MR. GRIFFITH D. GRIFFITHS, PROSPECT, COLORADO.

Ganed y gŵr hwn yn ardal Bethesda, Arfon.

Ymfudodd i Vermont yn 1865, ac oddiyno i'r talaethau deheuol.

Yn 1874 daeth i Colorado gan sefydlu yn Georgetown. Cawn iddo symud yn dra mynych, ond mae yn swydd Gunnison yn awr ers 9 mlynedd, ac yn rhan-berchenog yn rhai o fwngloddiau goreu Rock Creek a Galena Mountain.

Cafodd ei ethol yn Ustus Heddwch yn y swydd hon amryw droion, ac y mae iddo air da yn mhob lle y bu yn byw.

Mae Griff yn Gymro trwyadl ac yn caru pob peth Cymreig. Mae yn llenor a bardd tra gwych, ac wedi bod yn fuddugoliaethus amryw droion mewn Eisteddfodau lleol, ac ar bob amgylchiad ceir ef yn barod i helpu ei gyd-ddyn.

History of the Welsh people of Colorado.