MR. WILLIAM T. JONES. WEST PULLMAN, ILLINOIS.
Tachwedd y 7fed, 1906, yn ei gartref cysurus yn West Pullman, Illinois, bu farw y cyfaill pur a'r priod hawddgar William T. Jones yn ei 76 mlwydd, pedwar mis a thri diwrnod oed.Ganwyd ein gwrthddrych yn Llanfairfechan, Sir Caernarfon. Enwau ei rieni oedd John a Mary Thomas. Pan yn 19eg oed daeth drosodd i'r wlad hon. Arosodd yn Utica, New York, am rai blynyddau, lle dysgodd y grefft o saer coed. Ac yn adeg y tan a ddinystriodd rhan helaeth o Chicago, symudodd yno, a chan ei fod yn grefftwr byd-enwog bu a llaw mewn ail adeiladu ystordai a rhai annedd mwyaf costus yn y ddinas.
Yn y flwyddyn 1859 symudodd i Cambria, Wisconsin, gan ddilyn ei alwedigaeth, ac yn 1861 ymunodd mewn priodas a Miss Elizabeth Jones, merch i Mr. a Mrs. Robert Jones, Water Side, fel yr adnabyddid hwy yn holl gylchoedd Cambria. Wedi eu arhosiad yn y lle uchod am rhai blynyddoedd fel foreman i gwmneia adeiladu. Dylanwadwyd arno gan Jones and Co., i ddyfod ì lawr i'r Plano Works i wneyd patrymau i'r moulders. Bu yn ngwasanaeth y cwmni hwn am lawn ddeuddeg mlynedd, ac yn ngwasanaeth y cwmni y gorphenodd ei yrfa.
Achos uniongyrchol ei farwolaeth oedd stroke o'r parlus. Cafodd anffawd yn y gwaith naw diwrnod yn flaenorol i hyny trwy i'r llif dryllio ei law; a dywedodd y meddyg mae dyma achosodd y stroke. Dywedir ei fod yn amyneddgar a hyderus iawn trwy y chwech wythnos o'i gystudd blin. Yr oedd ei feddwl yn hollol glir mron trwy ei gystudd.
Ymbortha gyda blas ar hen benillion Cymreig a'r hen adnodau: "Ni frysia'r hwn a gredo," "Byw i mi yw Crist a marw sydd yn elw," a.y., "Son am farw glywaf yma," "Mae'n hyfryd meddwl ambell dro wrth deithio anial le, Ar ol fy holl blinderau dwys caf orphwys yn y ne." Gan droi at ei gyfeillion dywedai fod pobpeth yn dda, ei fod wedi angori yn graig yr oesoedd; a'r ffydd fu unwaith yn sigledig ag egwan yn troi yn gyflawn olwg, a'i obaith yn berffaith fwynhad.
Elfen amlwg yn hanes ein gwrthddrych oedd manyldra gyda pobpeth. Teimla fod cyfranu at achos crefydd mor gysegredig ag offrymu gweddi, a rhoddodd siars ar ei briod, yn mysg pethau eraill, i ofalu am wneyd ei rhan mewn cyfranu at wahanol achosion crefydd. Rhagflaenwyd y tad i fyd arall un bachgen yn ei fabandod. Mae yn aros i gyd alaru a'r fam drallodus un mab a merch, sef Willie ac Anne. Mae Anne yn briod a William E. Jones, West Pullman, Illinois.
Cafwyd gwasanaeth yn ei gartref yn West Pullman, pryd y cymerodd tri o gweinidogion rhan, sef y Parchn. J. C. Jones, Geale a Lipincott; yna aed a'r hyn oedd farwol i Cambria. Aed ag ef i'r Capel Mawr, lle bu unwaith yn aelod ffyddlon am lawn un mlynedd ar ddeg. Yr oedd y capel yn orlawn o'i edmygwyr, a cafwyd gwasanaeth teilwng o'r amgylchiad gan y Parchn. J. A. Parry ac R. H. Evans, yna aed a'i weddillion i gladdfa y teulu wrth hen gapel Berea ar Portage Prairie, yn cael ei ddilyn gan lu o'i hen gyfeillion, pa rai fu unwaith yn anwylo ei gymdeithas.
Barnwr y gweddwon a thad yr amddifad a wylio dros ei briod a'i blant yw dymuniad cywir.
J. H. Roberts.