MR. ROBERT S. JONES. EDWARDSDALE, PENNSYLVANIA.
Gorphenaf 1af, 1902, yn Edwardsdale, Pennsylvaina, bu farw y brawd uchod.Ganwyd ef Hydref 20fed, 1840, yn Tyn-y-coed, Trawsfynydd, Gogledd Cymru.
Mab ydoedd i Elizabeth, merch Richard a Margaret Morris, Tyn-y-pant, ac yno gyda'i daid a'i nain y magwyd ef. Pan yn 19 oed aeth i wasanaethu at Bennett Jones, a thra yno gyda'r hen ddiacon yr ymunodd a chrefydd, ond yn fuan ar ôl hyny symudodd i chwarelau Ffestiniog.
Medi, 1865, priododd gyda Mary, merch Robert a Mary Roberts, Glascoed, Trawsfynydd, a bu yn byw yn Brynglas, a'r Frongaled, o'r lle yr ymfudodd i'r wlad hon yn 1882, gan sefydlu yn Dorranceton, Pnnsylvania. Yn 1884 symudodd i Oriskany, New York, ac yna i Edwardsdale, lle y preswyliodd hyd ddiwedd ei oes.
Gadawodd i alaru ar ei ôl ei briod a chwech o blant, sef Mrs. Elizabeth Richards, Mrs. Sarah Jones, William a John yn Edwardsdale, Mrs. Mary Parry yn Yorkville, New York, a Mrs. Maggie Jones yn Plymouth, Pennsylvania. Bu dau o'r plant farw o'i flaen, sef Robert ac Eva. Mae Mrs. Roberts, Floyd Avenue, Rome, New York, yn fodryb iddo, sef chwaer i'w fam.
Derbyniodd ein brawd argyhoeddiadau dyfnion pan ymunodd â chrefydd, ac fe barhaodd ei ddylanwad arno ar hyd ei oes. Yr oedd hyn yn ei wneyd yn un o'r cymeriadau hyny sydd yn myned yn fwy prin yn ein gwlad bob blwyddyn. Llawer gwaith y clywais ef yn sôn am yr adeg hono ar ei fywyd pan y cafodd ei ddeffro o berthynas i'w gyflwr fel yn euog ger bron Duw; teimlai ei hunan fel pe yn cael ei ysgwyd am amser maith uwch ben y trueni a'r un ffordd o waredigaeth yn y golwg. Ond o'r diwedd daeth y goleu; gwelodd ffordd anrhydeddus i'w olchi a'i lanhau o'i holl fryntni yn ngwaed yr Oen, a byth er hyny 'doedd dim ond eisieu son am y "gwaed a redodd ar y groes" na byddai ei ddagrau yn llifo dros ei ruddiau.
Ei air olaf wrthyf yn y cyfeiriad hwn oedd y llinellau hyny, "Dros bechadur fel myfi, Rhoes ei Hun ar Galfari," a "Gwel fy nwylaw afy nhraed Mi a'i prynais, O gad iddynt fyw," ac adroddodd y llinell olaf amryw weithiau. Gallai fod effeithiau yr argyhoeddiad dwfn yn peri ei fod i rai yn arw ei ffordd, ond nid oedd felly, ond credaf mai yr olwg gafodd ar ei bechod ei hun oedd yn peri ei fod yn dychrynu drwyddo wrth feddwl fod neb yn chwareu ag ef, ac yn edrych yn ysgafn arno.
Ac yr oedd ei ddylanwad yn y cyfeiriad hwn yn fawr yn mhlith ei gydweithwyr - dynion di-grefydd o'i gwmpas er heb ddeall ei iaith, eto yn teimlo oddiwrth ei bresenoldeb, ac ofn ei wynebu wedi gwneyd rhywbeth o'i le. Gresyn na lenwid ein gwlad â dynion o gyffelyb ysbryd. Nodwedd arall arbenig ynddo oedd ei ddirnadaeth glir o drefn yr iachawdwriaeth. Anhawdd oedd dod ar draws gweithiwr cyffredin, wedi trwytho a diwyllio ei feddwl mor dda.
Pleser o'r mwyaf oedd ei glywed yn siarad yn y seiat, ond wedi myned i'w gartref a gweled y llyfrau oedd yn ddarllen, yr oeddym yn cael esboniad ar unwaith. Dichon mae yr olwg gafodd ar y drefn adeg ei droedigaeth fu yn symbyliad iddo yn y cyfeiriad hwn. Fflachiodd ei ogoniant o flaen ei feddwl nes y penderfynodd ymroddi a'i holl egni i'w deall yn iawn. Gall, ac y mae llawer yn nofio yn dawel i wynfyd gyda golwg ranol ar drefn y cadw, fel yr oedd Talmage yn dweyd am y rhai a achubwyd gyda Paul yn y llong-ddrylliad, dim ond un ystyllen o'r llong i'w cario i dir; ond yr oedd Robert Jones yn wahanol, a gallai ef yn hawdd ddweyd fel Simeon o Gaergrawnt, ei fod ef am gael y grand whole, ac fe lwyddodd i raddau helaeth iawn.
