ANN WILLIAMS. EMPORIA, KANSAS.
Ganwyd y chwaer uchod yn Dolyddelen, Gogledd Cymru, yn niwedd y flwyddyn 1845. Mae ei thad, Mr. William Ap Wiiliams, yn awr o Langford, South Dakota, eto yn fyw, ac mewn galar dwys ar ol ei anwyl Anne. Nid oedd hi ond bechan iawn pan y croesodd gyda'i rhieni i America, gan sefydlu yn Cambria, Wisconsin. Yma y magwyd hi mewn cartref crefyddol, a bu hithau yn ffyddlon i'r addysg a dderbyniodd hyd ei bedd.Bu ei mam farw pan nad oedd hi ond geneth bur ieuanc, a chan mai hi oedd yr hynaf o'r plant, disgynodd cyfrifoldeb mawr cadw ty, a gofalu am ei biodyr a'i chwioiydd ieuangach arni; ond ymaflodd i'r gwaith, a bu yn ffyddlon i'r ymddiriedaeth fawr a osodwyd arni. Bu yn fam ragorol i'w brodyr a'i chwiorydd yn y cyfwng pwysig yr oeddynt ynddo.
Yn y flwyddyn 1864, ymunodd mewn priodas gyda John H. Williams, a bu yn ymgeledd gymwys iawn iddo hyd nes cyraedd pen ei siwrnai. Yn 1865 symudodd hi a'i phriod i Kansas, gan sefydlu ar Dry Creek, lle y buont yn ymdrechgar a llwyddianus fel amaethwyr am dros ugain mlynedd. Yma y ganwyd eu hunig blentyn, H. H. Williams, yr hwn sydd yn dal swydd bwysig dan y llywodraeth yn Washington, D. C. ers blynyddau, ac yn raddedig fel cyfreithiwr o Georgetown University, yn y ddinas hon.
Yn 1885, rhoisant heibio amaethu, a symudasant i'r dref i fyw; ac yma y treulodd hi weddili ei dyddiau yn ddedwydd, defnyddioì ac ymdrechgar yn mhob cylch. Un blaen, union, onest, weithgar a charedig oedd Mrs. Williams. Byddai hi a'i phriod yn dra ffyddlon yn holl gylch gwasanaeth ty yr Argiwydd ar bob adeg, hyd oni "fyrhawyd ei nerth ar y ffordd."
Cafodd gyftudd caled am dros dair blyuedd o amser dan law greulawn y cancer. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf yr oedd ei phoenau yn arteithiol i'r eithaf, yn enwedig ar adegau, ond ceisiai ymdrechu i ewyllys yr Arglwydd yn ddi-rwgnach drwy y cyfan. Gwnaeth ei phriod a'r mab, a'i briod yntau, bob ymdrech i gael gwellhad iddi. Bu dan amryw operations, ac o dan driniaethau ereill gartref ac oddicartref, ond methiant fu y cyfan. Cadwodd ei hysbryd i fyny yn wrol hyd y diwedd, a phwysai yn hyderus bob amser, yn iach a chlaf, ar Iesu Grist.
Cafodd angladd parchus a theimladwy, pryd y gwasanaethwyd gan yr ysgrifenydd a'r Parchn. Morgan Williams a H. J. Whitby. Chwith iawn genym ei cholli. Daearwyd ei gweddillion yn mynwrent isaf Dry Creek. Caffed hun dawel hyd foreu'r codi.
J. Michael Hughes.