Black Earth, Wisconsin.

Yr oedd ein chwaer o dueddiadau crefyddol er yn ieuanc. Cafodd ei derbyn yn gyflawn aelod o eglwys yr Annibynwyr yn capel log, Ridgeway, pan yn 13 oed, gan y diweddar Barch. David Lewis, a bu yn aelod ffyddlon gyda hwy hyd bedair blynedd yn ol, pan yr ymunodd ei phriod gydag eglwys y M. C. yn Barneveld. Daeth hithau a'r plant a'u llythyrau, gan ymuno a'r un eglwys. Yr oedd yn hyn vn esiampl dda i lawer, yn foddlawn aberthu enwad er mwyn enill ei phriod i'r eglwys, a chael cysur crefydd yn deuluol a chymdeithasol. gyda'u gilydd, a bu yn aelod ffyddlawn hyd y diwedd.

Hanes byr a symi sydd i'r chwaer hon yn y fuchedd yma. Nid ysgrifenai hi ei henw yn amlwg iawn yn y ffurfafen yma, megys mawrion y ddaear, eto credwyf y cyfrifir hi yn mhlith gwroniaid y nef, gan ei bod tra yma ar y ddaear yn llawen mewn gobaith, yn hynod ddyoddefgar mewn cystudd, ac yn dyfalbarhau mewn gweddi. Caffai lawer iawn o bleser wrth ddarllen a myfyrio ei Beibl, ac yn moddion gras, a thystiai ychydig cyn marw ei bod yn gorphwys yn dawel ar ewyllys ei Harglwydd, er y buasai yn dda ganddi er mwyn ei phriod a'r plant gael byw, eto Efe wyr oreu meddai, a gadawodd dystiolaeth eglur iawn i bawb a'i hadwaenai fod marw yn elw iddi.

Y Sadwrn canlynol ymgasglodd tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf o barch iddi, pryd y cynaliwyd gwasanaeth byr yn y ty. Yna symudwyd i'r capei, a phregethodd ei gweinidog oddiar Psalm 116: 15. Cynorthwywyd yn y gwasan- aeth gan y Parchn. Wm. Wickham (A.), A. H. Smith (A.), Nicholas (B.), yna symudwyd i roddi ei chorff i orwedd yn nghladdfa y teulu yn y White Church Cemetery. Heddwch i'w llwch hyd ganiad yr udgorn y dydd diweddaf, a bydded i Dduw yn ei fawr gariad a'i ras ddyddanu y priod, a'r plant, a bydded iddynt oll gael adnabod ei Duw hi yn Dduw iddynt hwythau, fel y caffont oll gydgyfarfod eto ar y ddeheulaw, lle na raid ymadael mwy.
- Hugh Owen.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1901.