JOHN H. WILLIAMS. EMPORIA, LYON COUNTY, KANSAS.

Y mae marwolaeth pobl dduwiol yn peri gwagder a cholled yn y cylch y maent yn troi ynddo. Felly am farwolaeth ein hen gyfaill hoff John H. Williams. Nid yn unig yr oedd ganddo ei gylch yn yr hwn y troai, ond yr oedd ganddo ei waith; ac am y gweithiwr y mae colled pob amser. Nis gallwn feddwl am John H. Williams ond mewn cysylltiad a thy yr Arglwydd a gwaith yr Arglwydd. Yr oedd wrth ei fodd yn y capel, a meddai ei le neillduol i eistedd, a byddai yno bob amser, oni byddai rhyw rwystr mawr ar y ffordd. Yr oedd yn barod, fel rheol, i gymeryd rhan gyhoeddus mewn gweddi, dweyd profiad, neu siarad ar ryw fater fyddai ger bron; ac fel gwrandawr, yr oedd yn gynorthwy gwerthfawr i'w weinidog; ond y mae ei le yn hen eglwys anwyl y Tabernacl yn wag, ac y mae ein calon yn hiraethu wrth feddwl am y golled fawr sydd ar ei ol.

Ganwyd yr ymadawedig mewn lle o'r enw Bryn-y-ffynon, ar derfyn y Gaerwen, hen gartref yr enwog Dewi Wyn o Eifion, yn mis Mawrth, 1831. Yr oedd Hugh ac Ellinor Williams, ei rieni, yn bobl grefyddol, ac yr oedd ol dylanwad y cartref crefyddol hwnw arno yntau drwy ei oes.

Yn ol arfer y dyddiau hyny bu raid iddo droi allan "i weini" yn bur ieuanc; ac yn Eifionydd y treuliodd bron yr oll o'i amser. Yno y dechreuodd ei yrfa fel crefyddwr; ac yn hen gapel Bryn Engan y cymerodd iau crefydd mewn proffes gyhoeddus am y tro cyntaf. Llawer tro y clywsom ef yn adrodd hanes ei dderbyniad i aelodaeth eglwysig gan yr hen bregethwr hynod Robert Dafydd, yr hwn a roddodd gynghorion gwerthfawr iddo ar yr amgylchiad. Dyma un o honynt, "John bach, mae gen' ti rieni duwiol, ond cofia nad aiff crefydd dy dad a dy fam mo honot ti i'r nefoedd. Rhaid i ti gael crefydd dy hunan."

Nid anghofiodd y cyngor tra fu byw; a bu yn ddyfal drwy ei oes i gael crefydd ei hunan. Cafodd fantais i adnabod amryw o enwogion y pwlpud yn y cyfnod hwnw, ac yr oedd hefyd yn bersonol adnabyddus a Dewi Wyn, Robert Ap Gwilym, Sion Wyn, y Parch. Richard Jones, Coedcae Du, wedi hyny o'r "Wern," a chofiai Nicander yn fachgen.

Daeth i America yn niwedd Mawrth, 1852, wedi treulio mis cyfan ar y Werydd. Pan laniodd yn New York yr oedd yn bur wael a gwan, wedi bod dan eithaf creulonderau clefyd y mor, ac ni feddai ond un ddolar o arian yn ei boced. Yn Nhalaeth New York, sef cylchoedd Oneida a Middle Granville, y treuliodd y ddwy flynedd gyntaf o'i oes yn America.

Yn 1854 aeth i Wisconsin, a threuliodd oddeutu dwy flynedd yn nghylchoedd Dodgeville a Cambria. Yn 1856 daeth i Kansas, gan sefydlu ar y cyntaf gerllaw Lawrence, lle y cychwynwyd sefydliad Cymreig. Yn ngauaf 1858-9 aeth ar ymweliad a'i dad, ei chwaer Ellen, yr hon sydd eto yn fyw, a'i frodyr yn Wyoming a Cattaraugus County, N. Y. Cyn hir dychwelodd i Kansas, a daeth ei frodyr Howell a Hugh gydag ef. Yn 1860 aethant i Wisconsin, lle yr arhosodd am bedair neu bum' mlynedd.

Yn mis Mawrth, 1864, ymbriododd gydag Ann, merch hynaf y diweddar W. Ap Williams. Yn mis Mawrth, 1865, ganwyd eu hunig blentyn, sef Hugh H. Williams, Ll. M., yr hwn sydd yn llanw lle cyfrifol yn Swyddfa Dirol y Llywodraeth yn Washington, D. C, er's blynyddau, ac sydd fel ei dad a'i fam, "yn Israeliad yn wir."

Yn mis Ebrill, 1865, symudasant fel teulu i Emporia, Kansas. Buont yn amaethu ar Dry Creek, gerllaw Emporia, am agos i ugain mlynedd, a bu yntau yn henadur yn eglwys Salem bron o'r adeg yr aeth yno hyd nes iddynt werthu y fferm a symud i fyw i'r dref yn 1885.

Bu ei briod farw Medi 14eg, 1901, ar ol cystudd maith a blin, gan ei adael yn alarus fel pererin wrtho ei hun. Gwnaeth ei fab bob peth a allai er ei gysuro a gofalu am dano. Yn wir yr oedd y ddau fel Dafydd a Jonathan, yn anwyl iawn o'u gilydd. Ond yr oedd yntau fel Rahel yn Ramah, "Ni fynai ei gysuro" am nad oedd ei anwyl Ann. Hiraethai am adeg ei ollyngdod, a gweddiai lawer am barodrwydd, "O am gael bod yn barod," meddai, yn fynych ar weddi ac wrth ddweyd ei brofiad. Yr oedd John H. Williams yn ddarllenwr mawr. Er mai prin iawn fu ei addysg elfenol yn moreu ei oes, yr oedd drwy ymdrech a dyfal-barhad wedi dod yn bur gyfarwydd yn yr iaith Saesneg.

