MR. WILLIAM J. JONES.

Mehefin 8, 1906, ar ol blynyddoedd o waeledd bu farw Mr. William J. Jones, Glan-yr-Afon, Columbus, Wisconsin, ar ol cyraedd yr oedran aeddfed o 86 mlwydd er Ebrill y 1Ofed. Ac ar ol gwneyd y lle mwyaf iddo ei hunan yn serch ac edmygedd goreuon ei gydnabod trwy ei gywirdeb, ei ffyddlondeb a'i ysbryd caredig a chrefyddol.

Ganwyd ef yn mhlwyf Llanrug, Sir Gaernarfon, G. C, mewn lle o'r enw Tros-y-Ffordd. Enwau ei rieni oedd John a Catherine Jones.

Perthyn i'r eglwys sefydledig yr oedd ei dad yn Nghymru, ond bu yn aelod ffyddlawn gyda'r Methodistiaid yn Bethel, Columbus, yn rhan olaf ei einoes. Bu farw Mai 23, 1853, yn 60 mlwydd oed.

Yr oedd ei fam yn ferch i flaenor o nod gyda'r Methodistiaid yn Nghymru, yr adnabyddus Robert Prichard, Tyddynelen, Llanrug. Yr oedd iddi un brawd yn flaenor yn yr un lle, a brawd arall, Richard Roberts, yn gerddor o fri yn Bethesda, a fu o wasanaeth gwerthfawr yn y cylch hwnw. Adnabyddid ef yn ei amser fel arweinydd "Cor yr Aelwyd." Yr oedd Catherine Jones hithau yn fedrus gyda y canu, ac yn ddynes ddeallus a galluog mewn cylchoedd amrywiol.

Diau i'w dylanwad fod o fendith amlwg yn nghodiad y plant, pedwar o ba rai bellach a fu farw mewn oedran yn y wlad hon; oll yn gymeriadau o nod yn eglwys Crist. Dechreuodd Wm. J. Jones gymeryd dyddordeb mewn cerddoriaeth yn fachgen ieuanc, a chafodd hyfforddiad gwerthfawr gan ei ewyrth enwog. Yn mlwyddyn cychwyniad y sefydliad Cymreig gerllaw Columbus, yn 1845, yn mysg lluaws eraill o gydnabod a pherthynasau, ymfudodd yntau gan ymsefydlu yn ardal Bethel. Bu yn treulio rhyw dair blynedd rhwng 1847 ac 1851 gerllaw Dodgeville, lle yr oedd llawer o Gymry yn cyrchu y pryd hwnw.

Yn ystod ei arhosiad yno daeth i gymundeb a'r cerddor anfarwol William Roberts, gynt o Rhiwlas, Llanddeiniolen, G. C, yr hwn a enillodd safle heb fod yn ail i neb yn America, beth bynag am Gymru, yn ei oes fer, er iddo farw o'r cholera yn Dodgeville pan nad oedd ond 31 mlwydd oed. Ar ol dychweliad Mr. Jones yn ol i Bethel yn 1851, galwyd ef i ofalu am ganiadaeth y cysegr yno, ac efe oedd yn arwain y cor fel y cerddor galluocaf oedd yno, a bu yn llenwi y safle gyda medr a ffyddlondeb hyd ei ymadawiad i ymsefydlu yn ninas Columbus.

Mai 1, 1852, priodwyd ef a Miss Catherine Jones, merch William R. a Catharine Jones, Brynllydan, y rhai a ddaethant i'r sefydliad o Llandegai, G. C. yn 1848. Profodd y briodas yn ffynonell mwynhad a mantais ddiamheuol o'r ddau tu, a bu y ddau yn cyd-gario beichiau bywyd, cyd-dynu a chyd-garu am dros 54 o fìynyddoedd, cyn i law angau ddatod y cysylltiad.

Ganwyd iddynt ddwy o ferched, yr hynaf yn briod a Mr. Evan Davies, Chicago, a'r ieuengaf, Miss Anna J. Jones, gartref yn gofalu am eu rhieni yn eu llesgedd ers blynyddoedd, a'r ddwy yn anrhydeddu cymeriad ac addysg eu rhieni yn eu cymeriad a'u buchedd ddiragrith. Oddeutu y flwyddyn 1882 symudodd i ymgartrefu yn Columbus, a bu o wasanaeth gwerthfawr i'r achos yno gyda'r canu, a phob cylch arall, nes i lesgedd diwedd oes ei wanhau a'i analluogi. Bu yn aelod dichlynaidd a ffyddlon iawn o'r eglwys yn Bethel, ac yn Columbus yn ddiweddarach, a phob amser yn llenwi ei gylch gyda gwylder a ffyddlondeb nodedig. Yn y cysylltiad hwn fel eraill fe ellir dweyd fod iddo "air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Nid fel cerddor yn unig yr oedd yn rhag- ori, ond trwy ddyfalwch i ddarllen a myfyrio, yr oedd yn meddu gwybodaeth eang; ac yn wr o farn dda ar bynciau crefyddol a chymdeithasol; yn ddyn heddychol, difeddwl ddrwg, ac yn llawn gwylder a gostyngeiddrwydd.

Er iddo dreulio llawer o'i oes grefyddol fel lluaws o'i frodyr yn ofni ei hun, a phryderu am ysbrydolrwydd ei grefydd, yn ystod ei gystudd, yr hwn a barhaodd am gyfnod o tua pedair blynedd, cyrhaeddodd y sicrwydd llawnaf ei fod yn meddu gwreiddyn y mater, ac yn y diwedd yr oedd addfedrwydd ei brofiad y fath nes peri iddo ddyheu am gael ei ollwng. Yn hytrach na grwgnach yn ei gystudd, yr oedd tynerwch addfed ei brofiad y fath, fel mai braint ddiamheuol oedd cael ymddyddan ag ef yn ei fisoedd cüweddaraf. Bu farw fel y bu fyw, yn dawel a heb frysio, a'i ymddiried yn llawn yn y Gwaredwr.

Mehefin 11, 1906, ymgasglodd tyrfa enfawr o'i gyfeillion a'i gydnabod i hebrwng ei weddillion i fynwent Bethel, lle y gorweddai gweddillion y mwyafrif o'i berthynasau a'i hen gyfeillion yn flaenorol. Cyflawnwyd y gwasanaeth, yn y ty, yn addoldy Nazareth, ac yn y fynwent, gan y Parchn. J. R. Jones a Robert Evans. Pregethodd y blaenaf, yn ol trefniad yr ymadawedig ei hunan, ar Salm 37: 37.

Heblaw ei weddw a'i ddwy ferch, gadawodd wyres a dwy o chwiorydd mewn galar a chwithdod ar ei ol.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Medi 1906