MRS. CATHERINE ROBERTS. BLAEN-Y-CAE RANDOLPH, WISCONSIN.

Mehefin 17eg, 1902, o'r sarcoma cancer, pan yn 80 mlwydd a naw mis oed, bu farw Mrs. Catherine Roberts, anwyl briod Foulk R. Roberts, Blaen-y-Cae, ger Randolph, Wisconsin.

Ganwyd Mrs. Roberts yn Lleyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn mis Medi, 1821. Ei rhieni oeddynt Griffith ac Elizabeth Owen, ac yr oedd yn un o wyth o blant - chwech o ferched a dau o frodyr. Yr oll o'r chwiorydd wedi marw o'i blaen hi, ond y mae ei dau frawd, sef Samuel Owen, Randolph (Chicago yn awr) a Griffith Owen, FoxLake, Wisconsin, yn fyw.

Awst 18fed, 1844, priododd gyda Foulk R. Roberts, Blaen-y-Cae, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Awst 19, 1844, sef dranoeth ar ol priodi, cychwynasant i'r America, yn y llong "Patrick Henry." Yr oedd mam Mr. Roberts, sef Catherine Foulk a'i frawd Thomas yn dyfod drosodd gyda hwynt. Er bod lluaws o Gymry yn dyfod trosodd yn yr un llong a Mrs. Roberts, nid oes ond tri o honynt yn awr yn fyw, sef ei phriod, Foulk R. Roberts, a'i frawd Thomas R. Roberts a William Williams, Caledonia, Wisconsin. Ar ol tair wythnos o fordaith glaniasant yn New York, ac aethant oddiyno i Wisconsin. Prynodd Foulk Roberts a'i frawd Thomas claim o 240 o erwau o dir gan Americanwr, 120 o ba un oedd yn Dodge County, a 120 yn Columbia County. Yr oedd ty log ar y claim, a galwodd Catherine Foulk y ffarm ar yr un enw a'r hen gartref yn Nghymru sef Blaen-y-Cae. Tachwedd 1af, 1844, sefydlasant yn eu cartref newydd. Gan mai hwy oedd y sefydlwyr Cymreig cyntaf yn yr ardal, galwyd yr ardal wrth yr un enw, sef Blaen-y-Cae.

Cafodd Mrs. Roberts wybod cymaint a nemawr neb am galedi ac anfanteision gwlad newydd. Nid oedd y pryd hwn ond pedwar ty yn holl blwyf Randolph. Hefyd yr oedd y rhanau hyn o'r wlad yn llawn o Indiaid a bleiddiaid, fel yr oedd y trigianwyr newydd mewn cryn bergyl am eu bywyd. Yn mhen tua chwe mis wedi sefydlu yn Blaen-y-Cae bygythiwyd hwy a newyn, gan i'r blawd oeddynt wedi ddod gyda hwy o Watertown ddarfod, a dim i'w gael yn nes na Madison, ac fe gymerodd tuag wythnos o amser i fyned yno gyda'r ychain ì ymof yn blawd.

Peth arall oedd yn ei gwneyd yn chwith iawn i Mrs. Roberts oedd nad oedd dim moddion crefyddol Cymreig i'w cael yn yr holl ardaloedd. Ond cyn pen rhyw hir iawn darfu i deulu Blaeu-y- Cae, gyda chymorth tri o deuluoedd Cymreig eraill oedd erbyn hyn wedi symud i'r ardal, sefydlu ysgol Sabbothol, sef yn mis Tachwedd, 1844. Hon oedd yr Ysgol Sabbothol Gymreig gyntaf a sefydlwyd yn nosbarth Welsh Prairie, Wisconsin. Hefyd yr oedd Mrs. Roberts yn bresenol yn y cyfarfod gweddi Cymreig cyntaf a gynaliwyd yn yr ardal, ac yn gwrando y bregeth Gymreig gyntaf a bregethwyd yno.

Nid oedd Mrs. Roberts yn proffesu crefydd er iddi gael ei magu yn yr eglwys. ünd yn mhen wyth mlynedd ar ol sefydlu yn Blaen-y-Cae, sef yn 1852, ymunodd a'r eglwys, hi a'i phriod.

Ganwyd iddynt bump o blant pedair o ferched ac un mab, yr oll o ba rai sydd yn awr yn fyw ag eithrio Sarah, priod Richard P. Wynne, Milwaukee, yr hon a fu farw Ebrill 8fed, 1899.

Bu Mrs. Roberts yn gwaelu am tua blwyddyn, ond ni chaethiwyd hi i'w gwely ond rhyw naw wythnos. Dyoddefodd ei holl gystudd, er trymed oedd, yn dawel, a'i phwys ar ei Gwaredwr. Effeithiodd marwolaeth ei merch Sarah yn ddwys iawn ar ei meddwl a'i hysbryd, ac i raddau ar ei hiechyd; ond credwn i'r amgylchiad fod o fendith fawr i'w henaid. Cafodd nerth mwy nag erioed trwy y brofedigaeth chwerw hono i "roddi ei sercb ar y pethau sydd uchod." Darllenodd fwy ar ei Beibl nag yr arferai wneyd cyn hyny, er iddi ei ddarllen rai gweithiau drosodd, a darllenai ef i well pwrpas hefyd. Nid ei ddarllen er mwyn myned drosto, ond ei ddarllen i'r dyben o sugno maeth ysbrydol o hono i'w henaid. Y mae yn hawdd gweled wrth y lluaws adnodau oedd wedi eu marcio yn y Beibl ei bod yn byw mewn porfeydd gwelltog iawn.