Cymerai gryn ddyddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac yr oedd yn Werinwr selog drwy ei oes, a bu yn gynrychiolydd mewn cynhadleddau lleol lawer gwaith. Gwyddom hefyd iddo fod yn selog ac ymdreehgar dros ei gydgenedl ar wahanol adegau, drwy eu cefnogi yn eu hymgais am wahanol swyddau. Yn y cylch crefyddol fodd bynag yr oedd ei ddyddordeb uchaf bob amser. Bu ganddo law amlwg yn ngychwyniad Cyfarfod Ysgol pedwar misol Salem a'r Tabernacl, agos i ddeugain mlynedd yn ol, a pharhaodd yn ei ffyddlondeb tuag ato hyd ei fedd.

Bu hefyd yr un mor ffyddlon i gangen Feibl Gymdeithas Emporia a'r cylch. Yr oedd yn meddu dyddordeb byw iawn yn y bobl ieuainc, a byddai bob amser yn barod i wneyd aberth er eu mwyn. Anogai hwynt yn aml i geisio crefydd foreu, "Mynwch adnabod y Cywir Hwnw, bobol ifanc," meddai yn aml.

Wrth gyfeirio ato ei hunan clywsom ef unwaith yn dweyd "Yn Mrynengan y ces i olwg ar fy nghyflwr gynta erioed, ac yn Mrynengau y daethwm i i'r cysgod. Wedyn mi gefais "Eistedd dan ei gysgod" yn Mryn-bachau, a bu ei ffrwyth yn felus i'm genau lawer tro yn y Bont Fechan (sef y tair eglwys y bu yn aelod o honynt yn Nghymru), a diolch byth, chollis i mo'i flas o wedi dod i'r Merica," meddai.

Bu yn garedig iawn i'r ysgrifenydd pan aethom i Emporia gyntaf, a bu yn ffyddlon a chefnogol iawn i ni tra fuom yno. Ni bu bwlch yn ein cyfeillgarwch, ac y mae ei goffadwriaeth ef a'i briod yn fendigedig genym. Mae colled eglwys y Tabernacl, a'i gweinidog newydd, yn fawr ar ei ol. Yr oedd yn athraw rhagorol yn yr Ysgol Sabbothol er's degau o fiynyddau, ac ar fwy nac un amgylchiad gwnaed cydnabyddiaeth sylweddol o'i werth fel athraw gan ei ddosbarth.

Yr oedd yn siaradwr cyhoeddus rhwydd a naturiol, ac o chwerwedd rhagluniaeth digon tywyll, caed profiadau disglaer a melus lawer tro ganddo. Yr oedd yn rymus mewn gweddi, ac nid anghofiwn byth ei daerineb toddedig ar lawer adeg. Dywed ein hen gyfeillion L. W. Lewis, W. M. Davis, R. J. Roberts ac eraill wrth ysgrifenu atom i'n hysbysu o'i farwolaeth ei fod yn dechreu cyfarfod gweddi undebol yn nghapel Bethania y noswaith cyn i'r alwad ddod i'w gyrchu adref. Ymddengys ei fod yn nodedig o afaelgar y noswaith hono, a chaed yno gyfarfod nodedig iawn. "Pa ryfedd, meddai un o'r cyfeillion yn ei lythyr am dano, ei fod mor anghyffredin o rymus pan y cofiwn ei fod mor agos i'r nefoedd."

Nos dranoeth yr oedd y cyfarfod gweddi yn cael ei gynal yn y Tabernacl, ac yr oedd yntau yno, ac yn ei iechyd arferol ar y dechreu, ond cyn diwedd y cyfarfod aeth allan, am nad oedd yn teimlo yn dda, ac aeth i'w letty. Galwyd Dr. Davies i'w weled yn fuan, a daeth yntau i deimlo yn llawer gwell. Perswadiodd bawb i fyned i orphwys, ac ni fynai i neb aros i fyny gydag ef am ei fod yn teimlo yn bur dda. Oddeutu dau o'r gloch y boreu Gwener, Chwefror 9fed, 1906, cododd Mr. E. W. Jones, gyda'r hwn yr oedd yn lletya er's tro, am ei fod yn byw yn llawer agosach i'r capel na'i hen gartref ef; aeth i'w ystafell i edrych pa fodd yr oedd. Edrychai yn naturiol. Siaradodd ag ef, ond ni chafodd atebiad. Tybiodd Jones mai cysgu yr oedd, a bu ar fedr myned yn ol i'w wely; ond erbyn edrych yn fanylach deallodd fod ei enaid wedi hedeg i'r wlad well, yr hon a chwenychai gymaint. Cafodd fyned adref yn hollol fel y dymunai; yn dawel, heb roi trafferth i neb. Gwyn ei fyd.

Cynhaliwyd ei wasanaeth angladdol y dydd Llun dilynol, Chwefror 12fed. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. Mr. Mathews (A.) gan nad oedd y Parch. R. H. Jones eto wedi dod yno. Cymerwyd rhan hefyd gan y Parchn. D. Todd Jones, D.D., a E. P. Elcock (Pres.) Yr oedd y canu yn dda dan ofal ein hen gyfaill T. H. Lewis, a chanasant ddetholiad o hoff emynau yr ymadawedig, megys "Torf o'm brodyr sydd yn gor- wedd," a.y., "Yn dy waith y mae fy mywyd," a.y., a.y.

Daearwyd ei weddillion gan dyrfa fawr wrth ochr eiddo ei anwyl Ann yn mynwent isaf Dry Creek.
J. Michael Hughes. Seattle, Washington.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1906.