MRS. MARY EDWARDS. RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.
Wedi cyrhaedd yr oedran teg o 85 ymadawodd y chwaer uchod am y tragwyddol bebyll foreu dydd Iau, Hydref 4ydd, 1906.Yr oedd yn enedigol o ymyl Towyn, Meirionydd, Gogledd Cymru.
Ymbriododd a Hugh Edwards o gyffuniau Machynlleth, Gogedd Cymru, a ganwyd iddynt ddau o blant, sef Ann, priod Evan J. Jones, Mount Pleasant, Racine, a Henry O. Edwards a fu gartref gyda'i fam hyd y diwedd.
Cafodcl ei dwyn i fyny yn grefyddol, a bu am bum mlynedd yn byw gyda'i pherthynasau, sef teulu Erw Faethlon, y rhai a ddaethant i America gan ymsefydlu yn Portage Prairie, Wisconsin. Yn 1849, yr un amser a Mr. a Mrs. Edwards, y rhai a arhosasant yn nghylchoedd Racine. Bu ef yn arolygu mewn chwarel ac odynau calch am flynyddoedd yn Ives, ger y ddinas, a byddai Mrs. Edwards yn fynych yn byrddio o 20 i 25 o ddynion. Gweithiodd y ddau yn galed anarferol, ond rhoddodd hyn gychwyn da iddynt, fel y daethant yn mhen amser i amgylchiadau cysurus.
Prynasant fferm yn lled agos i'r ddinas, a buont yn ei thrin am nifer o flynyddoedd. Bu Mr. Edwards farw 27 mlynedd yn ol.
Wesleyad pybyr oedd ef, ac ef yn benaf fu yn offeryn i gael addoldy i'r enwad yn Racine. Gallasai yr eglwys fechan hono ddweyd am dano ef fel ag y dywedodd yr Iddewon am un, "Ac efe a adeiladodd i ni synagog." Wedi darfod yr achos Wesleyaidd ymunodd y ddau a'r T. C.
Symudodd y teulu i'r ddlinas i fyw oddeutu un mlynedd-ar-ddeg yn ol. Mewn canlyniad i ddamwain a gafodd bu yn analluog i fyned o gwmpas am lawer o flynyddoedd. Dyoddefai ar adegau boenau anaele, eto byddai yn siriol ac amyneddgar drwy y cwbl.
Yr oedd yn gymeriad, fel llawer yn y wlad yma, fu yn ffyddlawn i'w dygiad fyny crefyddol, ac yr oedd i hyn le mawr yn ei meddwl a'i bywyd. Benithiwyd hi yn hyn yn amlwg ag arweiniad yr Ysbryd Glan i'w chadw a'i cherddediad yn union ar hyd llwybrau cyfiawnder sancteiddrwydd. Nodweddid ei geiriau a'i gweithredoedd gan uniondeb a gonestrwydd. Yr oedd ei hyfrydwch Penaf yn Ngair Duw, a threuliai y rhan fwyaf o'i hamser yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf o hono, yn ei ddarllen ac mewn trwytho ei henaid a myfyrdod ynddo.
Nid rhyfedd felly ei bod yn hffî gweled brodyr a chwiorydd crefyddol yn troi i mewn ac yn teimlo ei bod yn cael gwledd yn mhob gwasanaeth crefyddol gynhelid gan y cyfryw. Hawdd iawn bob amser oedd troi ati ar gwestiynau yn ymwneyd a phrofìad o fendithion bywyd ysbrydol. Yr oedd ei dyddordeb uwchaf yn y rhai hyn, ac nad oedd dim y sychedai fwy am dano nac adroddiad o hanes y moddion a'r ordiniadau yn nghesegr Duw.
Dangosai ymostyngiad prydferth i'r Ewyllys clwyfol yn ei hamddifadrwydd o honynt. Darllenodd lawer ar lyfrau da eraill heblaw y Beibl, ond yr oedd yr oll o'i nodwedd oedd yn appelio gryfaf at y pethau o dragwyddol bwys yn ei meddwl, megys y Llyfr Emynau, cyfrolau o bregethau, a chofiantau.
Er wedi ei neillduo am dymor maith, eto mae colled fawr ar ei hol, yn neillduol felly i'w phlant, ac mae iddynt ein cydymdeimlad dyfnaf, a'n gweddi yw ar iddynt deimlo mai eu cysur cryfaf yw clywed llais eu Tad Nefol yn eu galw i feddiant helaethach o ragoriaethau crefydd eu mam. Mae ei cholli yn wagder i ninau bawb o'r cyfeillion gafodd gymaint o adnewyddiad yn ei chymdeithas. Bu ei hymddatodiad yn un tawel, ac yn ddiamheuol cafodd fynediad helaeth i mewn i lawenydd ei Harglwydd, a thybed nad yw rhan o'i llawenydd i weled ymdrech yr eglwys yn Racine y dyddiau hyn — yn ymdrech ag y cymerodd hithau mewn undeb a'i hanwyl fab ran ynddo gyda chynesrwydd cariad ei chalon at Waredwr ei bywyd.
J. D.