MR. WILLIAM JONES. BARNEVELD, WISCONSIN.

Dydd Mercher, Ebrill 30ain, 1902, bu farw y Cristion cywir a'r blaenor ffyddlon William Jones.

Yr oedd yn frawd i'r diweddar Barchn. John Jones, Brynrodyn, Gogledd Cymru a Griffith Jones, Dodgeville, Wisconsin.

Ganwyd ef yn Tailon, Clynog, Tachwedd 12fed, 1821. Yr oedd yn fab i John Roberts a'i briod, a'i daid o du ei dad oedd Robert Foulk, Gwerngoch. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol ac yn teimlo y pwysigrwydd o ddwyn eu plant i fyny yn ofn yr Arglwydd. Bedyddiwyd William pan oedd yn 12 diwrnod oed gan y Parch. John Elias, ac fel Samuel, arosodd yn ngwasanaeth ei Arglwydd ar hyd eioes.

Awst 12, 1846, ymbriododd â Miss Gaynor Jones, merch i William ac Ann Jones, Clynog, Swydd Gaernarfon, yr hon a'i rhagflaenodd rhyw saith mis (gwel ei chofiant yn y Cyfaill am Ebrill, 1902). Ar ôl priodi symndasant i Caergybi, Môn., i gadw store, ac yn 1848 symudasent i Llain Goch, tua milldir o'r dref, lle hefyd y dewiswyd W. Jones yn flaenor, yr hon swydd a lanwodd gyda medr a ffyddlondeb hyd y diwedd.

Yn 1858 symudodd ef a'r teulu i'r wlad hon, gan sefydlu yn Ngaergybi, ger Dodgeville, a'r lle yr oedd ei frawd, y Parch. G. Jones. Prynasent fferm yn agos i Barneveld, ac yno y bu ef a'r gapel, a bu y Cymry yn cyrchu iddo hyd nes y cafwyd capel newydd yn Barneveld.

Yn 1862 symudasent i Arena, i gadw store, ac er mai yn mysg yr Americaniaid yr oedd yno yr oedd yr un mor selog gyda chrefydd. Pan yr aeth ef yno nid oedd gapel yn y lle, a bu y moddion crefyddol yn cael ei gynal yn lloft ei store ef am dros ddwy flynedd; yna codwyd capel a chyfranodd $100 at y draul, er mai capel Annibynol Seisnig ydoedd. Dyna ysbryd crefydd; aberthu iaith ac enwad, "er mwyn ei enw ef."

Yn 1887 symudodd drachefn i Clyde. Cymydogaeth oedd hono heb gapel, ond ceid pregethu ambell waith mewn ysgoldy; ond ni wnai hyny y tro gan y brawd Jones a'r teulu; rhaid oedd sefydlu eglwys a chodi capel, ac felly y bu. Yr oedd yr eglwys yn perthyn i'r M. E., ac yn ystod yr wyth mlynedd y buont yn byw yno cawsent weled llwyddiant ar yr achos da. Ei symudiad olaf oedd yn ôl i Barneveld, ac yno y gorphenodd ei yrfa, ac yr aeth oddiwrth ei waith at ei wobr.

Fel y sylwyd yn barod dewisiwyd ef yn flaenor yn 1850, yn Bethphage, Llaingoch, Môn., ac felly bu yn gwasanaethu yn y swydd am 52 o flynyddoedd. Yr oedd bob amser yn onest ac ymddiriedol, ac yn meddu barn addfed. Yr oedd yn meddu ar ysbryd y gwaith, a hyny gyda rhanau mwyaf ysbrydol. Yr oedd yn dra gofalus hefyd am y casgliadau at wahanol achosion, sef y Genadaeth, y Feibl Gymdeithas, a byddai yn cyfranu yn hael ei hunan.

Yr oedd yn dra hoff o fod gartref, ac anfynych yr elai i un man ond i'r Gymanfa yn achlysurol. Yr oedd hefyd yn lled gyson yn y Cyfarfodydd Dosbarth y blynyddoedd diweddaf, a dangosid parch mawr iddo gan ei frodyr o herwydd ei gymeriad a'i ffyddlondeb crefyddol.

