MR. JOHN HUGHES. BLISSVILLE, VERMONT.

Ganwyd ef yn Tai Newyddion, Llandwrog, Gogledd Cymru, yn 1829.

Bu farw yn ei breswylfod Gorphenaf 25ain, 1903.

Pan yn ieuanc gweithiai gyda'r amaethwyr yn mro ei enedigaeth; ac yn mhen amser symudodd i weithio yn chwarel y Penrhyn. Bu farw ei wraig pan yn lled ieuanc. Priododd eilwaith gyda Jane Hughes, o ardal y Ceunant, Llanrug.

Yn mhen rhai blynyddoedd ymfudodd y teulu i America a sefydlasant yn y lle hwn. Cyn hir prynodd John Hughes nifer o erwau o dir ac adeiladodd dŷ bychan destlus, a thrwy ofal a chynildeb talodd am yr oll. Yma bellach y preswyliodd hyd derfyn ei oes.

Cafodd fyw i fwynhau ei lafur yma am tua 33 o flynyddoedd. Er mai gŵr cyffredin mewn ystyr fydol oedd ein diweddar frawd, eto yr oedd llinellau rhagorol yn ei gymeriad, teilwng iawn i'w hefelychu. Yr oedd yn Gristion diamheuol - bywyd pur, cyson, tawel a ffyddlon trwy ei holl yrfa grefyddol. Sylwid yn fynych gan ei adnabyddion ar drefn a destlusrwydd ei breswylfod a frwythlondeb y tir o'i amgylch, yr hyn yn ddiau oedd yn adlewyrchiad o'i gymeriad mewn mwy nag un ystyr.

Credwn fod hyn yn ddameg neu ddarlun lled gywir o'i fywyd moesol a chrefyddol. Nathanael yn mhlith y dysgyblion oedd efe - Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd twyll. Er fod cymundeb parhaol rhwng Crist a'i bobl, eto y mae dwy adeg neillduol yn y rhai y mae efe a hwythau yn dyfod yn agos iawn at eu gilydd. Un yw adeg yr enedigaeth drachefn, a'r llall yw pan y del efe i'w cymeryd hwy ato ei hun trwy weinidogaeth angeu.

Cyfarfyddodd ein brawd a'i Waredwr a'u gilydd pan oedd efe yn llanc ieuanc, ac ni fu bwlch yn y gymdeithas o hyny allan; ac yn ddiweddaf oll, daeth i'w geisio ato ei hun, ac a'i cymerodd ef i'r trigfanau nefol fel y gwelai ei ogoniant ef.

Yr oedd yn dawel hynod yn ei gystudd - yr oedd rhyw sirioldeb i'w deimlo yn yr ystafell lle y gorweddai. Gwirid y gair, "Ni frysia yr hwn a gredo." Edrychai tua'r groes yn gyson; gwelai yno yr hwn a dalodd swm ei ddyled a gwerthfawr waed ei galon friw, a thra yn edrych arno ef, efe a hunodd yn dawel.

Gadawodd weddw ofalus i alaru ar ei ôl (collodd ei unig ferch rai blynyddoedd yn ôl, sef Mrs. Robert J. Williams, Granville, New York.); hefyd dau fab, sef Richard Hughes, Granville, a John G. Hughes, yn awr o Utica, New York, ac un brawd yn Fair Haven, sef Mr. Pierce Hughes.

Duw, yn ôl ei addewid, a fyddo yn amddiffyn i'w briod ac yn nodded i'r teulu oll.

Cafodd gladdedigaeth parchus a lluosog. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parchn. W. R. Edwards, Granville; John R. Williams, Rome, New York a'r ysgrifenydd.
E. D. Humphrey.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1903.