Yr oedd yn awyddus iawn i gael dynion at y Gwaredwr, ac yr oedd yn fawr ei ofal am y rhai y byddai arwyddion llaesu dwylaw arnynt; yr oedd yn llawn o ysbryd cenadol, ac yn hyn yr oedd yn Fethodist da. Os byddai rhywrai ar ôl o'r moddion Sabbothol byddai yn ein galw yn ôl er ein hysbysu, ac nid tori gwaith i eraill y byddai, dim yn hytrach gwnai ei oreu ei hunain. Pan oeddem yn galw i'w weled ddechreu y flwyddyn hon estynai i ni ddolar oedd wedi ei chael gan rhyw frawd caredig, ac meddai, "Cymerwch hon at y genadaeth," a phan y dywedasom wrtho fod y casgliad at y Genadaeth wedi ei ddyblu, yr oedd yn sirioli trwyddo.
Nodwedd arbenig ynddo ef oedd bod o ddifri gyda phob peth; yr oedd felly gyda chrefydd, gyda gwladyddiaeth, a chyda phynciau llafur ac elusenol, a byddai yn ymdaflu gorff ac enaid i'r ymdrech, ac yr oedd trwy fod felly yn enill parch ac edmygedd ei gydweithwyr. Dangoswyd hyny gan ei hen gydweithwyr yn Ffestiiog pan yn ei brofedigaeth o golli ei fab Robert, yn nhanchwa y Pettebone; casglasant ddigon o arian i'w gludo ef a'r teulu yn ôl i'r Hen Wlad, a mawr fu eu siomiant pan anfonodd nas gallasant ddod, ond bu raid iddo fyned ei hunan, ac nid oedd bendraw ar eu parch a'u cydymdeimlad tuag ato.
Cafodd gystudd maith a chaled, ond dyoddefodd y cyfan yn deilwng o Gristion, nid yn unig yr oedd yn gallu ymdawelu a pheidio grwgnach, ond ar lawer adeg yn tori allan mewn gorfoledd yn nghanol ei holl boenau. A chredaf fod llawer heddyw o'r llu mawr fu yn ymweled ag ef yn ei gystudd yn meddwl mwy o grefydd Iesu Grist gan mor dda yr oedd yn talu iddo ef, ac nid casglu cregyn gyda'r glanau yr oedd ef, ond treiddio i'r dwfn a chael gafael yn y fan hono ar berlau yr efengyl; ac nis gwn beth yn well allaf gael i gloi i fyny hyn o nodiadau nac adrodd ei brofiad wrthyf unwaith.
Yr oedd yn ei wely, fel arfer, ac meddwn wrtho, "yn eich gwely heddywe to, onite?" "Ie," meddai yntau, "ond y mae Ef yn garedig iawn wrthyf." "Wel, beth y mae wedi roi yn ddiweddar," meddwn inau. "Wel, mi addawodd wlad i mi i ddechreu, a gwlad ardderchog oedd hi hefyd - gwlad yn llifeirio o laeth a mel, gwlad nad oes marw o'i mewn hi, gwlad nad oes neb yn ochain, neb yn wylo o'i mewn hi, gwlad lle mae hi yn haf tragwyddol o'i mewn.
Yr oeddwn yn meddwl llawer o'r America yma pan yn cychwyn o Gymru, ond druan o honof mi ges fy siomi, ond chaf fi byth mo fy siomi yn hon. Ond yr oeddwn i yn teimlo fy hunan yn unig yn nghanol y wlad yna, ac fel pe yn ymgolli ynddi. Wedyn fe addawodd ddinas i mi, a dinas ogoneddus oedd hi hefyd - dinas a'i heolydd o aur a'i phyrth o berlau; y ddinas ac y mae iddi y sylfeini, a'r Oen yn ei chanol yn ei goleuo, dim eisieu lamp na'r goleuni trydanol yma, choelia i fawr, fe fydd gogoniant y Gwaredwr yn daslio i bob cwr o honi. Ond yr oeddwn i yn ofni y ddinas yna hefyd, yr oedd hi yn rhy grand i mi; beth ydwyf fi, greadur aflan, i rodio ar hyd yr heolydd aur yna.
Ond erbyn heddyw y mae "wedi addaw cartref i mi; 'Ty fy Nhad,' ydi yr addewid heddyw, ac yr ydwyf finau yn gallu gafael yn hwna; fe wn inau beth ydyw cartref a thy tad; ond ydi o yn ffeind wrthyf," medddai. Gallwn nodi amryw tebyg i hyn, ond rhag bod yn rhy faith gadawn iddynt.
Cafodd angladd parchus iawn; yr oedd llu mawr wedi dod i'w hebrwng i gladdfa Forty Fort y 5ed o Orphenaf, 1902. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. D. J. Roberts, Warrior Run; Ellis R. Roberts, Providence; W. D. Jenkins a Dr. R. T. Roberts, Wilkesbarre; Dr. T. C. Edwards, Kingston, a'r ysgrifenydd, yr hwn hefyd roes bregeth angladdol iddo y nos Sul dylynol.
Ac er rhoi ei gorff yn y bedd yr oeddym fel pe yn teimlo fod ei swn yn parhau i'n dylyn o hyd, ac nid rhyw adsain pell, swn gwag hen delyn wedi tori yw, ond seiniau tyner tanau aur y delyn mewn gogoniant. Heddwch i'w lwch hyd ganiad yr udgorn diweddaf, a nawdd y nef fyddo yn amlwg dros y teulu.
R. O. Hughes. Kingston.