MR. LEWIS T. ROBERTS, RACINE, WISCONSIN.
Ganed ef yn Bryngogan, ar y llecyn y saif yn bresenol shop Robert Thomas, Penmachno, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, lle nid amenwog fel magwrfa cryn nifer o bregethwyr a blaenoriaid gyda y T. C. Cafodd ei addysg yn Ysgol Wladwriaethol ei blwyf. Pan yn un ar ddeg oed aeth i weithio i chwarel y Rhiw, Blenau Ffestiniog, a daeth yn chwarelwr ymarferol.Yn 1842 aeth am dymor i ysgol Holt. Y prif athraw ar y pryd oedd un Evans, a James Donne, wedi hyny y Parch., yn gynorthwywr.
Yn 1844 ymfudodd i'r America, ac yn cyd-dieithio ag ef yr oedd y blaenor hynod William Mona Williams, yr hwn a fu farw yn Nghymru er's ychydig flynyddoedd yn ol. Arosodd L. T. R. yn ninas New York. Bu am dros chwe mis yn glaf heb fyned allan o dy y flwyddyn gyntaf y glaniodd.
Yn 1845 aeth i wasanaethu i stor sych nwyddau Thomas and Williams.
Yn 1848 aeth ef a'r diweddar John Reese, mab y Parch. Edward Reese, i fasnach ar eu cyfrifoldeb eu hunain yn 162 Chatham Square, New York. Yn 1853 ymneillduodd Mr. Reese o'r fasnach, a bu Mr. Roberts yn cario yn mlaen y fasnach ei hunan am rai blynyddoedd wedi hyny.
Ym 1850 ymaibriododd a Mary Letsom, genedogol o Croesoswallt, yr hon sydd yn aros hyd heddyw, er ei bod wedi ei chystuddio yn dost gan y crydcymalau er's llawer o flynyddioedd. Ganwyd iddynt bump o blant, a bu un ferch farw yn ieuanc yn New York. Mae y pedwar eraill yn fyw, Lewis yn Chicago, George, Lizzie a Mary yn Racine.
Yn 1861 symudodd y teulu i Racine, lle yr oedd tad a mam Mrs. Roberts wedi gwladychu, sef Mr. a Mrs. Thomas Letsom. Yn 1864 derbyniwyd Mr. Roberts gyda brodyr eraill yn aelodau o Gyfarfod Dosbarth Waukesha; ac o hyny yn mlaen y mae wedi llenwi ei swydd er budd a lles i'r eglwys, ac er anrhydedd iddo ei hunan. Nid ydyw mor adnabyddus yn y Cymanfaoedd a llawer, er ei fod wedi arfer dylun y Cyfarfodydd Dosbarth yn weddol gyson, ac yn neillduol pan y byddai eraill yn pallu myned. Ond yn yr eglwys gartref cymer ef y flaenoriaeth ar bawb, a hyny yn y modd esmwythaf, o herwydd ei oedran a'i faith brofiad; ac mae ei fawr ofal calon am yr achos yn hawlio y lle mawr ag y mae yn gael yn mynwes yr eglwys.
Fel ymwelydd a'r tlawd, y claf a'r profedigaethus, y mae wedi bod yn neillduol o ofalus. Mae ganddo hefyd ofal mawr am yr ieuenctyd, ac y mae yn gyfaill gwirioneddol iddynt, a chaiff ei barchu yn fawr ganddynt hwythau. Mae Mr. Roberts wedi bod yn un o'r Cymry mwyaf cenedlgarol er pan ddaeth i'r wlad hon.
Pan yn New York cymerai ran flaenllaw yn mhob symudiad a thuedd ynddo i leshau a dyrchafu ei gydgenedl. Bu yn selog gyda Chymdeithas Elusengar Dewi Sant yno, a bu yn rhan- berchenogydd o'r "Drych" ar ei gychwyniad cyntaf, a'r hyn a fu yn anturiaeth golledus iddo; ac y mae yr un mor selog yn y cyfeiriad hwn yn awr a chynt, ond nid ydyw sefyllfa ei iechyd yn caniatau iddo fod mor weithgar ag y bu. Efe ydyw trysorydd y Feibl Gymdeithas er's llawer blwyddyn, ac y mae wedi gwasanaiethu y swydd gyda gofal a medr neillduol. Gellir dibynu arno ef y cyflawna bob ymddiriedaeth a roddir iddo yn y modd goreu a mwyaf deheuig.
Y Drych ~ Chwefror 1af, 1900.
MR. LEWIS T. ROBERTS, RACINE, WISCONSIN.
At an early hour this morning the well known and highly respected citizen, Lewis T. Roberts, died at his home, 744 Villa street after a prolonged sickness, in his 84th year.He was a native of Penmachno, North Wales; received a good common school education in his native village, with a few terms in England, worked in the slate quarries of his native land till he was 22 years old, and then emigrated to America and settled in New York city. As he was of a frail constitution, he undertook to learn the dry goods trade, and was for a number of years in business at Chatham Square, New York.
Then he married Mary Letsom, a native of Oswestry, England. Five children were born to them and one daughter aged 14 years died in New York. Four children survive, Lewis in Chicago, George, Lizzie and Mary Roberts of Racine. His wife died two years ago.
July 1862 the family moved to Racine, and he was employed in different dry goods stores for a number of years, and later conducted a dry goods store on Sixth street for many years. He was very well known and greatly beloved for his genial and kindly disposition.
He had been the senior officer in the Welsh Presbyterian church of this city for many years, and was most active, and faithful in the interest of the church till the very last.