Yr adnodau y tynai fwyaf o gysuron cynaliaeth i'w henaid oedd y rhai a ganlyn; "A galw arnaf fi yn nydd y trallod, a mi a'th waredaf." "Cuddia dy wyneb oddiwrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau." "Crea galon lan ynof, o Dduw, ac adnewydda ysbryd uniawn o'm mewn." "Na fwrw fi ymaith oddigrer dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddiwrth." "Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth, ac a'th hael ysbryd cynal fi." "Ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth ac yn dragywydd." "Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a'th gynal di." "Ni ad i'r cyfiawn ysgogi byth." "Pwy sydd genyf fi yn y nefoedd ond tydi; ac ni ewyllysiais neb ar y ddaear gyda thi " "Pallodd fy nerth a'm calon; ond nerth fy nghalon a'm rhan yw Duw yn dragywydd." 'Ynot ti, Arglwydd, y gobeithiais." "Bydd i mi yn drigfa gadarn i ddyfod iddi bob amser." "Gorchymynaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa." "Ti yw fy nghyfraith, O Arglwydd Dduw; fy ymddiried o'm hieuenctyd." "Na fwrw fi ymaith yn amser henaint, na wrthod fi pan ballo fy nerth."

Pan oedd un o'i pherthynasau yn ymddyddan a hi ychydig wythnosau cyn ei marw ac yn coffa iddi fod yn proffesu Crist er's haner cant o flynyddoedd, ac iddi gael y fraint o wneyd llawer gydag achos yr Arglwydd, mewn lletya ei weision, a.y. Cododd hithau ei braich i fyny, ac meddai "O peidiweh a son am hyn yna; na soniwch am ddim a wnaethym i, nid yw yn werth son am dano; nid wyf yn pwyso dim ar fy ngweithredoedd; mae genyf le cadarnach i bwyso arno, sef Iesu Grist, a'r hyn a wnaeth efe dros bechadur ar Galfaria. Dyna'r man yr wyf fi yn pwyso arno heddyw." Bu ei phreswylfod yn gartref clyd a chysurus iawn i genadon Duw, a hyny am dros haner cant o flynyddoedd. Prin iawn oedd ei gallu a'i dawn i osod allan ei duwioldeb; yr oedd mwy o'i dduwioldeb o'r golwg yn y dirgel, nac yn y golwg. Yr ydym yn gwbl argyhoeddedig ei bod yn wraig dduwiol, a'i bod yn caru yr Arglwydd Iesu. Yr oedd yn ffyddlon iawn mewn dylyn moddion gras yn y capel, ac yn darllen llawer ar y Beibl a llyfrau crefyddol eraill.

Mae y Cyfaill yn dyfod i'r teulu er's 55 o flyuyddoedd, ac arferai Mrs. Roberts ei ddarllen yn fanwl. Ar ol yn agos i 58 o flynyddoedd o fywyd priodasol hunodd ei henaid yu yr Iesu, er colled a galar mawr i'w phriod, yr hwn sydd wedi colli ei olygon ac mewn henaint teg.

Gadawodd i alara eu colled a'u chwithdod ar ei hol heblaw ei phriod ddau frawd a phedwar o blant, sef Mrs. William Parry, Bay View, Milwaukee; Mrs. John R Owens, Columbus; Mrs. R J. Williams, sydd yn bvw yn yr heu gartref yn Blaen-y-Cae, a Robert F. Roberts, Randolph. Heblaw ei phriod, brodyr a phlant, gadawodd hefyd naw o wyrion a dau o orwyrion.

Dydd Gwener, Mehefin 20fed, daeth cynulliad lluosog o'r ardalwyr yn nghyd i'w hangladd. Llywyddid y gwasanaeth gan y Parch. D. R. Jones. Wedi darllen a gweddio yn y ty gan y Parch. R. H. Evaus, aed a'r corff i'r capel. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y brodyr John Roberts, W. W. Davies, G. Griffiths, J. R. Jones, R. H. Evans ac Edwin E. Jones, M.A., B.D., (yn Saesneg). Yna rhoddwyd y gweddillion i orphwys yn nghladdfa y teulu.
G. Griffiths.

Y Drych 19/04/1900.


MRS. FOULK R. ROBERTS. BLAEN-Y-CAE, RANDOLPH, WISCONSIN.

Mrs. Foulk R. Roberts died at Blaen y Cae, near Randolph, June 17th, at the age of 84 years.

With the death of Mrs. Roberts the county loses another of her earliest settlers, she having resided in Randolph since 1844. She had been in feeble health for some time.

She was a loving wife and mother in whom was found the sterling qualities and high morals to guide and make a christian home. Her loss will be felt and she will be remembered not only by the immediate relatives and a large circle of friends, but also by many whom she befriended. She was a prominent member of the Randolph Welsh Methodist church.

Besides her husband she leaves three daughters and one son, Mrs. William Parry, Bay View, Milwaukee; Mrs. J. R. Owens, Columbus; Mrs. R. Williams and R. F. Roberts of Randolph.

The deceased was an aunt of Mrs. L. N. Phillips of this city.

Newspaper Obituary.