MR. WILLIAM PARRY. MILWAUKEE, WISCONSIN.

Prydnawn ddydd Llun, Ionawr 13eg, 1902 taenwyd y newydd trist yn mysg Cymry Milwaukee fod William Parry, Bay View, wedi cyfarfod a damwain angeuol yn y Thomas Blast Furnace. Nid oes wybodaeth eglur pa fodd y cymerodd y ddamwain le, gan nad oedd neb yn dygwydd bod yn y lle i weled, ac na chafodd yntau fyw i adrodd yr hanes. Yr oll y mae sicrwydd am dano ydyw ei fod yn esgyn ar yr elevator ac iddo syrthio dros ei hochr, uchder o tua deg- troedfedd-ar-hugain, ar y ddaear galed.

Yr oedd wedi bod yn ngwasanaeth Mr. Thomas er's misoedd fel prif beirianydd, tra yr oedd adgyweiriadau eang yn cael eu gwneyd ar y Furnace, a newydd ei rhoi i mewn yr oedd yr elevator pan gymerodd y ddamwain le.

Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn nhy yr ymadawedig prydnawn ddydd Mercher, pryd y gweinyddwyd gan y gweinidog a'r Parch. Perry Miller, D. D., yna awd a'r corff i Randolph i'w gladdu, ac yno drachefn cafwyd gwasanaeth dan arweiniad y Parch. John R. Johns ac Urdd y Seiri Rhyddion.

Prydnawn Sabboth, y 26ain, traddodwyd pregeth goffadwriaethol yn nghapel Bay View, lle yr oedd yr ymadawedig wedi bod yn ddiacon o radd dda er's amryw flynyddau. Yr oedd yr angladd yn un o'r rhai mwyaf parchus a'r cydymdeimlad a ddangoswyd a'r teulu yn ddwys a chyffredinol.

Mab ydoedd ein gwrthddrych i William ac Ann Parry, ac fe'i ganwyd yn agos i Penygroes, Arfon, Gogledd Cymru, Ebrill 14eg, 1848 - y diweddar Barch. John Parry, Caer, yn ewyrth iddo o frawd ei dad. Yr oedd yn un o wyth o blant - pedwar o ba rai ddaethant i America. Pan oedd William yn bum' mlwydd oed symudodd y teulu i fyw i Borthmadoc, ac yn y lle hwnw y treuliodd y gweddill o'i faboed. Yno y gosododd i lawr sylfeini ei gymeriad - y dysgodd ei grefft fel machinist, y gwnaeth broffes o'i ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist, ac y dechreuodd arfer ei hun i wadu annuwioldeb a chwantau bydol a byw yn sobr, yn gyfìawn ac yn dduwiol. Soniai yn fynych a chydag edmygedd pur am y diweddar Barch. William Ambrose, ac ystyriai ei adnabyddiaeth o'r gwr da hwnw yn un o ragorfreintiau penaf boreu ei oes. Deallwn ei fod o'i febyd a gogwydd ei feddwl at y pur a'r rhinweddol, ac iddo yn lled ieuanc roddi ei hunan i'r Arglwydd ac i'w bobl, yn ol ei ewyllys. A phan dyfodd i aeddfedrwydd oedran yr oedd yn ddyn gwir ddefnyddiol gyda'r achos.

Yn 1869, yn ddyn ieuanc 21 oed, daeth Mr. Parry drosodd i America, gan lanio yn New York ar y 4ydd o Orphenaf, a daeth ar ei union i Milwaukee, lle y treuliodd weddill ei oes oddigerth rhyw ddwy flynedd y bu yn ffarmio gerllaw Randolph.

Yn 1872 seliwyd undeb priodasol rhyngddo â Miss Catherine Roberts, merch y diacon Foulk Roberts, Blaen-y-Cae, yr hwn undeb fu yn ffynonell cysur a llwyddiant am agos i ddeng-mlynedd-ar-hugain. Ganwyd i'r teulu bedwar o blant - un mab a thair merch - y rhai oll sydd yn fyw i gyd-alaru a'u mam yn ei phrofedigaeth chwerw. Trwy ddiwydrwydd yr oedd wedi dod yn berchen cartref clyd, a gwenai y dyfodol arno pan y torwyd ef ymaith. Yr oedd yn ddyn o ymddangosiad boneddigaidd ac urddasol, ac yn bwyllog a gochelgar ar air a gweithred. Perchid ef gan ei gymydogion, a'u tystiolaeth unfryd ar ddydd ei angladd oedd nad oedd neb yn eu mysg yn barotach i gael ei alw ymaith yn sydyn nag ef.

Yn ei farwolaeth collodd eglwys Bay un o'i cholofnau gwerthfawrocaf; canys yr oedd yn ffyddlon gyda'r moddion, yn ddoeth yn ei gynlluniau, ac yn un o'r rhai hawddaf i gydweithredu ag ef a ellid taro arno. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Dymunol yw gweled y teulu yn tawelu mor ddirwgnach yn ngwyneb y brofedigaeth, ac yn gwynebu y dyfodol gyda graddau o benderfyniad i wneyd y goreu o bethau fel y maent. "Enw Duw Jacob a'u diffyno."

John E. Jones.
Milwaukee, Wisconsin.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1902.