He will be greatly missed by his children as he was an exceptionally kind father. The community and the church will also lose a man that had taken the greatest interest in their temporal and spiritual welfare. His funeral will take place from the Welsh Presbyterian church, Villa street at 2pm Wednesday.
Racine Journal October 20th 1903.
MR. LEWIS T. ROBERTS, RACINE, WISCONSIN.
Daeth Lewis Roberts i'r wlad hon yn y flwyddyn 1844, ac ymsefydlodd yn ninas New York. Meddyliodd yno am fyned yn saer coed; ond terfynodd hyny trwy iddo ddyoddef afiechyd am flwyddyn. Ar ol gwella o'r afiechyd hwn penderfynodd fyned yn siopwr - gwaith llawer mwy cydweddol a'i allu corfforol, canys dyn eiddil, lled fyr, a theneu trwy ei oes ydoedd. Yn y man, wedi dyfod i ddeall y busnes yn weddol, agorodd ef a John Rees, mab y diweddar Barch. Edward Rees, ystordy ddillad ar Chatham Square, New York. Daeth ei ystordy yn fuan yn gyrchfan i Gymry y ddinas a'r wlad. Byddai yn cymeryd rhan bwysig yn symudiadau ei genedl yn y ddinas.Mai 8, 1850, ymbriododd a Miss Mary Letsom, merch i Margaret a Thomas Letsom, y rhai a ddaethant i'r wlad hon o Groesoswallt. Dynes gall, dawel, hirben, ddiabsen oedd Mrs. Roberts. Ni bu erioed briodas fwy cyfaddas. Gan fod ein brawd yn fywiog, sydyn, a gwyllt ei dymer yn naturiol, yr oedd hi yn bwyllog a thawel, ac yn wastad yn bwrw olew ar wyneb y dyfroedd. Gwraig dda ydoedd, a mam ofalus am dylwyth ei thy.
Ganwyd iddynt bump o blant - dau fab, Lewis a George, a thair merch, sef Elizabeth a Mary, y rhai sydd oll yn fyw ond un. Claddwyd un plentyn yn Cypres Hill, N. Y.
Ar ol byw yn New York am ddeunaw mlynedd symudodd y teulu yn Gorphenaf, 1862, í Racine, Wisconsin, ac ymunasant oll a'r eglwys Gymraeg. Bu yn cario yn mlaen fusnes yn y ddinas hono am flynyddoedd, a hyny yn llwyddianus.
Galwyd ef i wasanaethu swydd diacon yn eglwys y T. C. yn Racine yn 1863. Pan gyraeddodd ben ei bedwar ugain mlwydd oed, anrhegwyd ef a phedwar ugain o ddoleri aur, yn arddangosiad fod ei weithgarwch a'i ffyddlondeb yn cael ei werthfawrogi.
Bu ei briod farw Awst 15, 1901, ar ol bod yn dyoddef yn dost ond hynod amyneddgar gan y crydcymalau, a theimlai ef yn hiraethus iawn ar ei hol. Ei afiechyd ydoedd math o ddarfodedigaeth yn dylyn henaint. Bu yn cael adegau o wendid mawr, ac wedi hyny yn hybu, a byddid yn hyderu y deuai ei iechyd iddo yn ol, ond yr oedd y naill ymosodiad ar ol y llall yn ei adael yn wanach. Yr oedd ef yn ymwybodol fod ei amser daearol yn dirwyn i fyny - y colofnau yn cael eu tynu i lawr, fel y dywedai efe. Gofynai yn bryderus i gyfaill un tro: "A fydd rhyw ffurf ar yr ysbryd ar ol ymadael a'r corff?" Dywedai y cyfaill ei fod yn barnu y rhaid y byddai rhyw ffurf arno, onide pa fodd y gallai ysbrydoedd y cyflawnion adnabod eu gilydd. Byddai yn cael gweledigaethau hyfryd yn ei gystudd olaf. Yr oedd ofn marw wedi ffoi, a gofynai i'w gyfeillion am iddynt weddio am iddo gael nerth i farw; ac felly yr hunodd yn dawel, yn nhangnefedd yr efengyl, ac yn ei llawn ymwybyddiaeth hyd y fynyd olaf.
Cymerodd ei angladd le ar y 21ain cyflsol. Ar ol gwasanaeth byr yn y ty, aed a'i weddillion i addoldy y T. C, yn groes i'r heol; ac yr oedd wedi ei orlenwi gan gyfeillion yr ymadawedig o fysg pob cenedl yn y ddinas, ac eraill o bellder ffordd. Cymerwyd arweiniad y gwasanaeth gan y Parch. D. Morgan Richards, o Gymru, yr hwn sydd ar hyn o bryd yn supplio y pwlpud. Rhoddodd y Parch. John C. Jones, Chicago, anerchiad yn Saesneg yn hynod darawiadol ac effeithiol, a'r Parch. John E. Jones, Milwaukee, yn Gymraeg ar gymeriad Mr. Roberts fel diacon o radd dda. Datganodd y cor amryw emynau ag oedd yn favorites gan yr ymadawedig, a hyny gyda dwysder a theimlad. Yr oedd y blodeudyrch yn lluosog iawn. Ei archgludwyr oeddynt ei gyd-swyddogion, sef James R. Morris, Wm. W. Davies, Wm. A. Owen, John H. Jones ac Evan J. Morgan, Milwaukee, a'r ysgrifenydd. Y nos Sabboth dylynol rhoddodd y Parch. D. Morgan Richards bregeth goffadwriaeth.