DR. THOMAS MORRIS, ALMA, WABAUNSEE COUNTY, KANSAS.
Roedd Dr. Thomas Morris yn fab i Thomas a Jonet Morris, Monachdy, Bryncroes.Cafodd ei fedyddio yn Eglwys y Santes Fair, Bryncroes ar 28/10/1827. Yr oedd yn cael hyfforddi i fod yn "druggist".
Yng nghofnodion y llong "North Atlantic" gellir gweld fod Thomas Morris, 23 oed druggist wedi hwylio o Lerpwl ar 28ain Ebrill 1851. Ar ôl cyrraedd yr America bu yn gweithio fel meddyg yn ardal Remsen yn nhalaith Efrog Newydd.
Priododd gyda Jane Wheldon merch William Wheldon (1809-1862) a Jane Wheldon (1792-1877) oedd wedi ymfudo o i America o ardal Llanberis.
Tua 1866 symydodd y teulu i fyw i Emporia, Kansas, ble yr oedd yn dal i weithio fel meddyg.
Bu Jane Wheldon Morris farw yn 1872 a Dr Thomas Morris yn 1907,yn 79 oed.