MRS. ELIZABETH E. GARLAND. AUSTIN, TEXAS.
Ionawr 31ain, 1902, bu farw Mrs. Elizabeth E. Garland yn Austin, Texas, ar ol llai na thair wythnos o gystudd trwn o'r pneumonia, yn 62 mlwydd oed.Ganwyd hi Ionawr 5ed, 1840. Enwau ei rhieni oedd David G. a Mary Evans, gynt o'r Pandy, Abercywarch, ger Dinas Mawddwy. Ymfudodd y teulu i America yn 1841, gan sefydlu yn Bryn Marcy, ger Utica, am bum mlynedd. Yn 1846 symudasant i Wisconsin i ymsefydlu gerllaw Columbus; yno y derbyniodd y ferch ei haddysg, ac yn y cylchoedd hyny y treuliodd flynyddoedd yn ddylynol fel athrawes ysgolion dyddiol. Teimlai duedd gref er yn ieuanc i fynd allan fel cenhades i fysg y Negroaid, ac yn Chwefror, 1867, fe agorwyd ffordd iddi gael ei dymuniad. Bu yn llafurio am dymor o dan gyfarwyddyd yr American Missionary Association yn Texas a Missouri.
Yn ddiweddarach bu yn matron yn Athrofa y Merched yn Fox Lake, Wisconsin. Treuliodd y 27ain mlynedd olaf o'i hoes yn Austin, Texas, yn llafurio ar y cyntaf gyda'r Negroaid, ac yn ddiweddarach gyda phlant y Mexicaniaid a chenedloedd eraill yn y ddinas.
Yn 1877 priodwyd hi gyda'r Barnwr C. T. Garland, yr hwn a fu farw flynyddoedd yn ol ar ol hir waeledd. Priodolir y clod iddi hi am gychwyniad Athrof a Tillotson, Austin, yr hon, erbyn hyn, sydd wedi cyraedd safle enwog iawn. Yr oedd y cyfnod o dros 30 mlynedd, yr hwn a dreuliodd yn y De, yn gyfnod difwlch o hunanymwadiad crefyddol. Gyda ei gwaith yn yr ysgoldy yr oedd hi pan gydiodd yr afiechyd marwol ynddi ar Ionawr y 13eg.
Aeth trwy ystorm y cystudd blin yn dawel a ffyddiog, a meddyliwyd un adeg ei bod yn troi ar wella, ond tarawyd hi yn farwol gan y parlys mud. Er nad oedd neb yn perthyn dim yn naturiol iddi yn y ddlnas, cafodd bob parch a gofal oedd yn ddichonadwy gan swyddogion ac aelodau Eglwys Gyntaf y Presbyteriaid, ac eraill, a chafodd angladd pendefigaidd gan edmygwyr calon o honi. Fel y canlyn y dywedai un o bapyrau y ddinas, dranoeth ar ol ei hangladd: "Bydd ei henw yn berarogl yn hir yn mysg tlodion y ddinas. Ati hi yr arferent gludo beichiau eu trallodion, ac ni byddai hi byth yn ddiystyr o'u llefau. Yr oedd ei bywyd yn un prydferth mewn hunanymwadiad; gan ei bod yn dylyn esiampl ei Cheidwad yn ofalus.
Yr oedd ei hangladd yn yr addoldy y bu yn aelod ynddo am 27 mlynedd yn un o'r rhai hynotaf. Llenwid yr ochr orllewinol iddo gan ei hen ddysgyblion a chyfeilhon Negroaidd. Yn y canol yr oedd y Mexicaniaid, a phlant ieuengaf ei hysgol o amgylch yr arch fel y galarwyr agosaf. Llenwid yr ochr ddwyreiniol gan ei hedmygwyr o fysg y bobl wynion, ac yr oedd yn eglur y mynai y nifer mawr oedd yn bresenol o fysg gwahanol genedloedd dalu parch i goffadwriaeth un oedd yn llawn o hunanymwadiad Cristionogol. Llanwyd y gwasanaeth gan y Parch. E. B. Wright, bugail yr eglwys, a'r Parch. M. R. Gaines, llywydd Athrofa Tillotson.
Y mae un brawd iddi yn preswylio yn ardal Moriah, Columbus, yn un o hen oruchwylwyr y Cyfaill; a nifer mawr o berthynasau pellach.
Bwriadai dalu ymweliad a Wisconsin yn y gwanwyn, ond symudwyd hi i wlad well i etifeddu llawenydd ei Harglwydd.
Cydnabod.