MR. RICHARD C. WILLIAMS.
Boreu Mawrth, Ebrill 1Ofed, 1906, ar ol ychydig wythnosau o waeledd bu farw yn ei gartref yn agos i Barneveld, Wisconsin, Mr. Richard C. Williams, bron cyrraedd ei ddeg-a-thriugain mlwydd oed. Mab ydoedd i Edward Williams a'i briod, Sydney, Porthmadoc, Caernarfon, G. C. Ganwyd ef Rhagfyr 22, 1836.Symudodd gyda'i rieni i America yn y flwyddyn 1842, gan sefydlu yn Racine, Wisconsin. Yn 1845 symudasant i Ridgeway, Wis, Barneveld yn awr. Y teulu yn mhlith y bobl wynion cyntaf a sefydlasant yn y gymydogaeth. Yn mhen ychydig flynyddau symudodd Mr. Williams i'r fferm, ar yr hon y bu fyw hyd ei farwolaeth. Yn mhen ychydig amser wedi symud ar y fferm bu farw ei dad, gan adael ei briod a chwech o blant yn weddw ac amddifad mewn gwlad estronol, a chan mai Richard oedd yr hynaf o'r plant syrthiodd cyfrifoldeb a gofal mawr arno pan ond bachgen tuag 11 mlwydd oed, ond trwy ddiwydrwydd a gofal cadwodd gartref cysurus i'w fam a gweddill o'r plant. Dan goeden wrth ddrws eu 'log cabin' hwy y cadwyd yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn y gymydogaeth, a parhawyd i gynal gwasanaeth crefyddol yn ei gartref ef bob yn ail a chymydogion eraill hyd nes yr adeiladwyd ysgoldy.
Chwefror 22, 1869, priododd a Miss Margaret Rees o'r un gymydogaeth. Ganwyd iddynt dri o feibion a dwy o ferched, sef David, Artesian, S. D.; Edward a Thomas, Barneveld, Wisconsin; a Mrs. Tresecler, Oskaloosa, Iowa, a Mrs. T. Lynch, yr hon oedd wedi ei ragflaenu ers rhai blynyddau.
Awst 7, 1882, bu farw Mrs. Williams. Mehefin 1, 1884, ail briododd Mr. Williams a Mrs. Catherine Kirshbawm o gymydogaeth Barneveld. Ganwyd iddynt un ferch, sef Maud, yr hon sydd gartref gyda'i mam yn ei galar.
Dyma ddywedyd am dano ddydd ei angladd: "In Mr. Williams' death the church has lost a good Christian and the community a good citizen. During his long residence in this communiy he held several offices of trust and honor for about 40 years. He was clerk of the school district, in which he took great interest, for the same length of time he served continuously as justice of the peace. He was town assessor for one term, and chairman of the board of supervisors for two years, having re- signed that office few weeks ago on account of ill health."
Ymunodd Mr. Williams a chrefydd pan yn ddyn ieuanc. ac er cyfarfod a llawer ystorm ar fordaith bywyd cafodd nerth i ddal ei afael yn ffyddlon gyda chrefydd hyd y diwedd. Bu yn aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr am flynyddau lawer. Nid oedd ganddo brofiad uchel fel crefyddwr un adeg; eto yr oedd yn ymddangos fel un oedd yn sylweddoli pwysicrwydd yr hyn ddywedai yn fynych yn y gyfeillach, "Na thwyller chwi, ni watwara Duw, canys beth bynag a hauo dyn hefyd a fed efe." Mawr hyderwn ei fod yntau wedi hau i'r ysbryd ac heddyw yn medi bywyd tra- gwyddol. Claddwyd ei gorff yn barchus iawn y dydd Sadwrn canlynol yn y White Church Cemetery, ger Barneveld.
Gweinyddwyd yn yr angladd gan ei hen weinidog, Parch. Hugh Owen, LeSueur, Minnesota. Caffed ei briod anwyl a'i blant oll nerth i lechu yn nghysgod yr Hollalluog, ac i fod yn barod erbyn "Dyfodiad Mab y dyn."