MR. JOHN W. OWENS. RANDOLPH, WISCONSIN.
Yn Randolph, Wisconsin, ddydd Mawrth, Rhagfyr y 15fed, wedi rhai misoedd o gystudd, bu farw John W. Owens o'r lle hwn.Ganed ef yn Nghaernarfon, Gogledd Cymru, Awst 8fed, 1841, a phan yn bur ieuanc daeth drosodd gyda'r teulu i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn ardal Columbus.
Yr oedd yn aelod o'r Co. G., 23rd Wis., a chyda'r gatrawd hono gwasanaethodd ei wlad yn amser y Rhyfel Cartrefol. Perthynai y Parchn. J. Wynne Jones, D.D., Baltimore, a T. E. Hughes, Chicago, i'r un gatrawd, ac yr oeddynt yn gyfeillion mynwesol.
Ymbriododd a'r hon sydd yn awr yn weddw 35 mlynedd yn ôl, a buont yn byw yn Proscairon a Chicago, ond yn ystod y 27 mlynedd diweddaf yn Randolph, lle y cariai ef fasnach yn mlaen mewn nwyddau cymysg.
Efe oedd goruchwyliwr ffyddlon y Cyfaill yma. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn bur ieuanc yn Bethel, Columbus. Collodd eglwys y T. C, yn Randolph, aelod ufudd, gweithgar a chynes yn y brawd hwn. Cristion yn cario hwyliau trymion oedd ein brawd, ond rhywfodd yr oedd gwynt ynddynt o hyd. Er ei fod yn gynhyrfus, nid oedd yn oriog fel Cristion. Chwythai anadl ei enaid bob amser yn gynes. Yr oedd ei weddiau yn wynt y dehau yn ein cyfarfodydd, ac ni cheid blodeuyn o deimlad crefyddol nad ymagorai yn yr awel fwyn. Yr oedd crefydd wedi lefeinio ei enau, fel y siaradai lawer iawn am dani yn ei faelfa.
Daeth torf fawr i'w gynhebrwng Rhagfyr 17eg, yr hyn brofai fod iddo le uchel yn syniad y wlad a'i hadwaenai. Rhyw fath o atalfa yn yr ymysgaroedd fu ei glefyd angeuol. Dyoddefodd gystudd poenus yn dawel a rhodiodd y glanau a'r "Iesu heb fod yn mhell."
Gadawodd i alaru ar ei ôl, heblaw brodyr a chwiorydd, weddw a phlant. Y plant, oeddynt yn bresenol hefyd yn ei gladdedigaeth, ydynt: Mrs. R. L. Owen, Chicago; Mrs. W. R. Dowell, Chicago; Miss Kathryn a James G. Owen.
Gweinyddwyd yn ei angladd gan y Parchn. Mr. Joliffe a Trenery (M.E.), J. C. Jones, Chicago, a'r ysgrifenydd.
Gofynai i ni nos Sadwrn cyn marw, "Gawn ni gwrdd tu draw i'r afon?" Hyd hyny, heddwch i'w lwch.
J. R. Johns.