MR. JOHN E. WILLIAMS. WEST BANGOR, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.
Bu farw gwrthddrych ein hysgrif dydd Sadwrn, Gorphenaf 18fed, 1908, ar ol cystudd maith, yr hwn a ddyoddefodd gyda'r tawelwch a'r boddlonrwydd hwnw nad oes dim ond gwir grefydd a'i cynhyrcha.Ganwyd ef yn Nghorris, Meirionydd, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1832. Yn y flwyddyn 1852 daeth trosodd i'r wlad hon ac ymsefydlodd yn West Bangor, lle yr arhosodd hyd ei farwolaeth; treuliodd felly y cyfnod maith o un mlynedd a'r bymtheg a deugain yn y cylch hwn.
Yn y flwyddyn 1854 ymunodd mewn glan briodas a Jane Davies o'r ardal hon, yr hon a brofodd yn briod ffyddlawn a gofalus iddo hyd y diwedd, a chydymdeimlwn yn fawr a hi yn ei galar dwys ar ei ol. Anfynych y cawn hanes rhai wedi treulio cyfnod mor faith o fewn rhwymyn y cwlwm priodasol, sef tair blyned ar ddeg a deugain.
Ganwyd iddynt ddeg o blant, chwech o ba rai sydd yn awr yn fyw. Ffaith arall ddyddorol ynglyn a Mr. Williams ydoedd ei fod yn un o aelodau cyntaf yr eglwys hon ar ei sefydliad. Nid oes eto yn aros o'r rhai cyntaf ond rhyw ddau neu dri, ac y mae ein parch yn fawr iddynt ar gyfrif eu ffyddlondeb diball gyda'r achos ar hyd y blynyddoedd, a gallwn yn ddibetrus ychwanegu yr un dystiolaeth am ein brawd ymadawedig. Nis gallwn ddweyd ei fod wedi ei gynes-gaeddu a doniau mawrion, ar ryw ystyr, "Gwas un dalent" ydoedd, ond cadwodd ei dalent yn loew yn ngwasanaeth ei Feistr. Marchnataodd yn ffyddlawn a hi ar hyd ei oes, ac y mae wedi myned i mewn i lawenydd ei Arglwydd erbyn heddyw yn swn y geiriau gogoneddus, "Da was, da a ffyddlawn, buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."
Y mae yn debyg mai y cyfeiriad y rhagorai ein cyfail fwyaf ynddo ydoedd fel athraw ar y plant yn yr Ysgol Sul. Ar ddydd ei angladd clywsom amryw ddynion ieuainc, sydd erbyn heddyw yn athrawon eu hunain, yn dwyn tystiolaeth ddifloesgni iddo o berthynas i hyn gan ddweyd, "John E. Williams oedd yr athraw goreu a gefais i erioed," a phwy a wyr pa faint o les a wnaeth i eneidiau gwerthfawr y rhai a ddaethant dan ei ofal ar hyd y blynyddoedd meithion y bu yn athraw yn ein Hysgol Sabbothol?
Efe hefyd oedd goruchwyliwr y "Cyfaill" yn ein heglwys, a phe buasai pob goruchwyliwr mor ffyddlawn i'w ymddiriedaeth a'r brawd hwn, fe fuasai llwyddiant y "Cyfaill" yn llawer amlycach nag y mae. Edrychai ar y swydd yn un bwysig a gwnai ei holl egni i gael yr arian i gyd i mewn, ac os na ddeuant talai hwynt o'i logell ei hun.
Dydd Mawrth, Gorphenaf 20fed, daeth tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo, ac yr oedd y teimladau mwyaf dwys yn cael eu harddangos gan bawb o'i gydnabod. Yr oedd rhyw eneiniad rhyfedd ar y gwasanaeth yn enwedig y canu, a pha ryfedd pan feddyliwn ein bod yn hebrwng un o ffyddloniaid yr achos am gynifer o flynyddoedd i dy ei hir gartref, a'n gweddi ydyw ar i Dduw godi y bylchau sydd wedi eu gwneuthur trwy angau yn ein heglwys yn ystod y blynyddoedd diweddaf hyn. Yr ydym wedi colli dynion cryfion eu cymeriadau — dynion sydd wedi bod yn golofnau cadarn dan yr achos, ond y mae yn gysur meddwl fod Duw yn aros yr un o hyd.
Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y gweinidog a'r Parch. W. L. McCormick, gweinidog y Presbyteriaid. Daearwyd ei weddillion yn mynwent Slateville.
W. C. R.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1908.
MR. JOHN E. WILLIAMS. WEST BANGOR, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.
At his home in West Bangor, on Saturday July 18th 1908 at 2 pm, the spirit of one of our oldest and most highly respected citizens took its flight, and one, who had been a great sufferer for som time "entered into rest."Mr. Williams was a Welshman by birth, having been born in Corris, Merionethshire, North Wales in the year of 1832 and was the brother of the late William E. and Ellis Williams.
On March 17th 1852, he with several others among whom were his brother William E. Williams, Owen Roberts (brother of W. C. Roberts), Rev. Evan D. Humphries (brother of Humphrey Humphries), William J. Rowlands and the lare Richard Jones, sailed from Liverpool for America, arriving in New York, April 15th. They then came to West Bangor where they engaged in the slate business.
In 1854 Mr. Williams was married to Jane, daughter of Griffith and Luce Davies; the ceremony being performed by the late Rev. T. M. Crawford, who then lived on the William Ramsay farm. Mr. Ramsay was one of the witnesses, also W. J. Rowland and Miss Ellen Williams (now Mrs. Ellis Rowlands, of Wisconsin) who stood up with the contracting parties.
In 1862 he was seized with the spirit of adventure and went to California where he ramained until 1865, when he returened to this place, resuming his former occupation and where he since made his home.
Besides his wife he is survived by the following children - Evan, John, David, Griffith, Kate (Mrs. Booth), Lizzie (Mrs Daniel Jones). Another daughter, Mrs. Nellie Roberts, died about 12 years ago. The remaining descendants comprise 13 grand children and 1 great grand child.
Mr. William was a patient and submissive sufferer, believing on the Lord Jesus Christ for Salvation.
In his home the true excellence of his Christian character was revealed to wife and children. He was always affectionate and kind, a loving husband, father and grand father.
In the Rehoboth church of which he was one of the establishers, he was faithful member, always to be found in his place in the church and Sabbath School in rain or shine, heat or cold.
The church, the Sabbath School, the pastor and the community all feel the loss when such a man is called home. But our loss is his gain. His seat in the earthly Sanctuary is vacant but he sits at the "Marriage Supper of the Lamb," in Heaven.
The funeral took place on Tuesday afternoon from the Rehoboth church. His pastor Rev. W. C. Rowlands was assisted by Rev. W. L. McCormick, of the Slateville Presbyterian Church. His body was laid to rest in the Slateville cemetery.
The pallbearers were his two grandsons - John G. Williams and Norman Jones and four nephews - John R. and William Williams, Ellis Griffith and Johnnie Williams.