MRS. ANN EVANS. RANDOLPH, WISCONSIN.
Hydref 3ydd, 1902, yn nhy ei merch a'i mab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. W. E. Evans, 12039 Wallace Street, West Pullman, Illinois, Anne, anwyl briod Rowland Evans, Randolph, Wisconsin, un o ddiaconiaid eglwys y T. C. yn y lle.Ganwyd hi yn Pen-y-cae, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Gorphenaf 15fed, 1840, yn ferch i Robert a Mary Jones.
Ymfudodd ei theulu pan oedd hi yn chwe mis oed i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn ninas New York.
Pan oedd hi yn 10 oed symudasant i Waterside, ardal Portage Prairie, Wisconsin, a phan yn 13 oed ymunodd hi ag eglwys y T. C. yn y lle.
Pan yn 19 oed ymunodd mewn priodas â Rowland Evans, ac yn mhen chwe blynedd symudodd hi a'i phriod i Bristol Grove, Minn. Wedi trigianu yn y lle uchod am naw mlynedd aethant i Lime Springs, Iowa, lle y buont byw am ysbaid o 14 o flynyddoedd; 15 mlynedd yn ôl daethant i Randolph.
Bu ein chwaer yn dyhoeni am flwyddyn, ac yn y gobaith o gael hybu trwy newid yr awyr aeth i lawr i West Pullman ddiwedd yr haf. Wedi myned yno ac ymgyngori â meddygon awd a hi i'r Wesley Hospital, ar y South Side, Chicago, lle y bu dan driniaeth am dair wythnos. Cafodd wared o'r boen fawr a'i blinai yn ei phen, a choleddid gobeithion pan ddaeth allan y mendiai hi ddigon i ddod gartref, ond gwanhau a wnaeth hyd nes y daeth y diwedd.
Mae iddi dair o chwiorydd, sef Mrs. W. T. Jones. Mrs. H. H. Jones a Mrs. Charles Wolfenden, yr oll yn byw yn West Pullman, yn nghyd a brawd, sef W. R. Jones, Bristol Grove, Minn.
Dygwyd ei gweddillion i fyny i'w chartref Hydref 4ydd, a chladdwyd hi yn nghanol arwyddion o barch dwfn Hydref 6ed.
Gwasanaethwyd yn y tŷ ac yn y capel gan y brodyr W. W. Davies, D. R, Jones, J. O. Parry, J. R. Jones, R. H. Evans a'r ysgrifenydd.
Yr oedd yn wraig grefyddol iawn ei hysbryd, ffyddlawn i gynulliadau yr eglwys er ei mebyd, hynod o ddiabsen yn ôl tystiolaeth pawb am dani yn ei bywyd, a thystiai hithau yn awr ei marwolaeth fod iddi gysur cryf yn Nghrist.
J. R. JOHNS.