MRS. ANN WILLIAMS. PICATONICA, SWYDD IOWA, WISCONSIN.

Yn ardal Picatonica, swydd Iowa, Wisconsin, bu farw Mrs. Ann Williams, priod Mr. John Williams, yn 76 mlwydd a 5 mis oed. Bu yn dihoeni a nychu heb allu bod allan o'r tŷ am 4 blynedd cyn marw, a mewn llawer o boen ar amserau, ac ymddengys nad oedd meddygon yn deall ei chlefyd.

Merch ydoedd i Robert a Margaret Roberts, Parc, plwyf Llanfairfechan.

Priododd gyda Mr. John Williams yn mis Tachwedd 1847; a gwnaethant gychwyn am America Rhagfyr 21 o'r un flwyddyn, a chyraedd New Orleans Chwefror 16eg, 1848; yna cychwyn am St. Louis, lle y buont yn byw am 10 o flynyddoedd. Ar ôl hyn yn Quincy, Illinois, am 4 blynedd; ac yn nechreu y rhyfel cartrefol yn 1861, gwnaethant symud i Darlington, Wisconsin, lle y buont yn cartrefu am 17 o flynyddoedd. Yn 1879 gwnaethant symud i Denver, Colorado, ac yn 1897 daethant yn ôl i Wisconsin, o herwydd afiechyd ein chwaer, ac aros gyda brodyr a chwaer Mr. Williams hyd ddydd ei marwolaeth, yr hyn a gymerodd le Chwefror 27ain, 1901.

Yr oedd Mrs. Williams yn ddynes rinweddol, ac yn aelod o eglwys Crist er yn ieuanc iawn.

Gadawodd frawd a chwaer, a phriod mewn gwth o oedran i alaru ar ei hol.

Gobeithio y gwna ddal yn ffyddlon, a bod dan gysgod yr Hollalluog i orphen ei dymor byr ar y ddaear.

Gweinyddwyd yn y claddedigaeth gan yr ysgrifenydd, pryd y traddodwyd pregeth angladdol iddi yn nghapel Carmel, ac yn mynwent y capel hwn y cafodd ei chladdu.
R. H. Evans.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1901.