Yn ei fywyd personol meithriniai rinwedd yr hen dadau - yr oedd yn onest a geirwir yn ei drafodaeth a'r byd, yn gymwynasgar fel cymydog, ac yn haelfrydig a thyner ei deimladau; cymerai ddyddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac yn nygwyddiadau yr amseroedd, a byddai yn darllen llawer ar bapyrau, ac yr oedd yn meddu cydymdeimlad dwfn a phob symudiad oedd a'i amcan i ddyrchafu a llesoli dyn, megys dirwest, addysg a diwygiadau gwladol a chymdeithasol, ond er yr oll, crefydd oedd yn fwyaf amlwg yn ei gymeriad nes peri i bawb ei adwaen fel dyn Duw; un wedi cysegru ei fywyd i'w wasanaeth. Y Beibl oedd ei brif lyfr; darllenai lawer arno, ac hefyd ar esboniadau er ceisio ei ddeall. Yr oedd yn hoff iawn o ddarllen "Athrawiaeth yr Iawn," gan Dr. Edwards, a "Gorphwysfa'r Saint." Yr oedd yn amlwg ei fod yn byw mewn cymdeithas agos a'r nefoedd ac yn "Israeliad yn wir."

Yn ei gystudd olaf yr oedd ei feddwl yn hollol glir. Wedi i'r meddyg ddweyd wrtho nad oedd gobaith am ei wellhad, dywedai yntau, "Wel, mae yn bur sobr i edrych ar angeu yn ei wyneb, ond," meddai, "nid oes arnaf ei ofn yn nghysgod yr Iawn mawr. 'Ac efe yw yr iawn,' 'Twr cadarn,' 'lesu Grist yr un ddoe a heddyw;' reit ddiogeL" Mae ei goffadwriaeth yn barchus gan ei holl gydnabod. Yr oedd yn meddu dynoliaeth dda, yn frawd siriol a charedig; ei onestrwydd, ei amynedd a'i oddefgarwch yn nodweddion amlwg, a'r rhai hyny wedi eu haddurno a gras nes ei wneyd yn ŵr o ddylanwad mawr. Fel swyddog o'r eglwys yr oedd yn bobpeth ellid ddymuno; wedi gwasanaethu fel blaenor yn Nghymru a'r wlad hon am 52 o flynyddoedd. Teimlir colled fawr ar ei ôl yn eglwys Barneveld.

Dydd Sadwrn canlynol daeth tyrfa luosog yn nghyd i weinyddu y gymwynas olaf iddo, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. P. Gray Evans, A. Smith, J. Nichols, Barneveld, a'r ysgrifenydd. Yna aed i gladdfa y teulu yn Arena lle y rhoddwyd ei weddillion i orphwys wrth ochr ei hoff a'i anwyl Gaynor, a'i anwyliaid oedd wedi ei ragflaenu. Gwnaed sylwadau gan y Parch. Mr. Kegston ar lan y bedd, yr hwn oedd yn weinidog yn Arena pan yr oedd Mr. Jones yn byw yno. "Peidiwch wylo heddyw," meddai, "pan y byddwn yn claddu dyn annuwiol wylwch. Nid ar amgylchiad fel sydd yma heddyw; nid oes yma achos wylo; dim ond Tad yn cymeryd ei blentyn o fyd y profedigaethau ato ei hun i'r gwynfyd pur a diddiwedd."

Yna canwyd yn deimladwy a tharawiadol, "Shall we meet beyond the river." Gadawodd saith o blant i alaru am dad tyner a gofalus, sef William a Hugh yn Arena, John ac Ann yn Clyde, Evan yn Tacoma, Gaynor yn Fairmont, Minnestoa, a Laura yn ei chartref yn Barneveld, yr hon fu yn gofalu mor dyner am ei rhieni yn eu henaint.

Y Sabboth dylynol pregethodd yr ysgrifenydd bregeth angladdol i gynulleidfa fawr oddiwrth 2 Cor. 5: 8-9. Nawdd y nef fyddo dros ei blant a'i wyrion, a bydded iddynt oll gael adnabod Duw eu tad yn Dduw iddynt hwythau, ac a dosturio wrth eglwys y lle, gan godi eto feibion i lanw lle y tadau i gario y gwaith da yn ei flaen er gogoniant i Dduw.
Hugh Owens. Picatonica, Wisconsin.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1902.