JOHN S. WILLIAMS. OSHKOSH, WINNEBEGO COUNTY, WISCONSIN.

Bu farw y brawd hwn Chwefror 28ain, 1902, pan yn tynu at wyth a thriugain oed. Yr oedd yn enedigol o gylchoedd Bethesda, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Daeth i ardal Capel Bethesda, yn sefydliad Oshkosh, Wisconsin, yn 1857, wedi treulio rhai misoedd yn Nhalaethau y Dwyrain. Nid oedd ond llanc 22 neu 23 mlwydd oed.

Yr oedd yn saer, at bob gwaith gwlad, o'r radd flaenaf, a daeth galw buan am ei wasanaeth. Teimlai ymlyniad wrth ardal Bethesda, efallai oblegid yr enw, a phresenoldeb pobl o Arfon. O leiaf ychydig a arosai yn un lle arall y blynyddoedd hyn. Adeiladodd weithdy saer cyn bo hir yn agos i'r capel, yn yr hwn, a'r adeiladau ychwanegol, y treuliodd ei nerth hyd adeg ei farwolaeth.

Priododd yn 1870 gyda Miss Margaret Lloyd, merch Cadwaladr a Ruth Lloyd. Ganwyd iddynt David C. a Ruth Williams - y rhai ydynt bobl ieuainc rhinweddol, ac a fuont o gysur mawr i'w tad.

Ond y mae hynodion y brawd hwn yn ei ragoriaethu fel dyn, cymydog, crefftwr a phen teulu, y rhai ar y diwedd a goronwyd a gwir grefydd. Trwy ledneisrwydd medrai gyfarfod a dynion o bob math, fel ag i wneyd cymydogion caredig o honynt. Er y byddai lawer yn fwy hoff o rai na'u gilydd, eto gwnai yn gymwynasgar gyda'r rhai mwyaf annymunol; mynai ef ei fod yn garedig a siriol, gan nad sut y byddai eraill. Rhwng hyn a'i fedr fel crefftwr, daeth yn ganolbwynt i gylch eang o'r ardal. Ychydig a geisient wneyd heb fyned i weithdy John S. Williams.

Rhagoriaeth arall bwysig ynddo ydoedd ei allu i gadw holl chwedlau yr ardal iddo ei hun. Byddai y chwedlau hyn yn dylifo yno o bob cyfeiriad - "peth gwir a pheth celwydd." Ond dyna y diweddaf a glywid byth amdanynt o'i ran ef. Iacheid y dyfroedd, fel na ddeuai oddi yno na marwolaeth na diffrwythdra, ac mae yr ardal yn ddyledus iawn i'r brawd am hyn. Byddai yr Indiaid, gynt, yn gosod yr holl ardaloedd hyn ar dân unwaith y flwyddyn, ond gallasai Mr. Williams eu gosod ar dan bob wythnos pe mynasai; ond ni wnaeth hyny erioed.

Pan yn llanc llithrodd, mewn awr o ddireidi, i gymeryd diod feddwol. Llithrodd eilwaith, a thrachefn. Heblaw y pechu mawr "yn erbyn y Nef."aeth ei natur o dan chattel mortgage gan y diafol, yr hwn a godai log creulawn - y taliadau yn amlach a thrymach o hyd. Ond trwy ryfedd ras Duw, daeth y meichian mawr i godi y fortgage fry, ac i ddatod gweithredoedd diafol. Cafodd ein brawd waredigaeth ryfedd, ar ol i bawb bron ei roddi fyny. "Un rhyfedd iawn yw Duw."

Bu yn grefyddwr ffyddlawn, ac yn aelod esmwyth yn yr eglwys. Ymroddai gyda'r Ysgol Sul, a chododd allor i alw ar enw yr Arglwydd yn ei deulu. Ychydig a allodd wneyd yn gyhoeddus gyda'r gwaith; ond canfyddid ei fod yn cynyddu mewn gras, a bod pethau y nefoedd yn melysu gydag ef.

Bu farw wedi cystudd byr, ond trwm, o'r pneumonia, gan adael priod, mab, merch, a mam-yn-nghyfraith mewn galar dwys a hiraeth calon ar ei ol. Cynaliwyd ei wasanaeth claddu nawn y dydd Llun canlynol — un o angladdau lluosocaf yr ardal. Gweinyddwyd gan y Parchn. John R. Johns, David Price, John V. Jones, ac ysgrifenydd ei gofiant; ac yr oedd "arogl esmwyth" yr Arglwydd ar yr oll. Dodwyd ei gorff i orwedd ger Bethesda, yn ngolwg maes brwydr fawr ei fywyd, a lle yr enillodd y fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
D. Dayies.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1902.