MR. RICHARD J. ROBERTS. LIME SPRINGS, IOWA.
Ganwyd Mr. Roberts mewm lle o'r enw Ceunant, Waen, Y Bala, ar y 29ain o Chwefror, 1832.Symudodd y teulu i'r wlad hon yn 1842, gan ymsefydlu yn Utica, New York.
Yn 1859, priododd ein brawd Miss Margaret E. Lewis, yr hon a fu farw yn Lime Springs ychydig flynyddau yn ol. Bu iddynt un plentyn, bachgen o'r enw Clinton, yr hwn a gymerwyd oddiwrthynt pan yn 15 mlwydd oed.
Oddeutu 32 mlynedd yn ol daeth y teulu i'r rhan yma o'r wlad; a thrwy ddiwydrwydd a chynildeb, yn nghyd a bendith Duw ar eu llafur, llwyddasant i gasglu cryn lawer o dda y byd hwn.
Y mae i'n cyfaill ddau frawd a dwy chwaer mewn galar ar ei ol. Y brodyr ydynt David Roberts, Port Leyden, New York, a John W. Roberts, San Bernandino, California, a'r chwiorydd ydynt Mrs. William Ap Rees, New York, a Mrs. Parry, Milwaukee, gweddw y diweddar William Parry, Portage, Wisconsin. Ond mae yn debyg mai yr un deimla fwyaf o golled ar ei ol yw ei ferch fabwysiedig, Mrs. John G. Roberts, o'r ardal hon, yn nghyd a'i phlant bychain, y rhai oeddynt yn meddu lle dwfn iawn yn serchiadau ein hanwyl frawd.
Hefyd mae y Parch. T. H. Lewis, ei fab mabwysiedig, yn teimlo yn wir ddwys ar ei ol. Daeth Lewis i'r teulu pan yn fachgen deg oed, a gofalwyd am dano yn dyner iawn. Mae efe yn awr yn weinidog defnyddiol yn y rhan ogleddol o Dalaeth Minnesota.
Byr fu cystudd olaf ein hen gyfaill; ni bu yn gorwedd ond am ychydig ddyddiau; ond yr oedd wedi bod yn dyoddef am amser maith oddiwrth anhwylder yn y cylla, a phethau eraill.
Y mae yn amlwg fod crefydd yn talu yn dda iddo yn ei salwch. Tynodd lawer o gysur o'r seithfed Salm ar hugain. Dywedai un diwrnod, " What a blessed Psalm this is." Adroddai amryw o hen adnodau i hen benillion, ar y rhai yr oedd wedi bod yn gwledda lawer gwaith. "Mae gorphwysfa eto yn ol i bobl Dduw;" "Cyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd;" "Mae Iesu Grist o'n hochor ni;" "Am graig i adeiladn," a.y. Dyna rai o'r pethau oedd yn rhoi dyddanwch iddo yn ei gystudd. Un o'r dyddiau olaf y bu fyw, dywedai wrrth gyfaill iddo oedd yn yr ystafell ar y pryd. "Be kind to your soul, my friend."
Bu farw bore Gwener, Tachwedd 1af, pan o fewn ychydig i fod yn 70 mlwydd oed.
Claddwyd ei weddillion y dydd Llun canlynol yn mynwent Lime Springs. Cafodd gladdedigaeth hynod o barchus, a gweinyddwryd gan yr ysgrifenydd. Yr oedd yn un o aelodau hynaf yr eglwys hon, ac y mae yn chwith iawn genym ar ei ol. Un peth neillduol ynddo oedd ei ffyddlondeb i'w gyfeillion. Peth arall a'i nodweddai oedd ei serchawgrwydd tyner yn ei deulu. Rhodded Duw grefydd gyffelyb i'r eiddo ef i bawb o'i berthynasau a'i gyfeillion.
"Daw dydd i'r cyfiawn tranoeth teg,
Daw iddo chwaneg estyn;
Daw iddo o'r bedd godiad i fyw,
Deheulaw Duw a'i derbyn."
R. Yaughan Griffith.