MRS. LIZZIE G. THOMAS. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.

Chwefror 11eg, 1903, ymadawodd y chwaer anwyl uchod am fyd yr ysbrydoedd ar ôl cystudd nychlyd o'r hyn a elwir "pernicious anaemia," yr hwn a ddyoddefodd yn dawel a dirwgnach am dros flwyddyn a haner o amser. Cafodd bob gofal teuluaidd allai ei hoff briod a'i chwaer, a'i pherthynasau estyn iddi, a phob ymgeledd feddygol oedd yn gyraeddadwy; ond gan fod y clefyd o natur anfeddyginiaethol, methwyd arbed ei bywyd.

Yr oedd yn awyddus am fyw, a gwnaeth ymdrech ganmoladwy i hyny, gan geisio ymostwng i ewyllys Duw. Yr oedd yn gysurus ei hamgylchiadau, ac fe aeth ei phriod i draul y flwyddyn ddiweddaf i adgyweirio ac addurno ei chartref daearol, gan ddysgwyl gael byw am lawer o flynyddau i'w cydfwynhau. Ond nid felly y bwriadai Duw; na, yr oedd un o'r trigfanau nefol wedi ei barotoi ar gyfer Mrs. Thomas.

Colled fawr i'w phriod oedd ei cholli. Y mae ein calon yn llosgi drosto yn ei brofedigaeth. Nid serch yn unig y mae dyn yn gael mewn priod deilwng o'r enw, ond cydymdeimlad a chymdeithas; un fedr gydgario ei faich, cyd-oddef ag ef, cydfwynhau melusion ei fywyd, a theimlo dyddordeb yn yr oll a wna. Dyna gafodd Mr. Thomas yn ein ymadawedig, fel y mae ei golled ar rhyw olwg yn anadferadwy.

Cafodd eglwys Minneapolis hefyd golled ddirfawr yn marwolaeth Mrs. Thomas, gan ei bod yn un o'i haelodau mwyaf cyson a ffyddlon, ac yn aelod o'r Willing Workers, ac yn drysoryddes y gymdeithas. Gwir na feddai ysfa am gyhoeddusrwydd, a gallai ddygymod a'i lle pa le bynag ei gosodid.

Prif nodwedd ei chymeriad oedd tawelwch, ond fel mewn natur yr oedd ei thawelwch yn awgrymu dyfnder. Llawer gwaith y bum yn edrych am dani yn nechreuad ei chystudd, ac yn cydnesu at orseddfainc y gras, a phob amser cawn hi yn hynod o dawel ac amyneddgar. Ni chlywais hi erioed yn dweyd dim yn galed am ei Duw, nac yn rwgnachlyd am ei chlefyd. A'r hyn ydoedd yn ei pherthynas a Duw, dyna ydoedd hefyd yn ei pherthynas a'i chyd- ddynion - hynod o ddystaw a diabsen; fel rhwng pob peth credwn fod gwreiddyn y mater i'w gael ynddi, a bod ei rhan heddyw mewn rhagorach byd, yn canmol ei Phrynwr yn ninas yr hedd.

Ganwyd ein chwaer yn agos i Bethesda, Arfon, Awst 22ain, 1853. Enwau ei rhieni oeddynt Robert a Margery Williams, y rhai a ymfudasant i'r wlad hon pan oedd hi yn saith mlwydd oed, ac a ymsefydlasant yn Tanrallt, gerllaw Cambria, Wisconsin. Bu farw ei thad yn 1862, a'i mam yn 1900. Y mae iddi dri o frodyr yn fyw, sef William E. Williams, Britton, South Dakota; Samuel R. Williams, West Pullman; a John H. Williams, Chicago; ac un chwaer, sef Mrs. William Morris, Ipswich, South Dakota, yr hon sydd yn naturiol yn teimlo y brofedigaeth i'r byw.

Chwefror 7fed 1884, ymbriododd â William G. Thomas, a bu eu bywyd o hyny hyd ei marwolaeth yn hynod hapus.

Prydnawn Iau canlynol cafwyd gwasanaeth angladdol yn y tŷ (1909 Fifteenth Avenue, S. Minneapolis), y Parchn. J. T, Morris a T. F. Allen yn gweinyddu. Yna cymerwyd y corff i Cambria, Wisconsin, ar y 13eg, ac y caed gwasanaeth angladdol dan arweiniad y Parchn. J. O. Parry ac R. H. Evans. Butte, Montgomery.
R. E. Williams.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorffennaf 1903.