MRS. MARIA PUGH. CINCINNATI, OHIO.
Bu farw y chwaer uchod yn ei chartref, 54 McMillan Street, Cincinnati, Ohio, Chwefror 25ain, 1903.Ganwyd hi Mehefin 13eg, 1827, yn shop Llandderfel, Bala, Gogledd Cymru.
Yr oedd ei mam yn wyres i'r enwog William Evans, Ferw Arian, Bala, a'i thad, y Parch. Hugh Rees, yn gefnder i'r Parchedigion Henry a William Rees, Liverpool.
Cafodd ei bedyddio gan y Parch. Henry Rees pan ar ei ffordd i Sasiwn y Bala, ar yr un adeg a David Jones, Red Cross Street, Liverpool, gynt o Brynmelyn, y Bala.
Pan oedd hi yn 14eg oed symudodd ei thad gyda'i deulu i'r wlad hon yn 1841, a sefydlasant yn Newark, Ohio. Croesasant y Werydd yn y llong "Orphys" gydag amryw Gymry eraill.
Symudodd ei deulu o Newark i Cincinnati yn 1849, lle y bu ei thad yn pregethu hyd ei farwolaeth, ac yna y treuliodd hithau y gweddill o'i hoes.
Tachwedd 8fed, 1851, ymbriododd hi â John D. Pugh, yr hwn sydd enedigol o Castell Hen, ger y Bala, ac yn frawd i'r diweddar William Pugh, Pant Glas, Abergeirw, blaenor adnabyddus yn nwyrain Meirionydd. Y mae iddynt chwaer hefyd yn byw yn agos i'r Bala. Bu iddynt bedwar o blant. Bu farw Daniel, yr hynaf, yn 13eg oed, ac y mae y gweddill yn fyw, sef J. D. Pugh, Independant Glass Works, Columbus, Ohio; William J. Pugh, Contractor, Avondale, Cincinnati, O, ac Elizabeth, priod y Parch. John Roberts, Muncie, Indiana.
Ymwelodd Mrs. Pugh â Chymru amryw weithiau ac a gwledydd y Dwyrain yn nghwmni ei phriod a'i merch. Cafodd ei magu gyda chrefydd ac etifeddodd yn helaeth o ysbryd crefyddol ei mam. Ymunodd a'r eglwys yn Nghymru, a phan yn mhell yn nglyn cysgod angeu, un o'r pethau diweddaf ddywedodd pan y gofynodd ei phriod iddi - "Sut y mae hi arnat ti, Mollie?" Atebodd yn sydyn: "O, mae cyfamod Llandderfel yn dal."
Bu yn aelod gweithgar a ffyddlwn o eglwys College Street, Cincinnati, am 54 o flynyddoedd. Yr oedd hi bob amser yn wraig grefyddol ei hysbryd; "benyw yn ofni yr Arglwydd" ydoedd. Meddai grediniaeth gref mewn gweddi, ac arferai weddio llawer yn y dirgel. Byddai yn dwyn ei hamgylchiadau tymorol yn gystal ac ysbrydol at orsedd gras.
Pan yn ceryddu ei phlant am ddrwg pwysig, arferai eu cymeryd i ystafell o'r neilldu, ac wedi gweddio a chodi oddiar ei gliniau gweinyddai y cerydd, a chlywais hi yn dweyd ei bod yn credu fod y dull hwn yn fwy effeithiol i dynu dagrau edifeirwch na'r un dull arall. Yr oedd yn hynod selog dros y ddyledswydd deuluaidd. "Myfi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd" oedd ei harwyddair ar hyn hyd ddiwedd ei hoes.
Darllenai lawer ar y Beibl, a meddai wybodaeth Ysgrythyrol eang, a deallai athrawiaethau crefydd yn ddigon da fel i allu rhoddi rheswm am y gobaith feddai. Bu yn dra ffyddlawn i'r gwasanaeth cyhoeddus, a hyny yn ngwyneb llawer o anhawsderau oddiwrth wendid ac afiechyd, a theimlwn fod ei lle yn wag yn y seiat a'r bregeth. Gwrandawai y bregeth, nid yn feirniadol, ond fel un yn dysgwyl am fendith ac wedi bod yn gofyn am dani, a phan y byddai wedi cael mwynhad neillduol ni fyddai yn cadw hyn iddi ei hun. Yr oedd yn llawn o sel dros y gwaith cenadol, a gallwn ddweyd yn awr gyfrinach ar hyn - byddai yn arfer anfon yn gyfrinachol swm da yn flynyddol i genades o'r enw Miss Jones, oedd adnabyddus iddi, yr hon sydd yn China.
Yr oedd gandi ei dull ei hun o gasglu at hyn. Yr oedd yn wael ei hiechyd er's blynyddoedd ac arferai, os byddai ei hiechyd yn gymarol dda, a hithau yn alluog i wneyd mân oruchwylion yn y tŷ, i roddi swm penodol o'r neilldu fel cydnabyddiaeth i'r Arglwydd, a byddai yn anfon y cyfanswm yn rhodd Nadolig at y genadaeth i Miss Jones.
Ni anfonodd ei rhodd y Nadolig diweddaf, am nad oedd Miss Jones wedi cydnabod yr un at y Nadolig cynt, a rhoddodd y swm oedd ganddi at achos da arall. Pan y daeth gair oddiwrth Miss Jones, ddechreu y flwyddyn hon, yn hysbysu am dderbyniad yr arian, ac mai yr erledigaeth fu ar y cenadon oedd y rheswm dros yr oediad, Llawenhai yn fawr am ddiogelwch y genades, ac adnewyddodd ei phenderfyniad i anfon fel arfer.
Bu ei chartref yn llety dymunol i ugeiniau o weinidogion yr efengyl o Gymru a'r wlad hon am dros haner cant o flynyddoedd; ac fel tŷ Obed-edom darfu yr Arglwydd ei fendithio yn dra helaeth.
Fel pob mam arall bu hi yn bryderus iawn am ddyfodol ei phlant pan yn ieuanc, ac ymdrechodd yn galed i'w dwyn i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, a choronwyd ei hymdrech â llwyddiant. Y maent oll heddyw yn benau teuluoedd, a geiriau Solomon wedi eu gwirio yn eu hanes, "Hyffordda blentyn yn mhen ei ffordd, a phan heneiddio nid ymedu a hi."
Cafodd gladdedigaeth barchus a lluosog o gapel College Street. Wedi gwasanaeth byr yn y tŷ, symudwyd i'r capel, lle pregethwyd gan y gweinidog a'r Parch. B. Harris (A). Canwyd "Nearer, my God to Thee," "Gwaed y Groes," "Jesus Lover of my Soul," a "Bydd Myrdd o Ryfeddodau," gan y cor, yr hwn oedd dan arweiniad Prof. D. Davies, yn absenoldeb Mr. E. Bowen.
Rhoddwyd ei chorff i orphwys yn eu claddfa yn Spring Grove Cemetery.
H. W. Griffith.