MRS. MARY WILLIAMS. PROSCAIRON, WISCONSIN.
Mehefin laf, bu farw Mrs. Mary Williams, gweddw Thomas Williams, Proscairon, Wisconsin.Ganwyd hi 68 o flynyddau yn ôl yn Llanrug, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Yn 1845 symudodd hi a'i theulu i Dalaeth Wisconsin, gan ymsefydlu yn ardal Proscairon.
Bu yn briod y waith gyntaf ag un John Morris. Ganwyd iddi hi ac yntau nifer o blant, yr oll o ba rai fuont feirw. Collwyd dau o'r plant wedi iddynt dyfu i'w cyflawn faintioli. John Morris hefyd a fu farw gan ei gadael yn weddw.
Yn mhen ysbaid ymbriododd Mrs. Morris â Thomas Williams o Proscairon. Yn nhy merch iddi hi ac yntau y bu hithau yn gystuddiol am fisoedd lawer, a'r ferch hithau yn briod â Walter D. Roberts, mail carrier, Randolph. Claddesid Thomas Williams er ys rhai blynyddau, gan adael ein chwaer yn weddw yr ail dro.
Ystyrid Mrs. Williams yn wraig grefyddol, synwyr-gall, ddystaw a dymunol. Nid oedd dim yn ei geiriau na'i hystum yn dweyd "Wele fi," eto cred y rhai a'i hadwaenai oreu y dywed yr Hwn sydd yn gwybod beth sydd mewn dyn, "Wele Israeliaid yn wir."
Dihoeni wnaeth am y ddwy flynedd ddiweddaf o'i hoes, ac am ran fawr o honynt fe "dywyllodd y rhai oedd yn edrych trwy y ffenestri." Cafodd bob gofal tyner gan ei merch a'i phriod, ac ni adawyd hi yn amddifad o diriondeb trugaredd ein Duw. Chwenychodd farw yn fwy na byw, ac ni omeddwyd ei deisyfiad.
Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parchn. De Woodward, D. R. Jones, D. K. Roberts, a J. R. Johns.
Heddwch i'w llwch.
J. R. J.