MRS. CATHERINE HUGHES, VERONA MILLS, ONEIDA, NEW YORK.

Yn Verona Mills, Swydd Oneida, N. Y., Hydref 30ain, 1903, bu farw Mrs. Hughes, priod y diweddar Hugh R. Hughes. Ni fu yn cadw ei gwely ond tri diwrnod.

Ei hafiechyd ydoedd y bronchitis a pneumonia. Ganwyd hi yn Sguborfawr, Cefndwysarn, Bala, G. C, Mawrth, 1827. Daeth i'r wlad hon gyda'i thad, ei brodyr, a'i chwiorydd yn 1842, gan sefydlu yn Ava, ac yno yn 1850 yr ymbriododd a Mr. Hughes, yr hwn fu farw ychydig dros flwyddyn yn ol.

Y plant sydd yn fyw i alaru ar ol eu mam ydyw Mrs. John Crumwell, Greenway; R. H. Hughes, Verona Mills; J. E. Hughes, Oneida; David J. Hughes, Verona; Mrs. Daniel Agne, Oneida; ac un chwaer, Mrs. Ann Morris, Milwaukee, Wisconsin. Yr oedd Mrs. Hughes yn darllen llawer ar ei Beibl, ac yn derbyn y Cyfaill yn gyson. Yr oedd yn wraig grefyddol, yn amlwg am ei rhinweddau, ac yn meddu ar gyfeillion lawer. Yr oedd yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Rome, N. Y.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mawrth 1904.