MRS. ELLEN ROBERTS. WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
Wrth ymgymeryd a'r gwaith o ysgrifenu cofiant i'n anwyl chwaer, Mrs. E. Roberts, teimlem ein bod yn ymwneyd ag un o'r cymeriadau mwyaf prydferth a welwyd yn rhodio y ddaear, a chredwn nas gallwn wneyd yn well na cheisio dwyn rhai o ragoriaethau y fath gymeriad i sylw darllenwyr y Cyfaill.Merch ydoedd i Owen a Jane Owens, Glan Gors, Dolwyddelen, Gogledd Cymru.
Ganwyd hi yn mis Mehefin yn y flwyddyn 1825. Hanai o deulu ag sydd wedi gadael dylanwad annileadwy ar grefydd a moesau Cymry America a'r Hen Wlad, sef teulu Tanycastell. Yr oedd ei mam yn chwaer i'r anfarwol Barchn. John Jones, Talysarn a William J. Jones, Snowdon, Welsh Prairie.
Ymfudodd i'r wlad hon yn gynar yn y flwyddyn 1846. Wedi aros am ychydig wythnosau yn ardal Columbus, Wisconsin, symudodd i fyw i ardal Welsh Prairie. Yn mhen pedair blynedd ymbriododd â Mr. John O. Roberts, o Benmachno, Gogledd Cymru.
Ganwyd iddynt saith o blant, tri o feibion a phedair o ferched. Yn y flwyddyn 1876, collodd ei phriod, ac yn mhen y flwyddyn ar ôl hyny bu farw merch iddi. Ni bu gwrthddrych ein cofiant erioed yn gryf ei chyfansoddiad; dyoddefodd lawer o afiechyd ar hyd eu hoes, ond yn yr oll bu yn amyneddgar a siriol.
Bu yn ffyddlawn iawn i achos Iesu Grist yn ystod ei holl hoes. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i gychwyn achos crefyddol yn nghapel Carmel, a glynodd yn ffyddlawn i'r achos yn ei wahanol adranau, yn nghyfarfodydd yr eglwys, ac yn yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd yn nodedig am ei gwybodaeth Ysgrythyrol helaeth a'i gallu esboniadol cryf. Yr oedd hefyd yn feddianol ar gof ardderchog. Yn ei hwythnosau olaf adroddai ddarnau helaeth o bregethau rai o enwogion Cymru, a dywedai luaws o adnodau a phenillion, fel ag yr oedd yn foddion gras mewn gwirionedd gael bod yn ei chwmni.
Teimlir colled fawr ar ei hol, nid yn unig gan y teulu, ond yn yr eglwys a'r gymydogaeth yn gyffredinol. Nis gallwn ddangos hyn yn well na thrwy ddweyd yn ngeiriau un sydd wedi ei fagu yn yr ardal hon, "fod, nid yn unig y plant wedi colli mam ffyddlawn a duwiol, ond fod yr oll ardal felly, yn enwedig yr eglwys yn Carmel."
Cofir yn hir gan y rhai a'i hadwaenai am ei chynghorion gwerthfawr a'i ffyddlondeb di-fwlch yn mhob cylch. Cafodd gystudd trwm yn ei hwythnosau olaf, ond yr oedd yn dawel ac ymostyngar i'r ewyllys ddwyfol, ac arddangosiad amlwg fod yr hwn ag yr oedd wedi ymddiried ynddo yn ystod ei bywyd yn ei chynal a'i chysuro ar derfyn ei gyrfa ddaearol. Hunodd yn dawel yn yr Iesu Awst 19eg, 1903.
Cymerodd ei chladdedigaeth le Awst 21ain, pryd y daeth tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion. Gweinyddwyd wrth y tŷ gan yr ysgrifenydd a'r Parch. W. W. Davies, Portage Prairie, a'r hen ddiacon parchus Robert T. Rowlands, ac wrth y bedd gan yr ysgrifenydd. Bydded i nawdd y nef fod dros y teulu, ei thair chwaer a'i brawd, sef Mrs. Foulkes, priod y diweddar Barch. Thomas Foulkes, Randolph; Mrs. M. Howells, Minneapolis; Mrs. G. Howells, Graceville, Minnesota, a J. L. Owens, Minneapolis, yn eu hiraeth a'u galar ar ei hol.
R. Williams, Ripon.