MRS. ANN OWENS. POULTNEY, RYTLAND, VERMONT.

Y mae genym orchwyl pruddaidd o geisio ysgrifenu ychydig o hanes y chwaer dduwiolfrydig hon i'r Cyfaill, pa un a dderbyniodd yn gyson am flynyddoedd.

Ganwyd Mrs. Ann Owens yn Trawsfynydd, Gogledd Cymru. Merch ydoedd i'r hen ŵr duwiol hwnw oedd megys patriarch yn y lle, sef William Owen, Muriau, enw yr hwn sydd yn berarogl yn hanes crefydd Trawsfynydd hyd heddyw. Derbyniodd hi ran helaeth iawn o ysbryd ei thad, a llawer gwaith y bu yn ei gyrchu gartref o'r gwahanol gyfarfodydd crefyddol, pan y byddai wedi llwyr ymgolli mewn hwyl a moliant.

Priododd Ann Owens gyda Robert Owens, brodor o'r un ardal, a threuliasant ran helaeth o'u bywyd priodasol yno.

Symudasant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1889, a thiriasant yn Ashley, Pennsylvania; oddiyno yr aethant i Wind Gap, Pennsylvania, ac yn olaf y daethant i South Poultney. Yma y daethym i gydnabyddiaeth a hi, ac er mai am ychydig amser y bu hyny, eto teimlaf ei bod yn fraint gael dod i gydnabyddiaeth a rhai o stamp Mrs. Owens.

Dynes nodedig o bur y cefais hi; yr oedd yn hawdd siarad â hi, gan ei bod yn hoff iawn o ymddyddan, eto i gyd i ryw un cyfeiriad y byddai rhediad ei hymddyddanion, a therfynent mewn hen adgofion o bregethwyr a Sassiynau yn Nghymru. Yr oedd ganddi gof nodedig o gryf, a mynych y clywais hi yn adrodd rhanau helaeth o bregethau oedd wedi eu gwrando pan yn eneth. Adwaenid hi yma fel dynes blaen; dywedai ei meddwl yn ddifloesgni, a diau fod hyny i'w briodoli i egwyddor bur.

Gallem ddweyd yn ddifloesgni mai crefydd oedd ei phob peth hi; yr oedd byny yn eglur yn ei bywyd. Yr oedd wedi gwneyd crefydd Iesu Grist yn nod i geisio ymgyraedd ati ar y ddaear, ac erbyn hyn mae wedi derbyn ei gwobr. Yr oedd wedi ei nawseiddio yn ystod ei chystudd, ac wedi ymddyrchafu i dir uchel iawn o ran profiad, a mynych y dywedai yn dawel, "Dy ewyllys di a wneler;" a llawer iawn o weithiau y bu yn canu yn ei chystudd, "Yn dy law y dof i'r lan," a chredwn iddi gael hyn yn sicr, canys yr oedd yn rhodio y rhydiau yn dawel iawn, ac aeth i mewn i'w orphwysfa dawel, ogoneddus Ef, a'i henaid yn pwyso ar law y Gwr i'r Hwn y cysegrodd holl ddyddiau ei hoes.

Gwener, y 24ain o Fai, y flwyddyn hon, y diweddodd ei gyrfa ddaearol, gan adael priod hawddgar a thad gofalus a phedair merch i alaru eu colled ar ôl un oedd mor anwyl a hoff ganddynt.

Dydd Llun, Mehefin laf, daeth tyrfa fawr i weinyddu y gymwynas olaf, a'i danfon i dŷ ei hir gartref i fynwent brydferth Poultney. Cafodd angladd parchus iawn. Gweinyddwyd gan y Parchn. W. Edwards, (A.), Granville, W. Nathaniel, Poultney, a chyrhaeddodd ei hoff weinidog o Utica, sef y Parch. J. W. Morris, mewn pryd i gymeryd rhan yn yr angladd. Teimlir chwithdod mawr ar ôl Mrs. Owens.

Bydded i'r Arglwydd nerthu y teulu trallodedig, a bendithio yr amgylchiad i'w dwyn yn nes, nes ato Ef.

Os yw ei chorff yn dawel
Mewn priddell oer ddinam,
Mor felus genych feddwl
Mai yn y nef mae'ch mam;
Ac yno gyda'r dyrfa
Yn canu am waed yr Oen,
Mor ddedwydd ydyw arni
Fry yn y nef heb boen.
Cyfaill.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1903.