EVAN EVANS. SHEBOYGAN, WISCONSIN.
Ebrill 30ain, 1902, yn Sheboygan, Wisconsin, bu farw Evan Evans, yn 80 mlwydd, 6 mis a 25 o ddyddiau oed, ar ol bod yn gwaelu er's dros ddwy flynedd, er na chaethiwyd ef i'w wely ond y ddwy wythnos olaf y bu fyw. Rhyw dori i lawr gan wendid henaint oedd yr achos uniongyrchol o'i farwolaeth.Ganed ef yn Llanfair, ger Harleeh, Meirionydd, Gogledd Cymru. Ei rieni oeddynt Humphrey a Mary Evans, y rhai gyda y nifer fwyaf o'u plant a ymfudasant i America yn 1842, gan ymsefydlu yn Racine. Saer coed ac adeiladydd oedd Humphrey Evans, a dygwyd ei fab Evan i fyny yn yr un gelfyddyd. Symudodd ef i Sheboygan yn 1845, ac yno y treuliodd y gweddill o'i oes yn ddiwyd ac ymroddgar, a bendithiwyd ei lafur fel ag y daeth i amgylchiadau cysurus.
Yn 1847 priododd gyda Jane Jones, genedigol o Blwyf Llanllyfni, Sir Gaernarfon. Bu y briodas yn un hynod ddedwydd yn mhob ystyr. Ganed iddynt amryw blant, ond buont feirw yn ieuanc, oddíeithr Annie, yr hon a briododd gyda H. C. Humphrey, rhieni yr hwn a ymsefydlasant yn fore yn Sheboygan, ag yn awr sydd yn ddinasyddion parchus yn Antigo, Wisconsin, ac y mae iddynt bump o blant.
Yr oedd Evan Evans yn disgyn o deuluodd enwog gyda y T. C., o ochr ei dad a'i fam. Bu ei dad yn un o'r rhai fu yn flaenllaw yn sefydliad eglwys y T. C. yn Racine, fel ag yr oedd wedi bod yn golofn gref i'r achos yn Harlech, cyn dyfod i'r wlad hon. Bu yn swyddog eglwysig am lawer o flynyddoedd, ac yn selog gyda'r achos, ac yn haelionus tuag ato tra y bu byw. Yn niwedd ei oes aeth i Gymru, a bu farw yn nhy ei fab-yn-nghyfraith, y diweddar Barch. Robert Ellis, Clwtybont, ac y mae ei weddiìlion yn gorwedd yn nghladdfa Macpelah. Yr oedd ei fam hefyd yn un o'r gwragedd mwyaf crefyddol ac o synwyr tra anghyffredin; ac yr oedd yn gyfnither i'r Parch. Richard Humphreys, Dyffryn. Claddwyd hi yn Racine.
Felly cafodd Evan Evans ddygiad i fyny crefyddol; ac ymddengys ei fod yn gyflawn aelod yn dyfod o Gymru, canys ceir ei enw yn y cofrestriad cyntaf a wnaed yn 1843, o aelodau eglwys y T. C. yn Racine. Bu fyw bywyd hynod fucheddol ar hyd ei oes, ac mewn cysylltiad ag eglwys Iesu Grist, ac eto yn ol ei gyffesiad ef ei hunan yr oedd rhywbeth yn ddiffygiol yn ei grefydd; a diau ei fod yn esiampl o lawer eraill yn yr un sefyllfa.
Ychydig flynyddoedd yn ol cafodd gystudd trwm, yr hyn a fu yn fendithiol iawn iddo. Ar ol ei adferiad ysgrifenai at ei chwaer, Mrs. Gwen Davies fel y canlyn: "Yr ydwyf yn teimlo fod fy nghystudd wedi bod y fendith benaf a gefais yn fy oes, o herwydd cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni. Yr oeddwn wedi bod mewn enw yn perthyn i eglwys Iesu Grist er's tros 60 mlynedd, ond erioed heb gael troedigaeth cyn yn awr. Gallwn ddweyd llawer am hyn, ond ni byddai hyny yn fuddiol; ond rhaid i mi ddweyd paham nad oeddwn wedi myned i mewn i waith yr eglwys gyda llawn law a chalon, sef am yr ystyriwn nad oeddwn wedi derbyn digon o dalent i'r gwaith — ei bod mor fychan, fel y cuddiwn hi yn y ddaear. Ond darfu yr Arglwydd da arbed fy mywyd yn hwy na'r cyffredin i ryw ddyben. Arferwn a cheisio gweddio, ond nid a'm holl galon fel ag y gweddia y troseddwr euog am bardwn. Daeth y gwirionedd bendigedig hwnw i fy meddwl mor rymus, sef ei fod Ef yn derbyn rhai ar yr unfed-awr-ar-ddeg, ag a ddeuant ato a'u holl galon; a gwnaethym inau weddio a'm holl galon ac a'm holl enaid, a gwrandawodd yr Arglwydd fy ngweddiau, ac anfonodd y fath ffrwd o oleuni i fy nghalon, ac y mae wedi llewyrchu yno byth er hyny; ac yr wyf yn mwynhau y fath lawenydd, na wyr y byd ddim am dano. Nid ydyw angeu yn ddim braw i mi yn awr; canys y mae efe wedi addaw bod gyda mi pan yn croesi afon angeu.
Yr wyf yn awr yn teimlo fel y wraig hono yn yr Efengyl, ar ol iddi gael y dryll arian a gollasid, yn galw yn nghyd ei chyfeillesau a'i chymydogesau gan ddywedyd, cyd-lawenhewch a mi, canys cefais y dryll a gollaswn; a theimlaf inau yn hollol yr un modd. Dywedwch wrth fy anwyl gyfaill fy mod wedi dyfod i afael a'r perl o uchel bris." Bu yn hynod amyneddgar yn eu gystudd olaf. Bu ei briod a'i unig ferch, yn nghyd a nurse, yn gweini arno gyda phob tynerwch hyd y diwedd. Yr oedd yn ymwybodol hyd y diwedd; a chafodd hamdden i wneyd y trefniadau i'r manylion lleiaf yn nglyn a'i gladdedigaeth.
Cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn ei breswylfod Mai 2fed, pryd y gwasanaethodd y Parchn. I. T. Chynoweth a James White, yr olaf yn weinidog yr eglwys Gynulleidfaol, o'r hon yr oedd Evan Evans wedi bod yn aelod am amser maith. Daeth torf fawr yn nghyd i dalu eu gwasanaeth o barch i un ag oedd wedi bod yn gymydog da a dinesydd gwasanaethgar.
Claddwyd ef yn Wildwood Cemetery yn gyfagos i'w breswylfod, lle mae ei blant ac un brawd yn gorwedd. Heblaw ei briod, a'i ferch, a'i wyrion, y mae dwy chwaer, sef Mrs. Gwen Davies, Racine, a Mrs. Eliza Edwards Detroit, Michigan, i alaru ar ei ol.
Thomas. Ll. Williams. Racine, Wisconsin.