GRIFFITH W. WILLIAMS. CENTRAL CITY, COLORADO.

Yn Central City, Colorado, Chwefror. 10fed, 1902, bu farw y brawd uchod yn 52 mlynedd a 10 mis oed.

Ganwyd ef yn Ffestiniog, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Ebrill 7fed, 1849. Ail fab i John W. ac Alice Williams ydoedd. Ymfudodd y teulu i'r wlad hon tra yr oedd ef yn ieuanc, gan sefydlu yn Dodgeville, Wisconsin. Yma y tyfodd i fyny, ac y dechreuodd weithio fel mwnwr. Yn 1872 aeth i Colorado, lle yr arosodd am ysbaid, ac wedi dychwelyd yn 1874, ymunodd mewn priodas a Miss Anne J. Edwards, merch hynaf y diweddar Edward H. Edwards a'i briod o'r ardal hon; ac wedi rhai blynyddau ymfudodd ef a'i deulu eilwaith i Colorado, lle yr arosodd hyd derfyn ei oes.

Ganwyd iddynt bedwar o blant, o'r rhai y mae tri yn aros, sef un mab, Humphrey, a dwy ferch, sef Alice a Nelìie. Gadawodd i alaru ar ei ol, heblaw ei briod a'i blant, ei fam oedranus, Mrs. Alice Williams, Dodgeville; dau frawd, William W. Williams, Mineral Point; John N. Williams, La Crosse; tair chwaer, Mrs. William J. Hughes a Mrs. William Enoch, Dodgeville, a Mrs. Jones, priod y Parch. J. C. Jones, Chicago.

Cynaliwyd gwasanaeth yn y ty cyn cychwyn gan ei weinidog, y Parch. Alexander Mackey, a'r Rocky Mountain Foresters of America, gan hebrwng ei weddillion mor bell a Black Hawk. Dygwyd ei gorff i Dodgeville i'w ddaearu gan ei briod a'i fab, pryd y cyfarfyddwyd hwy yn yr orsaf gan luaws o berthynasau a chyfeillion. Am un o'r gloch dydd Sadwrn, Chwefor 15, yn nhy W. J. Hughes, cynaliwyd gwasanaeth angladdol, dan arweiniad y Parch. P. G. Evans, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. D. Dyfri Davies, Mr. Rugn (A.) a J. C. Jones, Chicago. Canwyd amryw ddarnau yn deimladwy dan arweiniad Proff. E. C. Davies. Yna ffurfiwyd yn orymdaith i'r gladdfa; o flaen yr elorgerbyd yr oedd pedair o'i nithoedd yn dwyn yr wmbredd blodau persawrus, gan mwyaf yn rhoddion yr eglwys, y Christian Endeavor, yr Ysgol Sul a'r Foresters, yn Central City, a'i frodyr yn nghyfraith a'i neiaint, yn elorglydwyr.

Canwyd wrth y bedd "Bydd myrdd oryfeddodau," a.y., a rhoddwyd ei gorff i orwedd yn mynwent Dodgeville. Derbyniwyd Griffith yn gyflawn aelod yn eglwys y T. C. yn Dodgeville tra yn ieuanc, a bu yn ffyddlon i'w broffes weddill ei oes, heb fod yn achos cerydd na dolur i'r eglwys mewn un wedd. Yr oedd bob amser yn unplyg a gonest, a'r rhai a'i hadwaenent oreu a'i hedmygent fwyaf; yr oedd wedi ei fagu ar aelwyd grefyddol gerddorol, ac yr oedd yn hoff iawn o ganu, ac yn meddu ar gryn allu yn y gelfyddyd, yn nghyd a llais soniarus.

Bu yn arweinydd y canu yn Dodgeville am fiynyddau, ac wedi hyny yn Colorado, nes iddo fyned yn rhy wan; ac yr oedd yn tynu llawer o gysur i'w enaid wrth ganu hen donau oedd wedi ddysgu adref yn blentyn, megys "O Dduw rho i'm dy hedd," a lluoedd eraill, a hyny yu ei hir gystudd diweddaf, yr hwn a barhaodd am yn agos i bedair blynedd, sef y miner's consumption, er hyny yn berffaith dawel ac ymostyngol i ewyllys ei Dad Nefol.

Ymddyddanai am ei ymadawiad gyda'r teulu mor dawel a digyffro a phe buasai yn myned o'r naill ystafell i'r llall yn y ty. O herwydd diffyg moddion Cymraeg yr oedd ef a'r teulu yn aelodau yn eglwys y Presbyteriaid Seisnig, ac wedi gwasanaethu y swydd o Henadur er's 15 mlynedd. Wel, bellach gorphwysa yn dawel hyd fore y codi. "Canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd."
Cyfaill.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1902.