MRS. ELLEN WILLIAMS. CRAFTON, PENNSYLVANIA.

Chwefror 20fed, 1901, bu farw y chwaer uchod, yn 34 oed, ar ôl cystudd byr, ond hynod o galed.

Merch ydoedd i Mr. Thomas L. a Catherine Wilìiams, 367 Cleveland Avenue, Columbus, Ohio.

Ganwyd hi yn Bangor, Gogledd Cymru, Rhagfyr 17eg, 1867, a blwydd a haner oed oedd pan ymfudodd ei rhieni i America, ac y sefydlasant yn Sugar Creek, Putnam Co., Ohio.

Yno y derbyniwyd hi yn aelod eglwysig, pan yn 14 oed, gan y Parch. H. Pugh.

Priododd Mr. David J. Williams yn Columbus, yn 1894, a chartrefodd yn y ddinas hono hyd o fewn ychydig fìsoedd i'w marwolaeth, ac yno y ganwyd ei thri phlentyn sydd mor amddifaid ar ôl mam mor ragorol.

Cafodd ein chwaer ddigon o siomedigaethau i wneyd prawf llym ar ei chrefydd, a daliodd yn ddisigl. Cwynir weithiau fod y dull presenol o dderbyn plant i'r eglwys yn wallus, a bron a bod yn fagwrfa i ragrith, ond mae gweled bywyd a chlywed profiad rhai fel Mrs. Williams mewn iechyd ac afiechyd ac yn angeu, yn gefnogaeth fawr i'r dull er cymaint o beryglon sydd ynddo.

Ei phrif, ie, ei hunig gynaliaeth oedd crefydd; ei hunig gysur ydoedd gweddi a moddion gras. Fel mam a phriod bu yn ddarbodus, gofalus a chariadus; fel Cristion bu yn gyson, dyfalbarhaol a ffyddlon, a bu farw yn dangnefeddus, ac aeth i dangnefedd.

Claddwyd hi yn Green Lawn, Columbus, yr ysgrifenydd yn gweinyddu yn ngwydd tyrfa fawr, ar y 24ain. Bydded Tad yr amddifaid yn famaeth i'w phlant, a bendithied yr amgylchiad difrifol er iachawdwriaeth i'w phriod, a gweinydded gysur sylweddol i'w rhieni oedranus a'i brodyr a'i chwiorydd galarus.
John Hammond.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1901.