MRS. ELLEN J. PRITCHARD. PEN-Y-DAITH, COLUMBUS, WISCONSIN.
Nos Lun, Awst 6ed, 1906, ar ol rai misoedd o gystudd bu farw y chwaer uchod mewn tangnefedd heddychol yn 45 mlwydd oed.Merch ydoedd i Evan P. a Martha Jones, Coed-tyno. Brodor oedd ei thad o Glynog, Arfon, a'i mam o Tyddyn-y-Berth, Llanddeiniolen, Gogledd Cymru. Bu ei mam farw pan ydoedd hi ond 15eg mlwydd oed, felly daeth gofal ty ei thad arni hi ar ol hyny, yr hyn yn ddiau fu yn ysgol dda i'w pharotoi ar gyfer dyfodol eu bywyd. Llanwodd y cylch hwn gyda ffyddlondeb a medr di-gyffelyb.
Mehefln 10fed, 1890, ymbriododd a Richard J. Pritchard, mab i William M. ac Ellen Pritchard, Pen-y-daith. Yr oedd ei dad yn frodor o Tyddyn Bach, Brynsiencyn, Mon, a'i fam o Careg-y-Gwalch Bangor. Wedi eu huno mewn glan briodas symudodd Ellen o dy ei thad i hen gartref ei phriod, sef Pen-y-daith, gerllaw Capel Bethel, Columbus, Wisconsin, lle y trigodd hyd ddydd ei marwolaeth. Ganwyd iddynt ddau o fechgyn, sef William a Robert, y rhai sydd eto dan ofal ei tad gartref. Dygwyd hi i fyny ar fronau yr eglwys yn Bethel, yn mha un y bu yn aelod ffyddlawn, a thelir teyrnged iddi gan ei brodyr a'i chwiorydd yno fel cymeriad pur, addfwyn, dyner a diymhongar, ac mae wedi enill iddi ei hun le cynes yn mynwesau pawb a'i hadwaenai.
Difynai y Parch. John E. Jones, Milwaukee, frawddeg ar ddydd ei hangladd oedd yn hollol deilwng o honi, sef "Ni lygrasom ni neb," a chydsyniai pawb oedd yn ei hadnabod yn dda fod hyn yn wirionedd am dani. Nid oedd dim yn fwy croes i'w natur na dweyd na gwneyd dim a fyddai yn niwed i neb, a diameu mae cymeriad prin mewn cymdeithas ydoedd ei chymeriad hi.
Yr oedd yn wraig ofalus a thirion; a'i hymlyniad wrth ei phriod a'i phlant yn gryf hyd y diwedd, fel y dadganai ychydig cyn marw ei gofid oblegid eu gadael, eto diolchai iddynt oll am bob caredigrwydd tuag ati, a chysurai hwynt ar syniad y byddai iddynt hwythau ei dilyn cyn hir. Dymunai i'w phlant dyfu i fyny yn fechgyn rhinweddol a da.
Prydnawn dydd Mercher dilynol claddwyd yr hyn oedd farwol o honi yn mynwent Bethel, ac yr oedd y gynulleidfa fawr a ddaeth yn nghyd yn brawf o'r parch tuag ati a'r edmygedd o honi.
Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchn. John E. Jones, Milwaukee, a Robert W. Evans, Nazareth.
Gadawodd i alaru ar ei hol briod, dau fachgen yn nghyd a tad, un chwaer a dau frawd. Dymunwn nawdd Tad yr Amddifad a Barnwr y gweddwon trostynt oll.
Robert W. Evans. Columbus, Wisconsin.