MR. HENRY JONES, ENGLEWOOD, NEW JERSEY.
MARW YN AMERICA.
Yn Englewood, New Jersey, bu farw Henry Jones, a anwyd ger Llanllyfni, 79 mlynedd yn ôl.Melinydd oedd ei dad ac yn yr hen gartref arosodd y mab nes oedd yn 19 mlwydd oed, pryd y moriodd am Boston.
Oddiyno prysurodd i Utica, lle hefyd y bu brawd iddo yn byw, y diweddar William. Jones, "Cornhill," ac y dysgodd y gelfyddyd o saer coed.
Yn mhen rhai blynyddoedd, symudodd i New York, lie y bu yn gweithio fel adeiladydd.
Yr Herald Gymraeg ~ Rhagfyr 25ain 1906.
MR. HENRY JONES, ENGLEWOOD, NEW JERSEY.
Dydd Sadwrn, Tachwedd 24ain, yn ei gartref ar Hillside Avenue, Englewood, New Jersey, bu farw Henry Jones, Cymro adnabyddus iawn yn y dref, gan ei fod yn byw yno ers 46 mlynedd. Ganwyd ef ger Llanllyfni, sir Caernarfon 79 mlynedd yn ôl.Melinydd oedd ei dad, ac yn yr hen gartref arosodd y mab nes oedd yn 19 mlwydd oed, pryd y moriodd am Boston. Oddi yno prysurodd i Utica, lle hefyd y bu brawd iddo yn hyw, y diweddar William Jones, 'Cornhill;' ac y dysgodd y gelfyddyd o saer coed. Ymhen rhai blynyduoedd symudodd i New York, lle y bu yn gweithio fel adeiladydd.
Yn 1859 ymbriododd â Miss Winifred Davies merch y diweddar hen ddiacon Rees Davies. Yn Mawrth, 1861, gwnaethant en cartref yn Englewood, New Jersey, lle y bu ef yn adeiladydd llwyddianus am lawer o flynyddau.
Yr oedd yn grefyddol o'i febyd, ac ar un adeg bu yn meddwl am fyned yn bregethwr. Parhaodd yn weithgar fel aelod o'r eglwys Bresbyteraidd a chyda'r Ysgol Sul yn Englewood nes i henaint ei oddiweddyd. Gwnaeth hefyd lawer o waith cenhadol yn mhlith y bobl dduon ac eraill, pan nad oedd Englewood ond lle cynmharol fychan. Etholwyd ef yn ddiacon yn ei eglwys yn 187 ; ac yn ddiweddarach yn henadur. Gwerinwr ydoedd o ran ei ddaliadau gwleidyddol; ac ymffrostiai iddo gael rhoddi ei bleidiais gyntaf dros Abraham Lincoln.
Yr oedd wedi claddu ei briod er's blynyddau. Gadawodd ddwy ferch, Mrs. F. S. Bennett, Englewood a Mrs. J. P. Williams, Wilkes-Barre; hefyd dau wŷr, Harry a Winifred Williams. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol iddo yn Vermilye Chapel, gan y Parch. Dr. S. M. Hamilton, a dodwyd ei weddillion i orwedd wrth ochr ei briod yn Brookside. Er wedi pres wylio ar wahan i'w genedl er's cynnifer o flynyddau, parhai i deimlo dyddordeb mewn pethau Cymreig, a darllenai y Drych yn fanwl hyd ei gystudd olaf.