JENNET ROBERTS. FAIR HAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Fair Haven lost one of her oldest residents, in the death Tuesday afternoon, at 3 o'clock, of Mrs. Pierce Roberts of River Street.Mrs. Roberts had a shock of paralysis about the middle of January and had gradually failed until death released her from pain and suffering.
Mrs. Roberts, whose maiden name was Janet Roberts, was born in Penmorfa, North Wales, in November 1827. When 18 years of age she was married to Pierce Roberts. They came to this country some six years later, going to Pennsylvania, where they lived for some years in the town now known as delta. From there they rfemoved to Racine, Wisconsin, and they came to this vicinity in 1860. Thirty eight years ago, the first day of January, they moved into the house which has since been their home, and where death came to the good mother.
Of the large family of thirteen born to Mr. and Mrs. Roberts there are living nine survivors, Mrs. Winnie Fadden, Greenwich, New York, J.P. Roberts, Calumet, Michigan, Margaret and Jennie Roberts, Glens Falls, New York, Harry J. Roberts of Elizabeth, New Jersey, Robert P. Roberts and Mary A. Roberts of Fair Haven, Edward B. Roberts of New York and Will B. Roberts of this place. There are also thirteen grandchildren and two great grandchildren living.
Mrs. Roberts was an active and industrious body during all years of her life and was esteemed by all for her neighbourly traits of character. She had been a member, since girlhood of the Welsh Presbyterian Church and was constant in attendance upon its services, even unto the very last. She was in truth a good mother and her children and children's children rise up and call her blessed.
The funeral will take place, Saturday afternoon, at 2 o'clock, in the Welsh Presbyterian Church. The Rev. John R. Williams, pastor of the church will officiate. He will be assisted by the pastor of the Welsh Congregational church and Rev. E. D. Humphrey.
Fair Haven Era ~ April 26th, 1906.
MRS. JENNET ROBERTS.
Bu farw Mrs. Jennet Roberts yn Fair Haven, Vermont, y 23ain o Ebrill, 1906, yn 78 mlwydd oed, ar ol dioddef cystudd dwys dros amryw wythnosau yn dawel a goddefgar. Ganwyd hi yn Penmorfa, Sir Gaernarfon, Cymru. Ei rhieni oeddynt John a Gwen Roberts. Ei thad oedd fab Bryn Sguboria, Trawsfynydd, a'i mam yn ferch Bwlch-y-Fedwen, Pen-y-morfa. Ei thad ydoedd gadben llong a enwid Lord Palmerston, yr hwn fu farw yn sydyn iawn ac anysgwyliadwy ar un o'i fordeithiau, pan oedd gwrthddrych y cofnodion hyn yn lled ieuanc.Yn 1846 symudodd Mrs. Roberts i Festiniog i gartrefu gydag ewyrth iddi, yr hwn oedd fasnachwr yn y lle. Yma daeth i adnabyddiaeth a gwr ieuanc, Mr. Pierce Roberts, ac ar y 15fed o Medi, 1847, unwyd y ddau mewn glan briodas. Yn Ebrill, 1851, yr oeddynt yn croesi y Werydd am America yn y Forest Queen, yn yr hon yr oedd 200 o ymfudwyr Cymreig, ac un o'r cyfryw oedd Mr. John Pugh, o Cincinnati, yr hwn a fu yn garedig iawn wrthynt yn ystod y fordaith, yn arbenig pan yn eu profedigaeth lem yn gorfod rhoddi corff eu hanwyl blentyn mewn dyfrllyd fedd.
Byddai ein chwaer yn son yn fynych am garedigrwydd y gwr da hwn, yn neillduol yn yr amgylchiad difrifol a enwyd. Ar eu glaniad yn America cyfeiriasant i Peach Bottom, West Bangor yn awr, yn Swydd York, Pa., lle y trigai amryw gyfeillion a adwaenent, a buont yn cartrefu yno saith mlynedd. Symudasant oddiyno i Racine, Wisconsin, lle y buont am ddwy flynedd.
Oddiyno symudasant yn ol i'r dwyrain gan ledu eu pabell yn Fair Haven, Vermont. Hwn fu y symudiad diweddaf i Mrs. Roberts yn ei hymdaith ddaearol, a digon tebyg mai yr olaf yn yr ystyr hwn a fydd i'w phriod oedranus, yr hwn erbyn hyn sydd mewn llesgedd a gwendid ac mewn galar dwys am briod ei fynwes. Yn ystod eu hymdeithiad profodd y rhiaint hyn ran helaeth o brofedigaethau bywyd, ond cawsant nerth i ymgynal fel Cristionogion yn yr ystormydd a'u goddiweddodd.
Yr oedd Mrs. Roberts yn meddu yr elfenau hyny sydd yn gwneyd i fyny gymeriad pur a hardd. Daeth i adnabyddiaeth a'i Gwaredwr yn ieuanc — parhaodd y gymdeithas hyd y diwedd. Gwelodd ef yn rhodio y tonau mewn llawer tymestl; ond yn awr daeth i'w chymeryd ato ei hun i'r pur drigfanau. Cylch pwysig defnyddioldeb Mrs. Roberts oedd y teulu, yr eglwys a'r gymydogaeth; yn y cylch hwn y disgleirai ei rhinweddau Cristionogol.
Bu yn briod a mam mewn ystyr lawn. Yn yr eglwys byddai ei hysbryd bob amser yn grefyddol ac yn ffyddlawn yn y cynulliadau. Fel cymydog yr oedd o nodwedd ragorol, yn agos, yn ddoeth ac yn llawn caredigrwydd. Chwith genym weled ein hanwyl frawd, ei phriod, ei hunain — felly teimla ei fod yn awr, ei hunan, er fod rhai o'i blant yn agos. Ond gwyr at bwy i droi ac i ddal cymdeithas. Y mae wedi gwasanaethu Iesu Grist yn ffyddlon fel swyddog yn ei eglwys am 40 mlynedd, ac nis gedy Ef ei was yn awr mewn henaint a gwendid.
Ganwyd iddynt 13 o blant — naw yn aros mewn galar ar ol mam: Mrs. Winfred (Gwen) Fadden, yn Greenwich, N. Y.; John yn Michigan; Henry yn Elizabeth, N. J.; Margaret a Jennie yn Glen's Falls, N. Y.; Edward yn New York; Robert, Mary a William yn Fair Haven. Mae hefyd yn aros 13 o wyrion, a dau o orwyrion.
Y Sadwrn dylynol hebryngwyd rhan farwol ein chwaer gan dyrfa luosog i fynwent Cedar Grove i orphwys hyd foreu yr olaf ddydd.
Cynaliwyd y gwasanaeth crefyddol yn addoldy y T. C. gan y Parch. J. Rhiwen Williams, a chynorthwywyd ef gan y Parchn. John W. Morris, Poultney, D. L. Williams a'r ysgrifenydd.