MR. JOHN H. ROBERTS, WEBSTER, NEW YORK.

Rhagfyr 4, 1901, bu farw y brawd uchod yn ei gartref wedi cyraedd ei 72 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Waen y Bala, G. C. Mab ydoedd ì Hugh a Jane Roberts, a daeth i'r wlad hon yn 1852, yn ddyn ieuanc crefyddol, a bu yn addurn i'w broffes ar hyd ei oes. Yr oedd yn cofio am yr enwog Dafydd Rowland, ac yn coleddu parch mawr iddo am y cyngorion a'r hyfforddiant oedd wedi gael ganddo pan yn ieuanc. Bu am dymor wedi dyfod i'r wlad hon yn Remsen gyda'i ewyrth, Evan Ellis, ac oddi yno symudodd i Webster Hill, lle y treulodd weddill ei oes.

Yn 1859 priododd gyda Miss Ellen Evans, merch William a Grace Evans o'r un lle, yr hon, meddir, oedd yn wraig rinweddol a chrefyddol iawn, ond gwanaidd o gorff.

Yn 1879 priododd yr ail waith gyda Miss Ellen Jones, merch William Jones (canwr) a'i briod o Floyd, N. Y., a bu yn wraig dda a gofalus o'i phriod a'i phlant. Nid oedd Mr. Roberts yn mwynhau iechyd da ers blynyddau, ond yr oedd yn gallu myned o gwmpas hyd o fewn tua mis i'r adeg y bu farw.

Galwyd ef gan yr eglwys i lanw y swydd o ddiacon, a gwnaeth hyny yn onest ac ewyddorol. Yr oedd ei ofal yn fawr am holl ranau y gwaith, ac yr oedd yn wr anwyl iawn gan yr eglwys a'i holl gydnabod. Nid oes gofod i grybwyll am ei holl rinweddau, ei sel a'i lafur am oes faith gyda'r achos. Yr oedd yn "dirf ac iraidd yn ei henaint," a dangosia yn ei ddyddiau diwethaf, yn ei weddiau a'i brofiadau, fod amser ei ymddatodiad yn neshau. Un gostyngedig fel ei Feistr oedd John H. Roberts, ond medrai ddefnyddio y fflangell i lanhau y deml.

Fel cymydog yn oedd yn garedig a pharod i wneud cymwynas ac yr oedd yn cael parch dyladwy gan ei gymdogion.

Gadawodd i alaru eu colled ar ei ol ei anwyl briod a dau o blant, sef Hugh ac Ellen, y rhai sydd mewn oedran i allu bod yn gysur i'w mam, a'r rhai hefyd, yn ol pob arwyddion sydd yn rhodio yn llwybrau eu rhieni. Mae iddo frawd a chwaer yng Nghymru, a chwaer yn y wlad hon, sef Mrs. John Thomas, Ava, New York.

Rhagfyr 7fed, daeth tyrfa luosog i dalu y gymwynas olaf, pryd y rhoddwyd ei gorff i orwedd yn mynwent Thorton, Ava. Gwasanaethwyd yn y ty ac wrth y bedd gan y Parch. John H. Jones, Rome, a'r ysgrifennydd. Bydded i'r Amddiffyn Fwyfol fod dros ei anwyl briod a'i blant yn eu galar ar ol un oedd mor anwyl ganddynt.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad Ebrill 1902.