MR. EBENEZER WILLIAMS, OSHKOSH, WISCONSIN.
The son of Robert and Mary Williams, near Pwllheli, Wales, he camr to America in April 1855, and to Oshkosh in September 1857. He married Margaret, daughter of Richard and Margaret Hughes, near Beaumaris, Anglesey, and they settled on Jackson Street, in this city until today. He is a mason and builder; but having his limb affected he became a merchant. He is a man of determination, close to the right and by this time a faithful pillar in the Church of God. Their sons are : Richard Henry, an excellent bricklayer and plasterer; and William R., a furnace worker, married to Addie L., daughter of Joseph A. Sanford, having one daughter. Their daughters are : Mary, the wife of John R., son of Hugh Hughes, Carmel, a banker in Gettysburg, South Dakota, with a son and daughter; Margaret, the wife of David R, son of J. H. Jones, in Chicago, having one son; Winifred, hpme in the store.History of the Welsh Settlers to Wisconsin.
MR. EBENEZER WILLIAMS, OSHKOSH, WISCONSIN.
Bu farw Mr. Ebenezer Williams yn ei gartref, 378 Jackson Street, Oshkosh, Wisconsin, Ionawr 6, 1904.Yr oedd wedi bod yn wael ei iechyd ers rhai wythnosau, a dydd y Nadolig cyfyngwyd ef i'w wely gan pneumonia, a chlefyd y galon, yr hyn fu yn achos o'i farwolaeth.
Ganwyd ef yn Lleyn, yn agos i Pwllheli, G. C., Mehefin 20fed, 1830. Felly yr oedd yn 73 mlwydd, chwe' mis a 16 diwrnod oed. Yr oedd yn 23 oed pan y daeth i'r wlad hon, gyda'i frawd, Elias. Cyn cychwyn o'r Hen Wlad yr oedd wedi dysgu y greft o stone a brick mason, a rhoes bedair blynedd yn rhagor i berffeithio ei hun wedi dod i'r wlad hon, tra bu yn aros yn Swydd Oneida, N. Y.
Yn 1856, daeth i Milwaukee, Wisconsin, lle y bu am oddeutu tair blynedd, pryd y dylynai ei alwedigaeth.
Yn 1858 symudodd i Oshkosh, lle y gwnaeth ei gartref hyd y diwedd, gan ddylyn ei alwedigaeth am lawer o flynyddoedd. Adweinid y firm fel Gittins and Williams, Buiding Contractors, am 15 mlynedd. Yn 1875 rhoes i fyny ei alwedigaeth ac agorodd grocery store ar Jackson Street, Oshkosh, yr hon a ddylynodd yn gyson hyd o fewn ychydig fiynyddoedd i'w farwolaeth.
Ymunodd mewn priodas gyda Miss Margaret Hughes, genedigol o Sir Fon, G. C., Awst 3ydd, 1858, a ganwyd iddynt bnmp o blant - dau fab a thair merch, Richard H. Williams, Cedar Rapids, Iowa, Mrs. I. R. Hughes, Gettysburg, S. D.; Mrs. David R. Jones, Chicago, Illinois; Wm. R. Williams, Mason City, Iowa; a Miss Winnifred Williams, Oshkosh.
Mae y fam a'r holl blant wedi eu gadael i alaru ar ol gwr a thad caredig a ffyddlawn. Yn marwolaeth Mr. Williams mae tref Oshkosh wedi colli un o'i hen sefydlwyr parchus, er na fu erioed yn rhyw gyhoeddus iawn, eto perchid ef gan ei gydnabyddion; hefyd eglwys Salem wedi colli un o'i haelodau ffyddlonaf, yr hwn a geid bob amser yn ei le yn y cyfarfodydd a berthynai i'r eglwys, oni luddid ef gan waeledd. Dygwyd ef i fyny yn yr eglwys o'i febyd, ac yr oedd wedi dod yn gyflawn aelod cyn gadael Cymru.
Ar ei ddyfodiad i'r dref hon yn 1858, ymunodd a'r eglwys drwy lythyr, a pharhaodd yn aelod ffyddlawn o honi am tua 46 o flynyddoedd. Bu yn aelod o fwrdd yr ymddiriedolwyr hefyd am 13 o flynyddoedd. Nid oedd ganddo brofiad uchel fel crefyddwr, eto nid oes ameuaeth nad oedd yn Gristion cywir, a'i fod wedi myned oddi wrth ei lafur at ei wobr.
Claddwyd ei weddillion yn Riverside Cemetery, Oshkosh, Ionawr 9fed, 1904. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y gweinidogion canlynol: John Roberts, H. C Griffìth a G. E. Farnam.