MRS. JANE EVANS WILLIAMS, ELIM SPRINGS,WAUKESHA, WISCONSIN.
MRS. JANE E. WILLIAMS. Mehefin y 14eg, 1905, bu farw Mrs. Jane E. Williams, Elim Springs, Waukesha, Wisconsin, yn nhy ei merch yn Garyville, Louisiana, lle yr aethai i dreulio y gauaf. Ei hafiechyd ydoedd cancer of the stomach. Dioddefodd gystudd blin a phoenus am amryw fisoedd cyn ei hymadawiad.Ganwyd Mrs. Williams yn agos i Gaernarfon, G. C, Awst 5ed, 1835. Ymfudodd gyda'r teulu i America yn 1848, gan ymsefydlu yn Picatonica, Wisconsin.
Medi y 5ed, 1850, ymbriododd gyda'r diweddar William J. Williams, diacon adnabyddus am flynyddoedd yn Nosbarth Waukesha, yr hwn a ragflaenodd ei briod i'r byd ysbrydol dros chwe' blynedd yn ol. Treuliasant y 13eg blynedd cyntaf o'u bywyd priodasol yn Picatonica. Yn 1863 ymsefydlasant yn Sir Waukesha, ger Genesee, yn y tyddyn a elwir Wern. Buont yno hyd nes iddynt adeiladu cartref newydd yn 1885, yr hwn a alwyd Elim Springs ar gyfrif y ffynonau iachusol sydd yn tarddu gerllaw. Saif mewn man prydferth, tua thair milltir i'r Gorllewin o ddinas Waukesha.
Bu yr ymadawedig yn aelod dichlynaidd a nodedig o ffyddlon yn eglwys Crist o'i mebyd. Hynodid ei phriod gan grefyddolder dwfn a diameuol; yr oedd hithau o gyffelyb feddwl. Yr oedd prif athrawiaethau crefydd yn anogaeth gynefin iddi. Hoffai ddringo mynyddoedd yr arfaeth i gael cipolwg mynych ar brydferthwch a chyfoeth gwlad yr addewid. Yr oedd ei gwybodaeth o'r Beibl yn dra helaeth. Yn y blynyddoedd olaf edrychai ar "y llyfr" fel ei chyfaill penaf. Gallai fyned i mewn i brofiad y Salmydd yn llawn: "Mor gu genyf dy gyfraith di; hi yw fy myfyrdod beunydd." Wrth ymborthi ar "ddidwyll laeth y gair" dadblygodd gymeriad cryf a phrydferth. Hawdd oedd ei hoffi; anhawdd ei digio.
Gallai anghofio ei hunan yn helbulon eraill heb yn wybod iddi ei hun. Gostyngeiddrwydd, hunan ymwadiad a gwasanaeth oeddynt brif linellau ei chymeriad. Goddefodd ei chystudd blin mewn tawelwch dirwgnach, ac wedi dyfod awr ei hymddatodiad hunodd mewn tangnefedd. Yr oedd Mrs. Williams yn fam i ddeg o blant, wyth o ba rai sydd yn fyw: Mr. John A. Williams, West Pullman, Illinois; Mrs. D. C Harris, Chicago; Mrs. G. W. Hudson, Vernon, Wisconsin; Mrs. D. L. Williams. Genesee, Wisconsin; Mrs. H. C. Griffith, Pickett, Wisconsin; Mrs. Mrs. S. M. Bloss, Garyville, Louisiana; William E. Williams, Oskaloosa, Iowa, a B. H. Williams. Oshkosh, Wisconsin.
Mewn galar ar ei hol hefyd mae dwy chwaer, sef Mrs. Lewis Griffith, Gomer, O., a Mrs. Major E. R. Jones, Llundain.
Cymerwyd ei gweddillion i Waukesha nos Sadwrn, a thranoeth, sef Sabboth, Mehefin 18fed, wedi cynal gwasanaeth yn Elim Springs, dodwyd hwy i orphwys mewn gwir ddiogel obaith yn mynwent Salem.
Gwasanaethwyd gan y Parchn. Owen O. Jones a H. C Griffith.