MRS. MARGARET ROBERTS. COLUMBUS, WISCONSIN.

Er mai yn annysgwyliadwy y daeth hyny i fy rhan, eto oddiar hen adnabyddiaeth o'r gwrthddrych, parch calon i'w choffadwriaeth, ac ymdeimlad o ddyled wrth gofio y caredigrwydd mawr a dderbyniais oddiar ei llaw lawer gwaith, yr wyf yn ei ystyried yn fraint cael trefnu ychydig gofion i ymddangos yn y Cyfaill am y chwaer y mae ei henw uchod.

Ganwyd Mrs. Margaret Roberts yn Llanrug, Caernarfon, Gogledd Cymru, Gorphenaf 18fed, 1826.

Enwau ei rhieni oeddynt John a Catherine Jones. Eglwyswr oedd ei thad yn Nghymru, ond ar ôl dyfod i America ymunodd gyda'r M. C, a bu yn ffyddlon i'w broffes hyd ei fedd. Methodist gwreiddiol oedd ei mam - merch i'r diacon Robert Pritchard, Tyddyn Elen, Llanrug, yr hwn yn ei ddydd oead ŵr pur adnabyddus.

Bu farw y tad a'r fam yn gymharol ieuanc, y naill yn 60 a'r llall yn 58 mlwydd oed. Yr oedd ein gwrthddrych yn un o deulu lluosog o blant, ac yn 1845, pan oedd hi yn 19 mlwydd oed, daeth gyda ei rhieni i'r wlad hon, ac ar frig tonau y llanw ymfudol oedd yn symud mor gryf i'r cyfeiriad hwnw ar y pryd daethant i Wisconsin, gan ddewis tyddyn gerllaw tref Columbus i gartrefu arno.

O'r holl deulu nid oes ond tri yn fyw yn awr, a'r oll yn byw yn nhref Columbus, William J. Jones (canwr), Elizabeth, gweddw y diweddar E. E. Jones, Ysw., ac Ann, priod Benjamin Hughes, diacon yn yr eglwys Gymreig.

Blwyddyn enwog yn hanes sefydliad Cymreig Columbus oedd 1845, canys dyna y pryd y'i cychwynwyd ac y sefydlwyd yr eglwys gyntaf yn y lle, yr hon mewn blynyddau diweddarach a ymgangenodd yn bedair o eglwysi lled gryfion a llwyddianus.

Yn mhen tair blynedd wedi dyfod i'r wlad hon, ar y seithfed o Awst, 1848, seliwyd undeb priodasol rhwng ein chwaer a'r Parch. John J. Roberts, yr hwn undeb a barhaodd yn ffynonell cysur a defnyddioldeb am 42 mlynedd.

Ganwyd i'r teulu wyth o blant - John P., Catherine (priod y Parch. J. R. Jones), Robert J., Bridget, Griffith, William J., Margaret May a Josiah. Bu farw Bridget a Griffith o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd, yn 1860, y naill yn chwech a'r llall yn ddwy flwydd oed; ond y mae y gweddill o'r plant yn fyw, a'r oll, oddigerth Robert, yr hwn sydd yn cartrefu yn Milwaukee, yn byw yn ardal a thref Columbus.

Wedi marwolaeth ei phriod, y Parch. John J. Roberts, ni pharhaodd y weddw i gadw tŷ ond am tua dwy flynedd; wedi hyny gwnaeth ei chartref gyda'i merch, Mrs. John R. Jones, gan dreulio tymorau ar brydiau gyda'i merch arall, Mrs. John A. Jones, druggist, Columbus.

Arferai Mrs. Roberts fod yn ddynes gref, iach, ond er's blwyddyn neu ragor yr oedd arwyddion adfeilio a gwanychu ynddi; ac yn y misoedd diweddaf ymddangosai yn fwy felly. Gwanychai ei chof ac ymdaenai yn araf rhyw niwlen dros ei meddwl, yr hyn at y diwedd a'i gwnaeth yn wrthddrych gofal a phryder gwastadol; ond dangoswyd ati bob gofal a allai llaw dyner cariad ei estyn. Ni bu yn sal iawn ond am ychydig ddyddiau; cafodd ymosodiad caled o'r diarrhoea, a chan ei bod yn wan yn flaenorol methodd a'i ddal.

Bu farw nôs Sul, Medi 8fed, 1901, a chymerodd ei chladdedigaeth le y dydd Mawrth dylynol, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. G. Griffiths, O. O. Jones, J. O. Parry a J. E. Jones.

Fel y sylwyd eisoes yr oedd Mrs. Roberts yn mysg y rhai cyntaf i sefydlu yn ardal Columbus, ac felly yn brofiadol o holl anfanteision gwlad newydd. Bu ganddi law bersonol yn yr ymdrechfa o wneyd cartref pan oedd prinder mawr o'r angenrheidiau gofynol at hyny; ac nid ydyw yn ormod dweyd iddi wneyd ei rhan, fel priod a mam, gyda ffyddlondeb canmoladwy.

Bu yn aelod o eglwys Bethel am agos i 56 mlynedd, ac eithrio y tymor byr y bu byw yn y dref; ac yn y cysylltiad hwn gellir dweyd ei bod yn un o heddychlawn ffyddloniaid Israel. Nid oedd uwchlaw y cyffredin o ran ei galluoedd nac eangder ei gwybodaeth, ond cysegrodd ei hunan yn gyfan i Iesu Grist ac achos ei deyrnas. Fel gwraig pregethwr, modd bynag, y cafwyd y fantais oreu i'w hadnabod ac i weled ei rhagoriaethau. Yn y cylch pwysig hwnw yr oedd yn dod i gyffyrddiad a lluaws o bobl i gael ei phwyso yn eu clorianau; ond yno, drachefn, nis cafwyd yn brin.

Bu yn ymgeledd gymwys i'w phriod, ac yn elfen bwysig yn llwyddiant ei weinidogaeth. Yr oedd ei thŷ bob amser a'i ddrws yn agored i groesawu pregethwyr ac eraill ar ymweliadau, a dyoddefodd lawer o anghysur ei hun wrth ymdrechu gwneyd eraill yn gysurus. Mae canoedd, fel fy hunan, all ddwyn tystiolaeth i ddidwylledd ei charedigrwydd a'i sirioldeb tawel er "llawer o wasanaeth." Ond bellach y mae wedi marw, a'i llafur a'i gwaith wedi ei ddybenu; a rhaid i'n cofion ninau am dani derfynu yn y man y cafwyd yr olwg ddiweddaf arni. Nis gallwn yn awr ei dylyn ond hyd lan y bedd, a gadawn hi yno yn ngofal yr hwn yr ymddiriedodd ei chwbl iddo. Tyr gwawr boreu y tragwyddol ddydd yn y man, a chaif hithau godi

"Heb unrhyw nychdod mwy, na phoen
Yn moli'r croeshoeledig Oen."

Milwaukee, Wisconsin. John E. Jones.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mawrth 1902.