MR. WILLIAM R. WILLIAMS. FORESTON, IOWA.

Yr oedd y brawd uchod yr hynaf o ddeuddeg o blant i Robert a Mary Williams, Rhostryfan, Arfon, Gogledd Cymru, wedi hyny o'r Fachwen, ger Llanberis.

Adeiladodd Robert Williams gartref iddo ei hun a'i deulu yn y lle hwn, ac oddi yno y claddwyd y rhieni, ac oddi yno hefyd y daeth W. R. Williams i'r wlad hon. Yr oedd wedi meddwl hwylio yn y "City of Glasgow," ond cafodd ei rwystro am dair wythnos yn hwy. Ni welwyd ddim o'r "City of Glasgow" ar ôl iddi adael Liverpool.

Bu Mr. Williams am amser yn aros yn Danville a West Bangor, Pennsylvania. Pan yn y lle olaf bu yn wael iawn; cafodd y typhoid. Derbyniodd garedigrwydd mawr gan bobl West Bangor, a chofiai am danynt ar hyd ei oes, ac yn enwedig am Howell Williams yn rhedeg ddeg milldir o ffordd i ymofyn y meddyg.

Wedi hyny bu yn Middle Granville, New York, a Northfield, Vermontt. Bu ar ymweliad â Chymru yn 1861-2, er mwyn ei iechyd.

Wedi hyny sefydlodd yn Palmyra, Jefferson County, Wisconsin, ac yn mis Tachwedd, 1869, ymbriododd â Miss Winnie Williams, ac yn 1871 symudasant i'w fferm yn Foreston.

Ganwyd W. R. Williams Medi 3ydd, 1834, a bu farw Gorphenaf 9fed, 1903, yn 68 mlwydd, 8 mis a 5 diwrnod oed.

Tra yr oedd ein hanwyl frawd yn y cae ymddengys iddo gael ei daro gan fellten, a chan nad oedd yn dyfod i giniaw aeth ei fachgen Stanley i edrych am dano a chafodd ef yn eistedd ar y cultivator a'i ben wedi gogwyddo tuag yn ôl. Felly bu farw heb fod neb yn agos ato, a hyny, yn ôl pob tebyg, ar darawiad, heb wybod dim am wasgfeuon marwolaeth. Marw dedwydd iddo ef, ond profedigaeth fawr i'w deulu anwyl. Safodd y ceffylau heb symud bron o'r lle.

Tarawyd y gymdogaeth a dychryn a thristwch. Gadawodd Mr. Williams fwlch mawr yn y teulu a'r eglwys. Yr oedd yn flaenor o radd dda, a'r gofalon pwysicaf yn disgyn i'w ran ef. Yr oeddwn yn bresenol pan y dewiswyd ef i'r swydd, ac yr oedd yn unfrydol iawn; a thorodd allan i wylo pan ddeallodd ei fod wedi ei ddewis, ond ym- gymerodd a'r swydd, a chyflawnodd y gwaith yn ffyddlon am flynyddau meithion.

Caffed ei anwyl briod a'i blant fodd i ymdawelu yn y golled a'r brofedigaeth fawr sydd wedi eu cyfarfod. Gadawodd, heblaw ei briod, bump o blant, sef Mrs. Levi Jones, Bristol; Llewelyn R. Williams, Foreston; Atonia Williams, yr hon sydd yn athrawes yn Montvido, Minnesota; Sevena a Stanley, y rhai sydd gartref gyda'u mam.

Y geiriau olaf a ddywedodd Mr. Williams yn gyhoeddus oedd yn y cyfarfod gweddi nos Lun cyntaf o'r mis: "Cenwch eto unwaith," meddai, "mae y canu yn dda iawn," ac yna rhoddodd yr emyn canlynol allan:

"Dan dy fendith wrth ymadael."

Byddai yn hoff iawn o adrodd yn aml emyn olaf Eben Fardd,

"O fy Iesu bendigedig,
Unig gwmni f'enaid gwan."

Colled fawr gafodd eglwys Foreston, a cholled fawr i'r teulu oedd colli W. R. Williams, ond na thristewch fel rhai heb obaith. Credwn ei bod yn enill mawr iddo ef. Mae bod gyda Christ yn llawer iawn gweil. Yr oedd W. R. Williams o deulu lluosog, a brodyr iddo ef oedd John a Thomas R. Williams fu farw yn Arvonia, Virginia, a Robert R. Williams fu farw yn Leadville, Colorado. Mae iddo ddau frawd a phedair chwaer yn byw yn Arfonia, sef Hugh ac Evan R. Williams, Mrs. R. O. Jeffrey, Mrs. Ellis E. Jones, Mrs. G. Jones a Mrs. John McLane. Mae un chwaer hefyd yn Slatington, Pennsylvania, sef Mrs. James Owens, ac un hefyd yn Manchester, Lloegr, sef Mrs. John Lynn, a hi ydyw yr unig un o'r teulu a arosodd yn yr Hen Wlad.
Lime Springs, Iowa. Owen R. Morris.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1903.