MR. ROBERT O. ROBERTS, RACINE, WISCONSIN.

Robert O. Roberts, one of Racine's last known Welshmen, died at 8.10 o'clock this morning at his home, No. 515 Ninth street, after a long illness, aged 48 years.

Deceased was born in North Wales and emigrated to America over twenty five years ago, coming direct to Racine. For many years he was a trusted employee of J. I. Case T. M. Company. He was a good citizen, quiet and unpretentious, but at the same time was held in high regard by his fellow countrymen and others. He was a member of the Welsh Presbyterian church, of Odd Fellows lodge No. 8 I.O.O.F., Modern Woodmen of America and the St. David's society. A widow and one son survive him.

Racine Journal January 7th 1902.


MR. ROBERT O. ROBERTS, RACINE, WISCONSIN.

Am wyth o'r gloch dydd Gwener, Ionawr 8ydd, hunodd Robert O. Roberts o'r ddinas hon; a phrydnawn Llun canlynol talwyd y gymwynas olaf i'w weddillion, y gwasanaeth angladdol yn cael ei gynnal yn nghapel y T. O, lle yr oedd yn aelod cymeradwy a diymhongar. Gwasanaethwyd gan y Parchn. David Edwards, Lake Crystal, Minnesota; Thomas Evans (A.) Racine, a John C. Jones, Chicago. Yr oedd yr angladd yn lluosog ac anrhydeddus - y ddwy urdd y perthynai iddynt wedi troi allan yn deilwng o'u cymeriadau dyngarol, sef y Modern Woodmen of America a'r Odd Fellows, y rhai fuont yn garedig iddo yn ei waeledd, megys yn taenu blodau ar hyd ymyl ei lwybr i'w sirioli yn ei nychdod a'i lesgedd er mis Ebrill diweddaf.

Gadawodd yn eu trallod a'u galar ei anwyl briod a'i fab, brawd yn Australia, a chwaer yn Racine, ac un yn Clynog, Sir Gaernarfon. Ganwyd ef yn Ty'n y Ffynon, Clynog, yn 1854. Ei rieni oedd Owen a Jane Roberts. Ymfudodd ì'r wlad hon yn 1879, gan ddyfod yn ddiymdroi i Racine, lle y treuliodd weddill ei ddyddiau, oddigerth naw mis yn Colorado.

Ymbriododd gyda Miss Elizabeth Lewis, merch Mrs. Lewis, 909 College Avenue, a chwaer i John H. Lewis ac i Mrs. Thomas D. Howell a Miss Mamie Lewis, yn 1881, a bu yr undeb yn hapus a chariadus hyd y diwedd; ac yr oedd meddwl am eu gadael yn unig yn archolli ei galon dyner. Derbyniodd y gofal a'r tynerwch mwyaf posibl oddiar law ei briod a'i theulu, a'i chwaer ei hun.

Gwnaeth y brawd y goreu o'r ddau fyd, a pha beth bynag allasai fod ar lwybr ei ddyledswydd o fewn cylch ei allu ag y bu iddo ei esgeuluso, yr oedd yn achos gofid a galar iddo. Bu'n ffyddlon hyd y gallodd gyda chrefydd yn ei holl ranau. Meddai ddyddordeb arbenig yn yr Ysgol Sul; byddai ei efrydiaeth o'i wers gogyfer a'r dosbarth yn graffus a manwl, a'i lafur cyson yn gwneyd ei feddwl yn finiog a gafaelgar, a'i gynydd amlwg y blynyddoedd diweddaf mewn gwybodaeth yn hyfrydwçh i'r dosbarth lluosog a boddhad i'r athraw clodwiw Thomas D. Howell.

Yn hanes y brawd hwn, yn arbenig yn ei gystudd olaf, caed trem ar addurn gras dwyfol yn prysuro aeddfedu a phrydferthu enaid credadyn, tra ei gorff yn nychu dan y darfodedigaeth. Profodd ei fyr, ysgafn gystudd yn odidog ragorol gan iddo ddyfod i olwg anchwiliadwy olud gras a'i gwnaeth yn gyfoethog tuag at Dduw. Yr oedd ei ymddiredaeth lwyr a syml yn nodweddiadol o berson deallus, goleuedig, yn gweithredu ffydd fywiol ar berson y Gwaredwr, nes cael profi cymundeb agos ag ef; mwynhau hyfrydwch tangnefedd yr Iachawdwriaeth. Ac yn ngoleuni'r drefn rasol teimlai ei fod yn meddiant llawn sicrwydd gobaith fod yr Iesu trugarog yr un bob amser, a bod y tangnefedd a'r heddwch puraf yn ei dawelaf ddianwadalwch, yn troi yn elfen wynfydedig o gysur iddo wrth rodio glyn cysgod angeu. Profodd ei "wialen a'i ffon" yn ei gysuro, yn nghyd a chael arlwy o fwrdd y wledd yn yr anial, yn brawf hyfryd o'r hyn oedd yn ei aros yn nhy ei Dad - y lle cymwys a dedwydd yr oedd ei Geidwad grasol wedi drefnu iddo, a phrofodd waith yr Iesu drosto a'r Ysbryd ynddo yn hawl a chymwysder i'r lle gogoneddus.

Cafodd hamdden i drefnu yn bwyllog ei holl amgylchiadau, a phob dim yn fanwl ynglyn a'i gladdedigaeth. Heddwch i'w lwch.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad, Ebrill 1902.